Defnyddio dysgu proffesiynol i godi safonau Cymraeg i ddisgyblion ar draws yr ysgol - Estyn

Defnyddio dysgu proffesiynol i godi safonau Cymraeg i ddisgyblion ar draws yr ysgol

Arfer effeithiol

St Mary’s R.C. Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yn ysgol cyfrwng Saesneg i blant 4-11 oed yn awdurdod lleol Sir Fynwy. Mae’n gwasanaethu ardaloedd de Sir Fynwy. Ar hyn o bryd, mae 149 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Mae rhyw 14% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. 
Mae rhyw 20% o ddisgyblion yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.

Tua 23% yw canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, ac mae datganiad o anghenion addysgol arbennig gan 2%.
  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Santes Fair wedi’i lleoli ar ffin Cymru mewn ardal lle na siaredir Cymraeg yn gyffredin, ac mewn rhai achosion, ni welir siarad Cymraeg fel medr gwerthfawr i’w gaffael o angenrheidrwydd. Mae’r ysgol wedi ceisio hyrwyddo’r Gymraeg bob amser, ac annog datblygu medrau disgyblion. Fodd bynnag, sylweddolodd arweinwyr mai ffactor allweddol i ddisgyblion wneud cynnydd da oedd lefel hyder a medrau aelodau staff. Er mwyn i’r ysgol gael effaith sylweddol, roedd rhaid iddi fynd i’r afael â’r ffaith bod yr awydd gan lawer o staff i addysgu Cymraeg yn dda, ond nad oedd yr hyder ganddynt i wneud hynny. Dechreuodd eu taith drwy annog athrawon i feddwl am fanteisio ar y cyfle i wneud cais i fynd ar y cwrs sabothol Cymraeg – Cymraeg mewn Blwyddyn. Arweiniodd hyn at ddau aelod o staff yn cwblhau’r cwrs, ac o ganlyniad, lledaenu arfer dda a defnyddio’u medrau uwch i ddatblygu medrau iaith yr holl staff.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cwrs sabothol Cymraeg
Roedd y cyfle i wneud cais am y cwrs sabothol ‘Cymraeg mewn Blwyddyn’ yn allweddol i allu’r ysgol i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg yn gadarnhaol yn yr ysgol. Llwyddodd dau aelod o staff i gael lle ar y cwrs, ac maent wedi bod yn awyddus i sicrhau bod y medrau a’r profiad a gawsant yn cael eu defnyddio, nid yn eu dosbarthiadau eu hunain yn unig, ond ar draws yr ysgol gyfan. Mae un athro, a gwblhaodd y cwrs yn 2021, yn addysgu Blwyddyn 6, tra bod y llall, sydd yng nghamau olaf cwblhau’r cwrs, wedi bod yn yr ysgol am un diwrnod yr wythnos ers mis Mawrth i gefnogi’r dysgu mewn dosbarthiadau iau. Roedd y staff wedi gweld y cwrs sabothol yn un dwys iawn, ond fe wnaethant fwynhau’r profiad yn fawr a’i argymell i eraill. Teimla’r ysgol bod addysgu iaith o unrhyw fath yn cael ei wneud orau gan arbenigwr, un sy’n gallu darparu model iaith rhagorol i eraill, ac mae’r cwrs Sabothol Cymraeg yn rhoi’r medrau i athrawon wneud hyn. Mae’r ffaith fod gan yr ysgol ddau aelod o staff bellach sydd wedi cwblhau’r cwrs ac yn addysgu mewn cyfnodau gwahanol yn golygu y gall barhau i adeiladu ar y cynnydd iaith cryf y mae eisoes wedi’i wneud fel ysgol.

Asesu
Roedd yr ysgol eisiau casglu tystiolaeth i ddatblygu darlun clir, gonest o’r hyn y gallai disgyblion ei wneud a’r hyn nad oedden nhw’n gallu’i wneud, o ran Cymraeg llafar. Datblygodd y staff offeryn olrhain ar-lein, a’u helpodd i weld yn hawdd ble’r oedd y meysydd gwendid ym mhob dosbarth. Cynhaliont asesiad gwaelodlin yn ystod tymor yr hydref a sylwont fod llawer o’r patrymau iaith haws, er enghraifft, dweud eich enw a ble rydych yn byw, yn gryf ar draws yr ysgol. Fodd bynnag, wrth i batrymau iaith fynd yn anoddach neu fynnu ymestyn brawddegau, roedd yn amlwg bod llawer llai o ddisgyblion yn gallu siarad yn hyderus. Roedd yn amlwg hefyd fod gwendid clir yng ngallu disgyblion i ofyn cwestiynau. Fe wnaeth casglu’r data hwn alluogi’r ysgol i weld y meysydd angen yn glir o fewn carfanau penodol, gan olygu bod modd rhoi cynllun cymorth pwrpasol ar waith.

Cymorth pwrpasol mewn gwersi
Trwy gyllid ôl-sabothol, dyrannodd yr ysgol amser yn wythnosol i alluogi staff i gynorthwyo cydweithwyr yn eu hystafelloedd dosbarth a modelu arfer orau mewn modd cefnogol. Yn ystod y sesiynau hyn, cynllunnir gweithgareddau byr, gyda ffocws ar siarad. Mae’r pwyslais ar gael ymgysylltiad lefel uchel gan ddisgyblion, trwy gemau iaith yn bennaf. Mae’r ymateb i’r sesiynau hyn wedi bod yn gadarnhaol gan ddisgyblion a staff. Mae’r disgyblion yn ymgysylltu’n dda iawn ac yn awyddus i weithio ar eu targed dosbarth mewn pryd ar gyfer y sesiwn nesaf. Mae athrawon a chynorthwywyr addysgu sy’n mynychu ar sail rota yn cyfranogi’n llawn yn y gwersi ac yn eu defnyddio fel cyfle i ymarfer eu Cymraeg eu hunain ac i ofyn cwestiynau’n ymwneud â dulliau addysgu. Mae adnoddau a ddefnyddir o fewn y gwersi’n cael eu rhannu’n hwylus gyda’r staff fel y gallant eu defnyddio yn ystod amser ymarfer Cymraeg dyddiol.

Hyfforddiant i Gynorthwywyr Addysgu
Mae cymorth yn yr ystafelloedd dosbarth wedi’i ategu gan sesiynau hyfforddiant ar gyfer cynorthwywyr addysgu sydd wedi bod yn amhrisiadwy o ran sicrhau dull ysgol gyfan mewn perthynas â gweledigaeth yr ysgol. Yn ystod y sesiynau, caiff cynorthwywyr addysgu eu cyflwyno i ymadroddion a geirfa allweddol a fydd yn ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth. Mae pecynnau hyfforddiant yn cael eu darparu ac yn cynnwys dolenni at fideos a recordiadau, sy’n cynorthwyo ag ynganu. Anogir cynorthwywyr addysgu i edrych ar y sesiynau hyfforddi fel cyfleoedd i ymarfer mewn ‘man diogel’ heb gael eu barnu, er mwyn meithrin hyder. Gofynnir iddynt osod targed iaith personol ac yna gwerthuso eu cynnydd eu hunain ar ôl cyfnod amser penodedig. Mae’r dull hwn wedi’i wreiddio’n gadarn yn y ddealltwriaeth bod mannau cychwyn gwahanol gan bob dysgwr, ac y mynnir targedau y gellir eu mesur a’u cyflawni. Mae’r ymateb i hyfforddiant wedi bod yn gadarnhaol iawn a chroesawodd staff y cyfle i ddatblygu. Gyda chyllid ôl-sabothol yn y dyfodol, mae’r ysgol yn bwriadu parhau â’r hyfforddiant hwn, gan gydnabod ei bod yn bwysig cadw’r medrau iaith ‘ar y berw’, fel y gall adeiladu ar gynnydd.

Meithrin gwerthfawrogiad o ddiwylliant a thraddodiad Cymru
Ochr yn ochr â datblygu Cymraeg llafar, mae’r ysgol wedi gweithio tuag at sicrhau bod y Gymraeg a diwylliant a thraddodiad Cymru wedi’u gwreiddio ym mhob maes o fywyd yr ysgol. Mae’n teimlo ei bod yn bwysig nad yw Cymraeg yn cael ei weld fel pwnc sydd ‘mewn blwch’ yn unig, ond yn hytrach fel pwnc sy’n cael ei adlewyrchu ym mhopeth a wnânt. Ceir disgwyliad bod Cymraeg yn cael ei defnyddio ym mhob gwers yn ogystal â thu allan i’r ystafell ddosbarth, er enghraifft cyfarch teuluoedd wrth gatiau’r ysgol, ar yr iard, yn ystod gwasanaethau ac wedi’i hymgorffori ym mhob arddangosfa. Mae’r ysgol yn rhoi gwerth uchel ar ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo diwylliant Cymru fel ‘Diwrnod Shwmae’ a’r Eisteddfod flynyddol. Mae ymagwedd gyfannol at y Gymraeg yn rhywbeth mae’r ysgol yn teimlo ei fod yn cael ei gadarnhau’n gryf yn y cwricwlwm newydd. Gyda hyn mewn cof, cynhaliodd hyfforddiant ysgol gyfan i gynllunio testun â thema Gymreig ar gyfer tymor y gwanwyn, wedi’i ysgogi gan feysydd dysgu gwahanol a datganiadau beth sy’n bwysig ym mhob dosbarth. Er enghraifft, yn Nosbarth 6, addysgwyd y celfyddydau mynegiannol a llythrennedd gan ddefnyddio’r testun ‘Y Cwilt’, gan arwain at waith celf o ansawdd uchel. Yn Nosbarth 5, gwyddoniaeth oedd yr ysgogwr, gyda disgyblion yn ymchwilio i erydiad ar arfordir Cymru. Cyflwynodd bob un o’r dosbarthiadau arddangosfa o’u gwaith i’r gymuned ysgol gyfan ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan alluogi’r ysgol i gynnal prawf ar ymagwedd newydd at eisteddfodau traddodiadol y blynyddoedd blaenorol.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud wedi cael effaith ffafriol sylweddol ar y ddarpariaeth Gymraeg yn Ysgol Santes Fair, ac mae wedi arwain at gynnydd nodedig yn safonau dysgwyr. Mae proffil y Gymraeg a diwylliant Cymru wedi’i godi ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, a cheir ymdeimlad pendant o bositifrwydd at y Gymraeg yn ogystal â balchder yn yr hyn sydd wedi’i gyflawni, ac y gellir parhau i’w gyflawni. Mae’r gwahaniaeth o ran agweddau a hyder yn nodedig, a chadarnheir hyn yn y dystiolaeth o weithgareddau i staff a gweithgareddau llais y disgybl, yn ogystal ag olrhain asesiadau iaith.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae cyllid ôl-sabothol wedi galluogi staff i raeadru’u hyfforddiant yn effeithiol a modelu arfer orau ar draws yr ysgol gyfan. Mae ysgolion eraill o fewn clwstwr Cas-gwent wedi cysylltu ag Ysgol Santes Fair i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr er mwyn rhannu arfer yn ehangach. Hefyd, mae’r ysgol yn gweithio gyda’r consortiwm rhanbarthol lleol a Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei darpariaeth ymhellach a cheisio ffyrdd i ddod yn ysgol gwbl ddwyieithog.