Defnyddio gemau i wella medrau llythrennedd disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Gynradd Parcyrhun


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Parcyrhun ar gyrion tref Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin.  Mae gan yr ysgol ffrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg a defnyddir y ddwy iaith ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd.  Mae gan yr ysgol uned arbennig ar gyfer disgyblion sydd â nam ar eu clyw.  Ar hyn o bryd, mae 196 disgybl ar gofrestr yr ysgol.  Fe’u rhennir yn 8 dosbarth oed cymysg.

Mae ychydig dros 25% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim.  Mae gan 42% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol sy’n cynnwys 12 disgybl sydd wedi’u cofrestru yn yr uned arbennig.  Daw 6% o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg ar yr aelwyd, ac mae 8% o gefndir lleiafrif ethnig.

Mae’r pennaeth yn ei swydd ers mis Ionawr 2009.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae gan arweinwyr ddisgwyliadau uchel ar gyfer codi safonau trwy sicrhau bod athrawon yn darparu addysg o’r safon uchaf.  Nod yr ysgol yw datblygu ethos o addysgu rhagorol a fydd yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu medrau llythrennedd yn llwyddiannus.  Trwy weithredu gweithdrefnau hunanarfarnu cadarn, nodwyd yr angen i ddatblygu’r medrau hyn trwy fanteisio ar bob cyfle i ddatblygu llythrennedd yn drawsgwricwlaidd.  Mae darparu addysgu rhagorol yn sail meddylfryd yr ysgol ac fe lwyddwyd i greu ethos agored o fonitro, gwerthuso ac adlewyrchu er mwyn gweithredu’r weledigaeth.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Sefydlwyd gweithdrefnau effeithiol sy’n cynnwys cyd-gynllunio, gwerthuso ac adlewyrchu ar arfer dysgu ymhlith yr athrawon.  Wrth gynllunio ar gyfer cyflwyno’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu adnoddau pwrpasol trwy greu gemau ac adnoddau gwreiddiol i ddarparu cyfleoedd rheolaidd i ddatblygu medrau disgyblion. 

Y bwriad wrth lunio’r gemau hyn oedd i;

• godi safonau llythrennedd y disgyblion ar draws y cwricwlwm
• fanteisio ar bob cyfle i godi safonau llythrennedd
• danio chwilfrydedd a mwynhad disgyblion wrth ddysgu
• ddatblygu athrawon i fod yn ymarferwyr rhagorol

Llwyddwyd i greu gemau hwylus ac ysgogol sy’n plethu’n gelfydd gyfleoedd i ddisgyblion ymarfer eu medrau llafar, darllen ac ysgrifennu yn feunyddiol.  Mae’r gemau yn datblygu yn ôl oed a gallu’r disgyblion, o’r dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6 lle y defnyddir yr adnodd i dargedu uwch-fedrau darllen.  Erbyn hyn, mae’r gemau yn rhan arferol o ddysgu pob dydd ac wedi datblygu o ran ansawdd a ffurf.  Mae athrawon y ddwy ffrwd yn cyd-weithio ac yn rhannu adnoddau ac maen nhw’n mireinio’r gemau yn ôl gofynion y dasg, y medrau penodol i’w datblygu a lefel yr her. 

Yn ogystal â monitro gan aelodau’r uwch dîm rheoli, rhoddwyd cyfleoedd rheolaidd i’r athrawon fonitro dysgu a gwaith ei gilydd.  Trafodwyd canlyniadau’r monitro ffurfiol ac anffurfiol yng nghyfarfodydd staff a rhennir arferion da, adnoddau effeithiol a syniadau gwreiddiol gan bawb.  Llwyddwyd i greu banc o gemau gwahaniaethol dros amser, sy’n datblygu medrau llythrennedd y disgyblion yn effeithiol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Trwy ddatblygu a defnyddio’r amryw gemau iaith dros gyfnod, gwelwyd effaith gadarnhaol ar nifer o agweddau.  Mae’r ysgol yn ystyried bod disgyblion wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran eu deilliannau, gyda phob un yn meddu ar fedrau llythrennedd ardderchog sydd, o ganlyniad, yn sicrhau mynediad cyflawn iddynt i’r cwricwlwm.  Llwydda’r gemau i ennyn diddordeb disgyblion a chreu agwedd gadarnhaol at ddysgu ac ethos hapus a sbardunol ar lawr y dosbarth.  Cefnogir cyflwyniad y gemau yn aml gan staff cynorthwyol sy’n manteisio ar bob cyfle i ymestyn medrau’r disgyblion o fewn tasg benodol.  Erbyn hyn, mae disgyblion yr ysgol yn gwbl gyfarwydd â gofynion y gemau llythrennedd ac yn medru eu cynnal yn annibynnol.  Effaith ychwanegol yw’r datblygiad hynod gadarnhaol a welwyd ym medrau annibynnol, cydweithredol a chanolbwyntio’r disgyblion.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Nodwyd Ysgol Parc-yr-hun yn Ysgol Ddysgu Proffesiynol a gwahoddwyd yr ysgol i rannu arfer rhagorol trwy ysgrifennu achos enghreifftiol ar gyfer rhwydwaith Ysgolion Dysgu Proffesiynol y consortiwm rhanbarthol, ERW.  Yn ogystal â hyn, nodwyd gan yr ymgynghorydd her, bod gan yr ysgol arfer ragorol o ran dysgu ac addysgu.  Crëwyd fideo enghreifftiol ar gyfer safwe ERW er mwyn rhannu dysgu rhagorol a hybu datblygiad staff ar draws y rhanbarth.  Bu sawl ysgol ar draws y rhanbarth yn ymweld â’r ysgol i’r perwyl hwn. 

Mae’r ysgol eisoes wedi rhannu ei gweledigaeth ynglŷn â chodi safonau llythrennedd a rhagoriaeth addysgu trwy annerch staff ar ddigwyddiad hyfforddiant i gydlynwyr y Cyfnod Sylfaen yn Sir Gaerfyrddin a drefnwyd gan swyddogion yr awdurdod lleol.  Disgwylir i’r ysgol barhau i ddatblygu a rhannu ei harfer dda gydag ysgolion eraill. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn