Defnyddio canfyddiadau ymchwil ac ymchwil weithredu i wella addysgu

Arfer effeithiol

Maes-Y-Coed Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Maes-y-Coed ym Mhontypridd yn Rhondda Cynon Taf.  Mae 313 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 56 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin amser llawn.  Mae 11 dosbarth, ac mae disgyblion o oedrannau cymysg mewn pedwar o’r dosbarthiadau hyn.  

Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel prif iaith yr aelwyd.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae tua 18% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 33% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Dechreuodd y pennaeth ar ei swydd ym mis Hydref 2011.  Cyn hyn, roedd yn ddirprwy bennaeth yr ysgol. 

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae’r pennaeth yn credu’n gryf mewn defnyddio ymchwil allanol, deilliannau ymchwil fewnol yn seiliedig ar weithredu ac archwilio arfer dda mewn ysgolion eraill, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i lywio’r addysgeg yn ei hysgol.  Yn y blynyddoedd diwethaf, mae uwch arweinwyr wedi ymweld â llawer o ysgolion lleol i archwilio darpariaeth y cyfnod sylfaen.  Fe wnaethant ymweld ag ysgolion yn Nenmarc a Gwlad yr Iâ hefyd i weld sut mae ysgolion yn Ewrop yn datblygu darpariaeth awyr agored i annog chwarae.  Mae arweinwyr yn agored i syniadau newydd ac yn mynd i’r afael yn dda â strategaethau y maent yn clywed amdanynt pan fyddant yn mynychu cyfarfodydd a chynadleddau gyda phobl broffesiynol eraill.  Fe wnaethant ymweld ag ysgol uwchradd 13-18 lwyddiannus yn Swydd Efrog i ddysgu am enillion ymylol cronedig a’r egwyddorion sy’n ategu athroniaeth addysgu a dysgu’r ysgol.  Fe wnaethant fynychu cynhadledd ryngwladol hefyd i ddysgu mwy am astudio mewn gwersi. 

Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn cymryd rhan mewn ymchwil weithredu ychwanegol hefyd fel rhan o’u datblygiad proffesiynol eu hunain neu fel aelod o grŵp gwella’r ysgol.  Mae athrawon wedi ymgymryd ag ymchwil weithredu ar ystod o destunau.  Er enghraifft, mae testunau’n cynnwys cydweithio yn yr awyr agored, datblygu egwyddorion addysgegol y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2, defnyddio’r celfyddydau creadigol a mynegiannol a datblygu’r defnydd o ddarpariaeth barhaus.  Mae’r ysgol yn gwneud defnydd da o Raddfa Ymglymiad Leuven i fesur effaith y newidiadau ar lefelau ymglymiad disgyblion.  Fe wnaeth un darn o ymchwil weithredu ar raddfa fawr gyfuno gwaith yr ysgol ar ddatblygu’r defnydd o’r celfyddydau mynegiannol, hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored a chyflwyno’r fframwaith cymhwysedd digidol.  Gorffennodd y prosiect hwn trwy atal amserlen yr ysgol am bythefnos. 

Mae arweinwyr yn cyfosod y canfyddiadau o ymweliadau ac ymchwil yn effeithiol, gan roi’r prif uchafbwyntiau i staff ddechrau trafodaethau am yr hyn a allai fod o fudd i’w hysgol.  Mae arweinwyr a staff yn dewis yr hyn y maent yn arbrofi ag ef yn yr ysgol yn ofalus.  Defnyddiant ddeilliannau eu hymweliadau a’u hymchwil i lywio, ond nid i wneud penderfyniadau am eu haddysgeg a’u harfer.

Yn 2016, ar ôl clywed siaradwr mewn digwyddiad cenedlaethol yn esbonio’r theori y tu ôl i astudio mewn gwersi, mynychodd aelod o uwch staff y gynhadledd ryngwladol ar astudio mewn gwersi.  Arweiniodd hyn at drafodaeth ymhlith pob un o’r staff am yr egwyddorion y tu ôl i astudio gwersi.  Cytunodd staff i arbrofi â’r dull yn ystod blwyddyn academaidd 2016‑2017.  Penderfynodd staff y byddai pob un o’r pum triawd yn cynnwys cynorthwyydd addysgu lefel uwch, athro ar y brif raddfa ac aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth.

Dechreuodd yr ysgol trwy ffurfio polisi a amlinellodd eu hymagwedd at astudio mewn gwersi a datblygiad proffesiynol ar y cyd.  Cytunodd staff y byddai astudio mewn gwersi:

  • yn disodli system monitro gwersi bresennol yr ysgol
  • rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ffurflenni arsylwi sesiynau presennol

Byddai hyn yn golygu na fyddai gwersi neu gyfres o wersi’n cael eu graddio.

Cytunodd athrawon a chynorthwywyr addysgu lefel uwch y byddai triawdau:

  • yn gwerthfawrogi pob aelod yn gyfartal, beth bynnag fo’u profiad neu’u statws yn yr ysgol
  • yn gwneud gwaith ymchwil i wella addysgu a dysgu yn y meysydd ffocws cytûn
  • yn canolbwyntio ar ddadansoddi myfyriol, deialog broffesiynol ac ymchwil weithredu
  • yn defnyddio cynllunio cytûn, cyfweld â disgyblion ac offer myfyrio i ganolbwyntio ar drafodaethau
  • yn defnyddio technoleg fideo i gynorthwyo dadansoddi
  • yn derbyn yr holl adborth yn adeiladol ac yn datblygu trafodaethau i wella dealltwriaeth
  • yn rhannu nodau a deilliannau astudio mewn gwersi gyda disgyblion

Mae pob triawd yn dilyn yr un fformat.  Gan ddefnyddio dadansoddiad data a/neu ddeilliannau o fonitro, mae staff yn cytuno ar faes i’w wella, er enghraifft cynorthwyo disgyblion ffiniol i gyflawni deilliant 6 mewn ysgrifennu ar ddiwedd y cyfnod sylfaen.  Mae staff yn gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain ar y maes cyn y cyfarfod ffurfiol cyntaf.  Mae’r ysgol yn darparu staff cyflenwi ar gyfer tridiau llawn y gweithgareddau triawd i bob un o’r staff dan sylw.  Yn y cyfarfod cyntaf, mae staff:

  • yn trafod y gwaith ymchwil y maent wedi’i wneud
  • yn cytuno ar y ffocws ar gyfer y wers gyntaf
  • yn dewis tri disgybl a fydd yn ffocws i’r arsylwadau ar y cyd
  • yn ffurfio cwestiynau i holi disgyblion cyn cynllunio’r wers
  • yn cyfarfod â disgyblion a ddewiswyd i ofyn y cwestiynau
  • yn trafod syniadau ar gyfer y wers ac yn cytuno ar fwriadau dysgu
  • yn gwneud rhestr o gwestiynau i’w gofyn i ddisgyblion ar ddiwedd y wers
  • yn rhagweld sut bydd y disgyblion ffocws yn ymateb i wahanol rannau o’r wers

Ar ôl y gweithgareddau hyn, mae un aelod o’r triawd yn ysgrifennu cynllun y wers, mae un arall yn creu’r ffurflenni a chofnodion y diwrnod ac mae’r aelod arall yn darparu adnoddau ar gyfer y wers.

Yn ystod yr ail ddiwrnod, mae un aelod o’r triawd yn addysgu’r wers tra bydd y ddau arall yn arsylwi.  Caiff y wers ei recordio gan ddefnyddio technoleg fideo.  Er bod y ffocws ar ddeilliannau’r tri disgybl a ddewiswyd, gan nodi cymaint â phosibl o’r hyn y mae disgyblion yn ei ddweud a’i wneud, mae aelodau’r grŵp yn gwneud sylwadau arfarnol ar bob agwedd ar y dysgu a’r addysgu. 

Ar ôl y wers, mae aelodau’r grŵp yn cyfarfod y tri disgybl ffocws i ofyn cwestiynau iddynt ar ôl y wers.  Wedyn, mae’r aelodau o’r triawd yn gweithio gyda’i gilydd am weddill y diwrnod.  Maent yn trafod eu myfyrdodau cychwynnol ac yn gwylio’r recordiad o’r wers i ganolbwyntio ar bwyntiau allweddol ac ymatebion gwahanol ddisgyblion.  Mae staff yn ysgrifennu eu myfyrdodau’n fanwl cyn eu rhannu unwaith eto. 

Yr hyn sy’n allweddol i’r broses hon yw bod staff yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol agored a gonest lle maent yn teimlo’n gyfforddus i herio, gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella a damcaniaethu.  Cyn dechrau’r prosiect astudio mewn gwersi, roedd mwyafrif o staff wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol wnaeth wella eu medrau hyfforddi a’u helpu i weld sylwadau heriol yn awgrymiadau adeiladol yn hytrach na beirniadaeth bersonol.  Mae athrawon yn datgan nad ydynt yn ystyried her yn fygythiad, gan eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu herio heb gael eu barnu.

Mae aelodau’r triawd yn edrych yn ofalus ar atebion y disgyblion i gwestiynau ar ôl y wers ac yn cymharu sut roeddent yn meddwl y byddai disgyblion yn ymateb i’r wers a sut gwnaethant ymateb mewn gwirionedd.  Maent yn nodi unrhyw batrymau neu faterion i’w harchwilio ymhellach yn y wers nesaf.  Defnyddiant yr holl wybodaeth a gasglwyd i benderfynu beth y mae angen ei ailadrodd neu’i addasu yn y wers nesaf.  Er enghraifft, mewn un sesiwn, nododd myfyrdod athro na wnaeth dau o’r disgyblion  ffocws ddefnyddio sgwrsio â phartner yn effeithiol i feddwl am gwestiwn yr athro, a’i drafod.  Arweiniodd hyn at yr awgrym fod angen i’r athro gerdded o gwmpas y partneriaid mewn gwersi dilynol i sicrhau effeithiolrwydd y strategaeth a gwneud yn siŵr fod disgyblion yn deall beth y dylent ei drafod.  Wedyn, mae aelodau’r triawd yn cynllunio a darparu adnoddau ar gyfer y wers nesaf ar y cyd. 

Deilliannau

Ar draws yr ysgol, mae pwyslais mawr ar staff yn myfyrio ar, a dadansoddi, eu harfer eu hunain ac arfer eu cymheiriaid.  Mae staff yn fwy ymwybodol o’u cryfderau eu hunain a’u meysydd i’w datblygu o ran gwella eu harfer yn yr ystafell ddosbarth ac maent yn deall anghenion y disgyblion yn eu dosbarthiadau.  Mae sgyrsiau yn ystafell y staff yn canolbwyntio’n fwy ar addysgu a dysgu erbyn hyn.  Mae’r sgyrsiau hyn yn canolbwyntio ar atebion ac mae staff yn dangos parodrwydd a hyder i rannu unrhyw anawsterau a siarad am yr hyn aeth yn dda mewn gwersi.  Mae hyn yn helpu staff i ddysgu oddi wrth ei gilydd.  Mae staff bellach yn rhoi mwy o bwyslais ar yr hyn y mae disgyblion yn gallu ei wneud a’r hyn na allant ei wneud.  Maent yn myfyrio ar eu haddysgu ac yn gwneud newidiadau bach sy’n cael effaith fawr ar unigolion a grwpiau o ddisgyblion.  Er enghraifft, mae athrawon bellach yn dyrannu rolau mewn gwaith grŵp ar ôl i dystiolaeth fideo ddangos nad oedd unigolion yn cyfrannu at waith grŵp.  Cafodd staff eu synnu gan y disgyblion nad oeddent yn cyfrannu gan nad nhw oedd y rhai y byddai staff wedi eu rhagweld.

Mae arweinwyr wedi buddsoddi’n helaeth mewn datblygu’r dull astudio mewn gwersi ar draws yr ysgol trwy brynu offer fideo a dyrannu cyllid i ryddhau ar y cyd bob aelod o bob triawd am o leiaf dridiau yn ystod pob blwyddyn academaidd.  Mae astudio mewn gwersi yn gweithio i’r ysgol hon gan fod pob un o’r staff yn credu yn y dull ac maent wedi ymrwymo i’w wneud yn llwyddiant.  Mae hyn wedi arwain at lefelau cyson uchel o rannu addysgeg ac adnoddau ac mae wedi gwella cysondeb ac ansawdd yr addysgu.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Bydd yr ysgol yn parhau i ddefnyddio’r dull astudio mewn gwersi a bydd yn monitro ei effaith ar ddeilliannau disgyblion ac ansawdd yr addysgu yn ofalus.