Defnyddio cyflogwyr lleol ar gyfer addysg yn gysylltiedig â gwaith - Estyn

Defnyddio cyflogwyr lleol ar gyfer addysg yn gysylltiedig â gwaith

Arfer effeithiol

Cardiff and Vale College


 

Gwybodaeth am y lleoliad

Sefydlwyd Coleg Caerdydd a’r Fro ym mis Awst 2011 ar ôl uno Coleg y Barri a Choleg Glan Hafren.  Mae’n darparu addysg bellach mewn wyth lleoliad rhwng Trowbridge yn Nwyrain Caerdydd a’r Rhws ym Mro Morgannwg.  Agorwyd campws y coleg yng nghanol dinas Caerdydd ym mis Medi 2015 a  chafodd ei ymestyn yn 2018.

Mae tua 9,000 o ddysgwyr yn mynychu’r coleg, y mae tua 5,000 ohonynt yn astudio cyrsiau addysg bellach amser llawn.  Mae 69% o’r prif gymwysterau sy’n cael eu hastudio gan ddysgwyr yn y coleg yn rhai galwedigaethol, a 31% yn rhai academaidd.  Mae cyrsiau’r coleg yn amrywio o lefel mynediad i lefel 5, ac mae ei ddarpariaeth yn cwmpasu bron pob un o’r meysydd sector pwnc.  Y meysydd sy’n cyfrif am gyfran fwyaf y ddarpariaeth yw’r celfyddydau, y cyfryngau a chyhoeddi; iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal; a gwyddoniaeth a mathemateg.

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn gwasanaethu rhanbarth amrywiol sy’n cynnwys ardaloedd ag ynddynt amddifadedd sylweddol.  Mae lleiafrif o ddysgwyr yn byw yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, fel y nodwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.  Nid yw tri deg y cant o ddysgwyr y coleg yn siarad Saesneg fel eu mamiaith.  Mae tua 30% o boblogaeth y coleg yn ddysgwyr du, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol.

Ar gyfer addysg bellach, mae gan y coleg drosiant blynyddol o £56 miliwn, ac mae’n cyflogi dros 600 o staff.  Mae’r coleg ei hun yn rhan o Grŵp ehangach Coleg Caerdydd a’r Fro sy’n cynnwys darparwyr mawr dysgu yn y gwaith.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r astudiaeth achos hon yn ymwneud â maes arolygu lles ac agweddau at ddysgu.  Mae’r coleg wedi canolbwyntio ar ymgorffori addysg yn gysylltiedig â gwaith, sy’n gysylltiedig â chyflogwr mewn cyrsiau galwedigaethol.  Caiff yr holl ddysgwyr galwedigaethol gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ‘go iawn, nid realistig yn unig’, sydd wedi eu cysylltu’n ffurfiol â’u rhaglenni astudio.  Mae’r coleg hefyd yn cynnig rhaglen o weithgareddau cyfoethogi sydd wedi’i chynllunio’n benodol i ganolbwyntio ar barodrwydd i weithio.  Mae hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu medrau personol, cyflogadwyedd ac arwain gwerthfawr yn ystod eu cyfnod yn y coleg.

Mae’r coleg yn ymfalchïo mewn bod yn ‘beiriant medrau’.  Mae ei raglenni cwricwlwm a chyfoethogi yn canolbwyntio ar ddatblygu pobl fedrus a chyflogadwy.  Mae partneriaethau agos â chyflogwyr allweddol yn helpu nodi’r angen i ddysgwyr gael medrau trosglwyddadwy meddal sy’n eu paratoi yn dda ar gyfer bywyd fel rhan o weithlu sy’n esblygu’n barhaus.  Mae medrau o’r fath yn galluogi cyn-ddysgwyr i ffynnu wrth iddynt wynebu’r heriau mewn economi fyd-eang, sy’n newid yn gyflym.  Ers ffurfio’r coleg yn 2011, rhoddwyd pwyslais dygn ar sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion cymunedau lleol, ac yn pontio’r bwlch o ran symudedd cymdeithasol.  Mae’r coleg yn gwasanaethu ardal sy’n mynd trwy newid sylweddol, gydag un o’r poblogaethau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae’n profi cynnydd sylweddol mewn busnes a gweithgarwch diwydiannol.  Mae hyn i gyd yn cyfrannu at yr angen am gynnig medrau cryf, gwybodus ac ymatebol i gynhyrchu carfan o ddoniau cyflogadwy ar gyfer y rhanbarth dinesig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Mae bron pob un o’r dysgwyr galwedigaethol yn gweithio ar ‘friffiau byw’, yn cynhyrchu gwaith ar gyfer sefydliadau real, yn unol â therfynau amser diwydiant.  Prosiectau wedi eu cytuno rhwng cyflogwyr partner a meysydd y cwricwlwm yw briffiau byw, fel rhan o fyrddau cyflogwyr rheolaidd.  Defnyddir y byrddau hyn i gysylltu cwricwlwm y coleg ag anghenion cyflogwyr lleol.  Mae enghreifftiau o friffiau byw yn cynnwys dysgwyr ym maes lletygarwch ac arlwyo yn gweithio ochr yn ochr â chogyddion proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn digwyddiadau cymdeithasol ac elusennol.  Mae dysgwyr creadigol yn gweithio gefn llwyfan ar gyfer cyngherddau ar raddfa fawr, yn dylunio arddangosfeydd ar gyfer theatr y ddinas ac yn trefnu digwyddiadau ar gyfer CADW.  Yn 2017-2018, fe wnaeth dysgwyr helpu trefnu a chynnal ciniawau tysteb ar gyfer dau o gyn-gapteiniaid tîm rygbi Cymru.  Mae digwyddiadau eraill wedi cynnwys dysgwyr ffasiwn yn lansio eu casgliad dillad haf mewn marchnad fasnachol dan do.  Mae’r coleg wedi sefydlu siop dros dro hefyd i helpu dysgwyr sydd â diddordeb mewn hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth, i feithrin eu medrau tra’n dilyn eu huchelgeisiau.

Mae llawer o ddysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau menter a chyfoethogi sy’n eu helpu i ddatblygu eu set medrau a’u gwerthfawrogiad o entrepreneuriaeth fel dewis gyrfa hyfyw.  Mae’r coleg yn hyrwyddo ei frand BEPIC i annog dysgwyr i ‘fod yn gyflogadwy, yn bwrpasol, yn ysbrydoledig, ac yn cael eu herio’.  I’r perwyl hwn, mae timau swyddogion cyflogaeth a dilyniant BEPIC, ynghyd â staff sy’n gyfrifol am gyfoethogi ac entrepreneuriaeth, wedi gweithio i gynorthwyo dysgwyr i gyfranogi’n drawsgwricwlaidd mewn amrywiaeth o weithgareddau allanol.  Er enghraifft, cynhaliodd dysgwyr ddigwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017-2018, fe wnaethant gynnal sesiynau adrodd storïau dwyieithog, cymryd rhan mewn her robot, rhoi triniaethau harddwch a chefnogi her feicio’r coleg.  Bu dysgwyr yn cymryd rhan mewn cynhyrchu ffilm fer o’r enw ‘Edgar’s Hair’, a ddarlledwyd ar deledu BBC Wales ym mis Medi 2018. 

Caiff dysgwyr eu hyfforddi ochr yn ochr ag aelodau staff y coleg fel ‘arweinwyr digidol’, gan eu galluogi i gyflwyno hyfforddiant a chymorth i gyfoedion a staff mewn defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a thechnoleg addysgol newydd.  Mae’r arweinwyr digidol hyn wedi helpu rheolwyr y coleg i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddysgu sy’n cael ei wella gan dechnoleg, ac wedi cynnal sesiynau rhagflas ar gyfer ysgolion.

Mae’r coleg yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, trwy ei raglen bod yn barod am yrfa, lle mae dysgwyr yn gweithio gyda sawl sefydliad uchel eu parch.  Mae’r rhaglen hon yn chwalu rhwystrau ac yn galluogi pobl ifanc i sefydlu perthnasoedd busnes, gan greu rhwydwaith o gyfleoedd i gynorthwyo eu dilyniant yn y dyfodol.  Roedd gan bron bob un o’r dysgwyr a gymerodd ran yn 2017-2018 fentoriaid busnes, ac aeth pob un ohonynt ymlaen i astudio ymhellach mewn coleg, prifysgol neu fel rhan o brentisiaeth. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r profiad a gaiff dysgwyr yn y coleg yn eu helpu i ddatblygu medrau gwaith ac ymddygiadau hynod effeithiol.  Maent yn meithrin medrau datrys problemau cryf yn gysylltiedig â gwaith, ac yn magu hyder a gwydnwch, y mae pob un ohonynt yn eu cynorthwyo yn eu dilyniant i gyflogaeth.  Mae ymgysylltiad dysgwyr â chystadlaethau medrau galwedigaethol cenedlaethol yn uchel iawn.  Caiff hyn effeithiau cadarnhaol ar eu dyheadau ar gyfer y dyfodol, ac mae data’r coleg ei hun ar gyrchfannau dysgwyr yn dangos tuedd ar i fyny yng nghyfran y dysgwyr sy’n symud ymlaen i astudio ymhellach neu i waith.

Mae’r dyfyniad hwn gan un dysgwr yn egluro’r effaith y mae dull y coleg wedi’i gael arni:

Dechreuodd fy nhaith Barod am Yrfa y llynedd.  Rydw i wedi datblygu cymaint fel mod i’n gwbl wahanol i’r unigolyn llai hyderus oeddwn i cyn i mi ymuno â’r rhaglen.  Mae Barod am Yrfa wedi rhoi cyfle gwych i mi ddatblygu fy hun i fod yn unigolyn proffesiynol, annibynnol a hunangymhellol, sydd â’r hyder i ddisgleirio go iawn yn y gweithle.  Rydw i wedi cael cyfle i gael profiad gwaith mewn banc corfforaethol yn Llundain, yn ogystal â llawer o gyfleoedd i ymweld â busnesau ar hyd a lled ardal Caerdydd i rwydweithio go iawn â’r cwmnïau sy’n berthnasol i mi.  Rydw i’n falch o’r cynnydd rydw i wedi’i wneud â Barod am Yrfa, a byddwn i’n annog unrhyw un sydd eisiau gwella ei hun i ymuno â rhaglen Barod am Yrfa.