Defnyddio hunanwerthuso i herio ac annog disgyblion mwy abl a thalentog - Estyn

Defnyddio hunanwerthuso i herio ac annog disgyblion mwy abl a thalentog

Arfer effeithiol

Ysgol Bro Preseli


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymunedol ddwyieithog ddynodedig ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 18 oed yn awdurdod lleol Penfro yw Ysgol y Preseli.  Mae tua 900 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae tua 5% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae gan ryw 20% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Daw pedwar deg un y cant o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol

Yn 2013, nododd arweinwyr, er bod gan yr ysgol ddiffiniad clir o ddisgyblion mwy abl a thalentog, fod arferion ar gyfer herio a meithrin eu cynnydd yn amrywio gormod yn ôl adran, ac nid oeddent yn gyson. 

Ail-ganolbwyntiodd yr ysgol ei dehongliad o ddisgyblion mwy abl, a diweddarodd ei harferion i sicrhau ei bod yn ystyried anghenion unigol disgyblion.  Nododd fod angen iddi wella cyfran y disgyblion sy’n cyflawni lefel 7 neu’n uwch ar ddiwedd cyfnod allweddol 3 a’r gyfran sy’n cyflawni 5 gradd A* i A mewn TGAU. 

Disgrifiad o’r gweithgarwch/strategaeth

Er 2013, mae arweinwyr wedi sicrhau ffocws cyson ar ddisgyblion mwy abl mewn cynlluniau gwella.  I ddechrau, sefydlodd yr ysgol rôl arwain benodol a nododd arweinydd fyddai â chyfrifoldeb am ddisgyblion mwy abl a thalentog. 

Dechreuodd arweinydd yr ysgol ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog weithio gyda phob un o’r staff gan ddefnyddio arweiniad gan NACE i archwilio ac arfarnu darpariaeth ac arferion yr ysgol.  Cydnabu arweinwyr, er y gallai’r gwaith hwn arwain at ennill gwobr NACE, mai cryfder gwirioneddol y broses hon oedd helpu i nodi meysydd i’w gwella a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth a deilliannau disgyblion.

Yn dilyn hyn, arweiniodd yr arweinydd ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog sesiynau hyfforddi staff i helpu athrawon i ystyried a datblygu dealltwriaeth glir, ar y cyd, o’r hyn y mae mwy abl a thalentog yn ei olygu yn eu hysgol.  O ganlyniad, mae staff yn fwy hyderus yn eu gallu i nodi’r disgyblion hyn a’u rhoi ar gofrestr yr ysgol ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog.  Mae hyn yn cynorthwyo athrawon eraill i herio’r disgyblion hyn yn effeithiol mewn gwersi. 

Gan ddefnyddio fframwaith NACE, archwiliodd arweinwyr y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog ar draws yr holl adrannau, a nododd gamau gwella, er enghraifft mentora disgyblion unigol a gwella’r cyfnod pontio o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 3, i sicrhau bod athrawon yn adeiladu’n raddol ar fedrau a gwybodaeth flaenorol disgyblion.  Mae’r ysgol yn parhau i ddefnyddio offeryn archwilio NACE i arfarnu ei harferion a’i chynllun ar gyfer gwella.  Roedd y camau dilynol a gymerwyd yn cynnwys datblygu cynlluniau gwaith gyda chynnwys mwy heriol a thasgau cyfoethogi ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog. 

Fel rhan o ethos yr ysgol i gynorthwyo a galluogi pob un o’r disgyblion i gyflawni eu potensial, mae arweinwyr a staff yn gweithio’n ddiwyd i alluogi disgyblion mwy abl i ddilyn cyrsiau TGAU ychwanegol pan fyddant yn dymuno.  Mae hyn yn golygu cefnogi dysgu’r disgyblion hyn y tu allan i’r amserlen ysgol arferol.  Er enghraifft, pan fydd disgybl yn gofyn am gael astudio un cwrs TGAU arall na’r hyn y mae’r amserlen yn ei ganiatáu, mae athrawon yn gweithio gyda disgyblion mwy abl i sicrhau bod hyn yn gallu digwydd.  Mae athrawon yn darparu gwaith cwrs a llyfrau astudio perthnasol ar gyfer disgyblion, ac maent yn aml yn gweithio gyda disgyblion amser cinio neu ar ôl yr ysgol.  Mae disgyblion yn gweithio’n gydwybodol i gwblhau gwaith cwrs yn eu hamser eu hunain, ac mae athrawon yn darparu cymorth unigol pan fydd angen.  Mae gwaith yr ysgol yn y maes hwn yn galluogi disgyblion mwy abl i astudio ystod ehangach o bynciau na’r hyn sy’n arferol, a bron ym mhob achos, mae disgyblion sy’n cwblhau’r cyrsiau TGAU ychwanegol hyn yn cyflawni graddau uchel. 

Yn ogystal â darparu her drylwyr yn yr ystafell ddosbarth, mae arweinwyr wedi datblygu strategaeth fentora ar gyfer disgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 3.  Maent yn cydnabod, er bod y disgyblion hyn yn fwy abl yn academaidd, efallai bod angen cymorth arnynt i ymgynefino â’r ysgol uwchradd neu â materion lles.  Er enghraifft, mae arweinwyr yn nodi’r disgyblion hynny sy’n teimlo’u bod dan bwysau i berfformio’n gyson ar lefel uwchlaw eu cyfoedion neu y mae eu cynnydd yn arafu.  Mae athrawon hefyd yn nodi’r disgyblion mwy abl hynny y gallai fod angen cymorth mentora arnynt, yn eu barn nhw.  Mae’r athrawes arweiniol yn cyfarfod â’r rheiny sy’n cael eu nodi’n rheolaidd.  Mae hyn yn galluogi iddi drafod eu hanghenion unigol a nodi sut gall yr ysgol eu cynorthwyo neu ddarparu ar eu cyfer.  Wedyn, gall gyfathrebu ag athrawon eraill i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion disgyblion.  Er enghraifft, roedd disgybl y nodwyd ei fod yn fwy abl yn perfformio’n arbennig o dda ar draws y cwricwlwm ond yn achosi pryder mewn un maes pwnc penodol.  Nododd athrawon hyn yn gyflym a darparu mentora.  O ganlyniad, gwelwyd gwelliant yn ymgysylltiad y disgybl mewn gwersi a chynnydd mewn dysgu yn y pwnc hwn. 

Yn sgil y system fentora, nododd arweinwyr fod llawer o ddisgyblion mwy abl ym Mlwyddyn 7 eisiau her ychwanegol, yn y dosbarth a’r tu allan.  I hwyluso hyn, datblygwyd llyfryn her.  Fe wnaeth penaethiaid adrannau gwahanol feysydd pwnc helpu i ddatblygu tasgau i’w cynnwys ynddo.  Mae disgyblion yn cwblhau’r heriau hyn os oes ganddynt amser yn ystod y diwrnod ysgol neu’n gweithio trwyddynt gartref.  Mae’r llyfryn yn cynnwys offeryn hunanasesu sy’n gysylltiedig â lles disgyblion sy’n galluogi’r disgyblion hyn i nodi a rhannu eu teimladau.  O ganlyniad, mae’r llyfrynnau’n darparu her academaidd tra’n ffurfio’r sylfaen ar gyfer nodi materion sy’n gysylltiedig â lles disgyblion, sy’n cael eu trafod yn ystod sesiynau mentora unigol.

Effaith ar ddarpariaeth a safonau

O ganlyniad i hunanarfarnu effeithiol, mae gwaith yr ysgol ar wella darpariaeth ac arferion i gynorthwyo disgyblion mwy abl a thalentog wedi cael effaith gref ar ddeilliannau dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Mae cyfran y disgyblion sy’n cyflawni pum gradd A*-A mewn TGAU neu gyfwerth wedi gwella’n gyson yn ystod y cyfnod hwn, gan godi o 23% yn 2015 i 31% yn 2017 (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Mae bron pob un o’r disgyblion sy’n cael eu mentora yn ymateb yn gadarnhaol i’r cymorth ac maent yn gwerthfawrogi cael unigolyn y gallant drafod unrhyw bryderon ag ef/â hi.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn