Defnyddio gweithgarwch menter i ddatblygu disgyblion yn gyfranwyr mentrus

Arfer effeithiol

Ysgol Hiraddug


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Hiraddug yn ysgol gymunedol ym mhentref Dyserth, sydd ym mhen gogledd-orllewin Dyffryn Clwyd. Agorwyd yn ysgol ym 1951 yn lle’r hen Ysgol Genedlaethol, a sefydlwyd mor bell yn ôl â 1863.

Mae 189 o ddisgyblion amser llawn ar y gofrestr a 25 o blant arall sy’n mynd i’r dosbarth meithrin yn rhan-amser, 5 bore’r wythnos.

Mae tua 22% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn nodi bod gan 21% o ddisgyblion ADY.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae arweinwyr yr ysgol yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu medrau bywyd. Nod cwricwlwm yr ysgol yw adlewyrchu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru; yn benodol, galluogi disgyblion i ddod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Mae profiadau dysgu yn ymgorffori cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth trwy fenter.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn creu busnesau gyda’r nod o wneud elw. Mae pob prosiect yn gofyn bod disgyblion yn cwblhau cynllun busnes pum pwynt, gan gynnwys creu enw, logo ac ethos, cynnal ymchwil marchnata, dadansoddi tueddiadau, ymchwilio i gynnyrch a’i ddatblygu. Mae disgyblion yn creu e-bost i’r cwmni ac yn gwneud cais am fenthyciad bach gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol. Maent yn gweithio gyda swyddog cyllid yr ysgol i greu cyfrif banc. Ar gyfer pob prosiect, mae disgyblion yn gweithio fel timau o fewn y cwmni. Mae’r timau hyn yn caniatáu i ddisgyblion adnabod a gwella’u medrau, er enghraifft wrth reoli cyllid, marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol, dylunio a gwerthiannau. Mae pob penderfyniad a wneir yn ystod y prosiect yn cael ei arwain gan y disgyblion yn unig. Mae hyn yn gwella hyder dysgwyr, yn eu cynorthwyo i gymryd risgiau ac i fod yn rhagweithiol. Y busnes cyntaf a greodd disgyblion oedd brand dillad o’r enw ‘Life’s Not a Rehearsal’ (LNR), gyda’r arwyddair yn adlewyrchu cwmni sy’n dysgu’n barhaus. Gwerthodd y cwmni hwdis a chrysau T yn yr ysgol a thrwy blatfform ar-lein, gyda’u cynnych yn cael eu gwerthu mor bell i ffwrdd â Chaeredin a Llundain. Mewn prosiect arall, crëwyd ‘Shake Shack Hiraddug’ (SSH), a werthodd amrywiaeth o ysgytlaethau o fewn yr ysgol. Gwnaeth y ddau fusnes elw sylweddol. Rhannodd y disgyblion yr elw rhwng buddsoddi yn yr ysgol a rhoi i elusennau lleol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r prosiectau menter yn galluogi disgyblion i ddatblygu amrywiaeth o fedrau yn effeithiol, fel cydweithredu, cyfathrebu ac annibyniaeth. Mae effaith uniongyrchol ar safonau yn yr ystafell ddosbarth, wrth i ddisgyblion drosglwyddo eu medrau llythrennedd ariannol a’u medrau digidol. Mae disgyblion yn gwella’u medrau cyllidebu a’u dealltwriaeth o golled ac elw, ynghyd â dysgu bod yn atebol. Maent yn gwella’u medrau digidol a chreadigol trwy ddylunio logos, gwefannau a thudalennau’r cyfryngau cymdeithasol. Mae disgyblion yn elwa o gyfleoedd i fyfyrio ar eu dysgu a’u cynnydd yn ystod ‘cyfarfodydd bwrdd’ wythnosol lle maent yn cyflwyno data’r cwmni ac yn trafod sut y gallent wella’u cynnyrch, eu heffeithlonrwydd, eu gwasanaeth i gwsmeriaid a’u helw. Mae’r ysgol yn defnyddio’r prosiectau hyn i ddatblygu ymwybyddiaeth foesegol dysgwyr, er enghraifft trwy drafod a phenderfynu sut i wario’r elw. Mae dysgwyr yn cynhyrchu dadleuon argyhoeddiadol dros wario arian arnyn nhw’u hunain neu ar yr ysgol neu roi i elusen neu achos teilwng  arall. Er enghraifft, maent yn penderfynu neilltuo’u helw i ariannu tripiau ysgol neu brynu adnoddau dysgu i ddosbarthiadau. 

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae arfer entrepreneuraidd yr ysgol wedi cael ei rannu gydag ysgolion clwstwr, sydd wedi ymweld ag Ysgol Hiraddug i weld yn uniongyrchol sut yr aeth ati i gynnal y prosiectau. Wrth weithio fel rhan o raglen partneriaeth ysgol clwstwr, nodwyd bod y gweithgareddau menter yn gryfder a bod yr ysgol yn gallu cefnogi ysgolion eraill yn yr ardal.