Defnyddio ioga i wella safonau ymddygiad a gwella medrau canolbwyntio
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol :
Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais uchel ar les a sicrwydd emosiynol, gan ystyried teimladau disgyblion trwy’r ysgol yn ddyddiol ac ymateb i unrhyw bryderon yn syth. Er mwyn codi safonau ymddygiad ar draws yr ysgol a gwella sgiliau canolbwyntio, arsylwyd ar arfer dda o ran ioga mewn ysgol gynradd yn Sir Abertawe. Yn sgil yr ymweliad hwn, trefnwyd hyfforddiant un diwrnod i ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni ynglŷn â ioga. Ariannwyd y prosiect trwy grant.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Cynhelir sesiynau ioga trwy gydol yr ysgol ar wahanol adegau o’r dydd i hybu safonau meddylgarwch disgyblion a staff. Mae’n helpu gwella sgiliau canolbwyntio, magu gwydnwch ac annog disgyblion i ymgysylltu â dysgu, gan ychwanegu gwerth at raglenni addysg sy’n bodoli eisoes. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy hyn yr un mor effeithiol gartref ag yn yr ysgol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r gwaith hwn wedi codi safonau lles y staff a’r disgyblion, ac wedi codi safonau ymddygiad trwy gydol yr ysgol. Mae’r disgyblion yn tawelu ar ôl y sesiynau ioga, yn ffocysu’n well yn ystod gwersi ac yn ymwybodol o sut i ymlacio. Mae’r gwaith hwn wedi cael effaith gwerthfawr, gan ysbrydoli disgyblion i fod yn unigolion iach, hyderus.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Rhennir arfer dda gyda rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned leol drwy gyfrwng cymdeithasol yr ysgol. Bu S4C yn ffilmio’r arfer dda ioga ar gyfer y rhaglen HENO a gafodd ei darlledu ar draws Cymru gyfan. Yn sgîl y rhaglen hon, mae staff o ysgolion cynradd eraill yng Nghymru wedi ymweld â’r ysgol i arsylwi ar arfer dda o ran lles. Yn ddiweddar, buodd Comisiynydd Plant Mrs. Sally Holland yn ymweld â’r ysgol i arsylwi ar y ddarpariaeth. Buodd yn canmol yr ysgol am fynd ati’n annibynnol i ddatblygu sgiliau lles o safon uchel, heb ddilyn unrhyw gynllun masnachol. O ganlyniad, mae hi wedi gwahodd yr ysgol i gyflawni tasg arbennig i arolygu profiadau disgyblion o ran lles, mewn ffurf adroddiad wedi’i bersonoleiddio i Ysgol Gymraeg Brynsierfel. Y bwriad fydd i’r ysgol ddefnyddio’r adroddiad i lywio agweddau at lesiant, gofal, cefnogaeth ac arweiniad disgyblion. Mae’r arolwg wedi’i seilio ar Fframwaith Hawliau Plant y Comisiynydd. Bydd y Comisiynydd Plant yn defnyddio’r data, heb enwau, i ganfod arfer dda yng Nghymru a hefyd nodi themâu ar draws Cymru a fydd yn helpu i gefnogi ysgolion. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn helpu i lywio blaenoriaethau’r Comisiynydd Plant ar gyfer plant a phobl ifanc fel rhan o ymgynghoriad cenedlaethol ‘Beth Nawr?’