Defnyddio gweithgareddau dysgu ysgogol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Pen Barras yn Rhuthun Sir Ddinbych. Mae’n gwasanaethu tref Rhuthun a’r cyffiniau. Agorwyd yr adeilad presennol ar safle newydd yn Ebrill 2018. Cymraeg yw prif gyfrwng a bywyd yr ysgol, ac fe gyflwynir Saesneg yng nghyfnod allweddol 2. Mae 273 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 35 oed meithrin, rhan amser. Fe’i rhennir yn 11 dosbarth.
Mae cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf oddeutu 3%. Mae hyn yn sylweddol is na’r ganran genedlaethol (19%). Mae tua 76% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref. Mae’r ysgol wedi adnabod tua 15% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sydd ychydig yn is na’r ganran genedlaethol.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Gyda dyfodiad y cwricwlwm newydd a datblygiadau diweddar ym myd addysg, gwelwyd bod angen i’r athrawon a staff ddechrau meddwl mewn ffyrdd gwahanol, wrth gynllunio gweithgareddau a heriau dysgu symbylus i’r disgyblion. Roedd symud i adeilad newydd yn Ebrill 2018, yn gyfle i feddwl am gynnig profiadau gwerthfawr o’r newydd i’r disgyblion. Bu i hyn symbylu’r staff i fod yn fwy mentrus ac i arbrofi wrth gynllunio ar gyfer themâu a gweithgareddau diddorol. Rhoddwyd y cyfrifoldeb o ddewis thema’r tymor i’r disgyblion, a’u bod nhw yn meddwl am gwestiwn mawr pob wythnos am yr hyn hoffant ei ddysgu. Wrth weithredu yn y modd yma, sylweddolodd y staff yn fuan iawn bod angen cydweithio’n agosach o fewn yr unedau wrth gynllunio, a newidiwyd meddylfryd staff i feddwl am gynllunio profiadau yn hytrach na chynllunio gwersi. Rhoddwyd llai o bwys ar yr hyn oedd yn cael ei gofnodi yn ffeiliau cynllunio’r athrawon, er mwyn treulio mwy o amser yn cyd-gynllunio gyda staff a disgyblion i drefnu gweithgareddau a phrofiadau creadigol, cyffrous a diddorol. Golyga hyn, bod rhwydd hynt i wersi fynd ar drywydd gwahanol, yn ôl chwilfrydedd y disgyblion. Roedd rhaid i staff gamu’n ôl a chael meddwl agored, i fod yn greadigol a cheisio manteisio ar arbenigedd aelodau yn y gymuned leol i hwyluso’r dysgu a chyflwyno amrediad o brofiadau gwerthfawr i’r disgyblion. Gwelwyd bod y fethodoleg hon o gynllunio yn mynd law yn llaw â blaenoriaethau’r ysgol sef; datblygu llais y disgybl, egwyddorion y cyfnod sylfaen, gweithio’n annibynnol a chynhwysiant digidol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Ers tua dwy flynedd, mae’r ysgol wedi bod yn arbrofi gyda chynllunio’r athrawon a dewis themâu gwahanol. Mae ymdeimlad bellach yn yr ysgol bod y drefn newydd yn gweithio, gyda’r staff yn hyderus wrth gael eu harwain gan ddiddordeb y disgyblion. O ganlyniad, mae mwy o frwdfrydedd gan y staff a’r disgyblion yng ngweithgareddau’r dosbarth.
Y cam cyntaf ar y daith oedd newid y ffordd o ddewis thema. Rhoddwyd her i athrawon, i beidio â dysgu thema yr oeddynt wedi ei astudio yn flaenorol. Golyga hyn na fedrant ail-ddefnyddio cynlluniau gwaith manwl a thasgau a thaflenni gwaith parod, a oedd ar y dechrau yn achosi peth pryder i rai. Nodwyd hefyd, mai am un hanner tymor yn unig y dylai fod hyd y thema, er mwyn sicrhau bwrlwm chwim a chadw diddordeb y disgyblion. Mae peth hyblygrwydd gan athrawon i ddewis thema’r hanner tymor olaf yn yr haf, er mwyn sicrhau bod yr amrediad o fedrau a meysydd y cwricwlwm wedi cael sylw digonol.
Yn ystod wythnos olaf pob tymor, mae ‘sgyrsiau dosbarth’ yn cael eu cynnal i drafod pa thema mae’r disgyblion am astudio am y tymor canlynol. Mae rhestr hir o opsiynau yn cael eu cofnodi a’u trafod, cyn cynnal pleidlais, a’r thema fwyaf poblogaidd yn cael ei ddewis. Dros gyfnod y gwyliau rhoddir gwaith cartref i’r disgyblion, i feddwl am gwestiynau mawr a meysydd o fewn y thema i’w hastudio. Anogir y rhieni i helpu eu disgyblion, yn arbennig y disgyblion ieuengaf, i ganfod gwybodaeth a meddwl am feysydd ymchwilio. Wedi dychwelyd o’u gwyliau, mae pawb yn barod ar gyfer eu thema newydd, gyda pheth gwybodaeth am y maes, yn llawn chwilfrydedd ac awch i ddysgu mwy.
Ar ddechrau’r astudiaeth newydd, mae’r disgyblion a’r staff yn trafod yr hyn mae’r disgyblion eisoes yn ei wybod am y thema a’r hyn dymunent ddysgu. Y meysydd hyn, neu’r cwestiynau mawr, yw’r sail i’r athrawon, o fewn eu hunedau, i drafod a chynllunio profiadau a gweithgareddau difyr. Mae’r cyfarfodydd hyn yn digwydd ar ddiwedd pob wythnos er mwyn meddwl am weithgareddau a pharatoi adnoddau. Mae’r cymorthyddion hefyd yn rhan allweddol yn y broses, gan dderbyn cyfrifoldebau penodol a threfnu gweithgareddau. Rhoddir pwyslais mawr ar wahodd aelodau o’r gymuned i wneud cyflwyniadau neu i fynd ar ymweliad er mwyn symbylu’r gwaith ymhellach. Mae nifer o ymwelwyr wedi trafod eu profiadau, er enghraifft wrth astudio “Ffilmiau” fel thema, gwahoddwyd yr actor Rhys Ifans i’r ysgol, yn ogystal â dyn camera, technegydd sain, sgriptiwr, dawnswraig ac actorion i drafod eu gwaith. Mae profiadau o’r fath wedi bod yn werthfawr iawn, gyda’r staff a’r disgyblion yn elwa o’r cyfleoedd.
Rhoddir llai o bwys ar yr hyn sy’n cael ei gofnodi yn ffeiliau cynllunio’r athrawon, er mwyn treulio mwy o amser yn cyd-gynllunio. Golyga hyn, bod rhwydd hynt i wersi fynd ar drywydd gwahanol, yn ôl chwilfrydedd y disgyblion. Mae’r hyn sy’n ddisgwyliedig yn ffeiliau cynllunio’r athrawon yn llai o lawer o ran swmp a ffurfioldeb ac yn cynnwys y canlynol;
- rhestr o themâu a ddewiswyd gan y disgyblion;
- y thema a ddewiswyd, a’r cwestiynau mawr;
- amserlen heriau a chyfrifoldebau staff;
- disgrifiad byr o’r gweithgareddau a thaflenni i uwcholeuo’r medrau a gyflwynwyd o ran llythrennedd, rhifedd a TGCh;
- mae enghreifftiau o waith disgyblion hefyd yn cael eu cyflwyno – gan fod gweld gwaith disgybl yn dweud mwy na disgrifiad athro o’r dasg dan sylw.
Cynllunnir tasgau ar gyfer meysydd ar draws y cwricwlwm sy’n ymwneud â’r thema. Yn wythnosol, anelir i gynhyrchu o leiaf un darn o waith ysgrifennu estynedig, un dasg rhifedd a thasgau TGCh ar draws y cwricwlwm.
Mae’r ysgol wedi addasu ei dulliau dysgu, gan hybu gweithgareddau sy’n meithrin dysgu annibynnol. O ganlyniad, mae a llai o gyflwyno gwybodaeth a ffeithiau i ddisgyblion a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddatblygu disgyblion i fod yn barod i wneud camgymeriadau ac yna canfod atebion neu ddatrys problemau eu hunain. Mae rhannu a dathlu gwaith disgyblion hefyd yn flaenllaw, gan annog y disgyblion i fedru adnabod gwaith da a meysydd i’w datblygu, boed hynny yn eu gwaith eu hunain neu yng ngwaith disgyblion eraill. Mae gwella gwaith eu hunain hefyd, yn cael mwy o sylw, gyda’r athrawon yn treulio mwy o amser gyda’r disgyblion yn canfod ateb i’r cwestiwn, ‘sut medraf wella fy ngwaith?’ Mae’r ysgol hefyd yn arbrofi gyda’n systemau marcio, gan geisio marcio ar y pryd neu sicrhau bod y gwaith yn cael ei drafod gyda’r disgybl a gwelliannau’n cael eu cynnig yn amserol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae pob athro wedi gweld llawer mwy o frwdfrydedd gan y disgyblion tuag at eu gwaith, ac o ganlyniad, gwelwyd y safonau’n codi. Gyda’r disgyblion yn chwarae rhan mor flaenllaw yn eu dysgu eu hunain, mae’r mwynhad a’r penderfyniad i wneud eu gorau yn amlwg.
Mae’r ysgol yn cydnabod yr her o newid meddylfryd staff i’r dulliau yma o ddysgu, ac mae llawer o waith i’w wneud eto. Maent yn argyhoeddedig, mai trwy gydweithio i gynllunio yn y modd yma a chyd-gysylltu gyda’r gymuned leol, gallant gynnig ystod eang o brofiadau i’r disgyblion, er mwyn datblygu eu medrau i safon uchel, a’u bod yn tyfu i fod yn unigolion cyflawn sy’n cyfrannu’n helaeth i’r gymuned leol a Chymru.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gydag ysgolion lleol gan rannu arfer da a syniadau. Mae ysgolion cyfagos wedi ymweld â’r ysgol ac mae consortiwm y gogledd, GwE, wedi gwahodd staff y cyfnod sylfaen i rannu eu profiadau gydag athrawon ar draws y rhanbarth.