Defnyddio dysgu digidol yn arloesol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff yn ysgol gynradd Gatholig yng nghanol dinas Abertawe. Mae’n gwasanaethu dalgylch eang.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Trwy ddefnyddio cyllid o grantiau Llywodraeth Cymru, mae’r ysgol wedi buddsoddi mewn gliniadur ar gyfer bron pob disgybl. Galluogodd hyn y staff i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer dysgu cyfunol yn gyflym ac yn effeithiol ar draws yr ysgol. Fel rhan o waith ymchwil weithredu a wnaed gan staff yn ystod y pandemig, datblygon nhw ffyrdd o integreiddio technoleg ddigidol i ehangu’r dysgu. Gan nad oedd staff a disgyblion yn gallu ymweld ag amgueddfeydd nac atyniadau lleol, defnyddiodd yr ysgol glustffonau realiti rhithwir i wneud dysgu’n real a pherthnasol i ddisgyblion. Er enghraifft, wrth ddysgu am yr argyfwng ffoaduriaid yn Syria fel rhan o wythnos ffoaduriaid, defnyddiodd y plant y clustffonau i ‘ymweld’ ag Aleppo i weld y dinistr a adawyd gan ryfel.
Fel rhan o astudiaeth ar afonydd, yn ogystal â chynnal astudiaeth o afon leol yn yr awyr agored, roedd disgyblion hefyd yn gallu gweld amrywiaeth o nodweddion daearyddol trwy’r clustffonau realiti rhithwir. Fe wnaeth athrawon integreiddio hyn yn llawn mewn cynllunio, gan alluogi disgyblion i ennill profiadau na fyddent wedi bod ar gael fel arall.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Yn Ysgol San Joseff, mae athrawon yn canolbwyntio ar integreiddio dulliau digidol o ymestyn addysgu a dysgu fel rhan o ymdrech tuag at gyflawni diben ein cwricwlwm o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6. Er enghraifft, mae disgyblion yn defnyddio technoleg reoli i ysgrifennu eu cod Morse eu hunain wrth astudio’r Ail Ryfel Byd yn Abertawe. Wrth ddysgu am Sherlock Holmes, mae disgyblion yn defnyddio technoleg sgrin werdd i gynnal eu cyflwyniadau llafaredd mewn lleoliad o Baker Street.
Mae disgyblion yn y dosbarth derbyn yn creu codau QR i gofnodi eu dysgu mewn gwahanol feysydd darpariaeth barhaus. Mae ystyried sut i esbonio eu dysgu yn golygu bod disgyblion yn ymarfer ac yn gwella’u medrau llafaredd wrth iddynt weithio.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae disgyblion yn disgrifio’n hyderus sut maent yn defnyddio dysgu digidol i ehangu eu dysgu eu hunain. Maent yn defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau i ddangos eu gwaith a disgrifio sut y llywiodd eu dysgu.
Mae athrawon yn defnyddio dulliau digidol i gefnogi dysgu lle mae’n anodd darparu profiadau trwy ymweliad neu ymwelydd ar draws amrywiaeth o feysydd y cwricwlwm.
Mae disgyblion yn gwneud cais i ymuno â’r ‘tîm technegol’ sy’n cefnogi addysgu a dysgu trwy greu eu fideos hunangymorth eu hunain, gan ymateb i geisiadau am atgyweirio neu gyngor gan staff, a hyd yn oed yn arwain cyfarfodydd staff ar ddefnyddio technolegau newydd.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Yn ystod y pandemig, datblygodd yr ysgol ddefnydd o glustffonau realiti rhithwir trwy’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol. Rhannwyd astudiaeth achos y prosiect ar draws yr holl ysgolion a oedd yn cymryd rhan yn y prosiect. Hefyd, cymerodd staff o’r ysgol ran mewn gweminar ar-lein i ddisgrifio effaith defnyddio clustffonau realiti rhithwir i ennyn diddordeb disgyblion ac ymestyn y cwricwlwm y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.