Defnyddio asesu ar gyfer dysgu i gau bylchau yn nysgu’r disgyblion

Arfer effeithiol

Hendredenny Park Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Parc Hendredenny mewn ardal breswyl ar gyrion Caerffili.  Mae 249 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, gan gynnwys 39 sy’n mynychu’r feithrinfa yn rhan-amser.  Mae wyth o ddosbarthiadau un oedran.  Mae tua 5% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sydd ymhell islaw cyfartaledd Cymru.  Mae’r ysgol yn nodi bod anghenion dysgu ychwanegol gan 12% o ddisgyblion, sy’n is o lawer na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae datganiad o anghenion addysgol arbennig gan ychydig iawn o ddisgyblion, ac mae ychydig iawn yng ngofal yr awdurdod lleol.  Mae bron yr holl ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Gan fod gan yr ysgol niferoedd isel o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae arweinwyr yn teimlo ei bod yn bwysig darparu digon o her i’r disgyblion mwy abl tra’n sicrhau hefyd bod anghenion yr holl ddysgwyr yn cael eu diwallu.  Yn dilyn hunanarfarnu, nododd arweinwyr yr angen i symleiddio arferion asesu ar gyfer dysgu, ac i wella cysondeb ac ymatebolrwydd er mwyn cau bylchau medrau ar draws y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2.  Penderfynwyd defnyddio’r dechnoleg a oedd ar gael ac arbenigedd yr holl staff mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Mae’r dirprwy bennaeth wedi ymgymryd â rôl cydlynydd asesu ers 2010.  Fodd bynnag, mae pob un o’r staff yn gysylltiedig â’r broses asesu ar gyfer dysgu sydd o ansawdd uchel.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae pob un o’r staff yn cyfranogi mewn asesu ar gyfer dysgu trwy gofnodi’u harsylwadau o gynnydd disgyblion, ac maent yn arfarnu eu perfformiad ar ddogfen electronig a rennir drwy Hwb.  Pan fydd staff yn nodi bwlch medrau yn nysgu’r disgyblion, cofnodir hyn ar e-ddogfen gydweithredol yn OneDrive, a gall yr holl ymarferwyr gael mynediad iddi ar unwaith.  Mae’r arsylwadau ffurfiannol hyn yn galluogi athrawon dosbarth i fod yn ymatebol trwy gynllunio ymyriadau ‘cau’r bwlch medrau’ yn ddi-oed, gan ddyrannu adnoddau a staff i fynd i’r afael ag anghenion grŵp ac unigolion.  Mae hyn yn aml yn digwydd ar yr un diwrnod, ac mae’n rhoi dysgwyr ar lwybr at feistrolaeth.

Mae staff yn annog disgyblion Blwyddyn 6, yn enwedig y rhai mwy abl, i gofnodi eu ‘camau nesaf’ eu hunain.  Os ydynt yn gweld medr yn heriol, maent yn gwneud cofnod ac mae’r athro yn paratoi dewis o adnoddau wedyn i’w cynorthwyo, gan eu galluogi i weithio ar fedr yn annibynnol.

Mae disgyblion ym Mlwyddyn 2 hefyd yn dewis darnau o waith lle teimlant eu bod wedi dangos medr arbennig yn dda. Cymerant dystiolaeth ffotograffig neu fideo, a’i lanlwytho i’w hardal storio yn Hwb, gan ddefnyddio rhaglen J2E.  Mae disgyblion yn anodi eu gwaith, gan ddefnyddio’r opsiwn ‘sgwrs ddysgu’.  Mae hyn yn darparu cyfleoedd iddynt fyfyrio ar eu dysgu, a chyfle i athrawon a disgyblion gael deialog hir ac ystyrlon mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys y cartref.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau disgyblion?

Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn yn eu medrau llythrennedd a rhifedd.  Mae dealltwriaeth glir o gyflawniad disgyblion gan yr holl staff sy’n gweithio gyda charfan, ac mae targedau unigoledig gan yr holl ddisgyblion.  Pan fydd staff neu ddisgyblion yn nodi unrhyw faterion, maent yn mynd i’r afael â nhw yn ddiymdroi fel arfer, ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf mewn sesiynau medrau sylfaenol, gan hyrwyddo cyfleoedd dysgu disgyblion i’r eithaf felly a’u galluogi i ymgysylltu’n llawn â  cham nesaf eu taith ddysgu. 

Mae’r ysgol yn y 25% uchaf o ysgolion tebyg yn gyson ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ac mae perfformiad disgyblion ar y lefel uwch uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae holiaduron Agweddau Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol (PASS) yn darparu tystiolaeth eu bod yn ymgysylltu’n dda â dysgu eu hunain a’u bod yn dod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog. 

Sut ydych chi wedi ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda hon yn eang trwy gyflwyniadau, arddangosiadau a gweithdai mewn amrywiaeth o leoliadau:
• Cyfarfod rhwydwaith cydlynydd TGCh y consortiwm rhanbarthol
• Digwyddiad ‘Arfer Dda’ technoleg gwybodaeth Caerffili
• Adolygiad ysgolion/Ysgolion Gwyrdd cymheiriaid
• Clwstwr
• Digwyddiad ‘Arfer Dda’ mathemateg y consortiwm rhanbarthol
• Marchnad ysgolion arloesi
• Ysgolion partneriaeth
• Cyfarfodydd llywodraethwyr