Defnyddio arweinyddiaeth wasgaredig ar gyfer gwella’r ysgol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Hen Felin yn ysgol arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol, anhwylderau’r sbectrwm awtistig, anawsterau dysgu dwys a lluosog, ac anghenion meddygol cymhleth.
Mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn ardal breswyl yn Ystrad Rhondda. Mae bron pob un o’r disgyblion yn mynychu’r prif safle. Mae gan yr ysgol dri dosbarth sydd wedi’u lleoli mewn darpariaeth loeren ar Gampws Rhondda Coleg Y Cymoedd ar gyfer disgyblion 16-19 mlwydd oed.
Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer 237 o ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed, ac mae gan bron bob un ohonynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig, cynlluniau datblygu unigol (CDUau) neu gyfwerth. Mae anghenion disgyblion yn cynnwys anawsterau dysgu difrifol (ADD), anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl), anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASA) neu amhariad ar y golwg.
Caiff disgyblion eu haddysgu mewn 22 ddosbarth. Mae 22 o athrawon amser llawn a 75 o gynorthwywyr cymorth dysgu.
Penodwyd y pennaeth ym mis Ionawr 2018.
Mae Ysgol Hen Felin yn ysgol sy’n annog pob disgybl i gredu yn ei allu i gyflawni. Ei nod yw datblygu pob disgybl i’w lawn botensial, yn addysgol ac yn gymdeithasol mewn amgylchedd diogel a phwrpasol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r ysgol wedi mireinio’i phroses hunanwerthuso a chynllunio gwelliant dros sawl blwyddyn. Mae’r ysgol yn hyrwyddo ethos tîm cryf i arwain a rheoli hunanwerthuso a chynllunio gwelliant, gyda phwyslais ar gynnwys pob un o’r staff ac ystod eang o randdeiliaid yn y broses.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r ysgol wedi creu fframwaith hunanwerthuso sy’n galluogi’r tîm arweinyddiaeth i wneud arsylwadau effeithiol ar waith presennol yr ysgol tra’n ystyried mewnbwn gan ystod eang o randdeiliaid.
Mae arweinyddiaeth wasgaredig yn ymagwedd at wella’r ysgol sy’n pwysleisio rhannu cyfrifoldeb a chydweithio ymhlith yr holl randdeiliaid. Mae’n cydnabod nad maes un unigolyn yn unig yw arweinyddiaeth effeithiol, ond ei fod yn hytrach yn ymdrech ar y cyd sy’n cynnwys aelodau o gymuned yr ysgol. Yng nghyd-destun ein hysgol, mae hyn yn cynnwys mynd ati i gynnwys ac ymgysylltu â phob un o’r staff, y disgyblion, y corff llywodraethol, ac ystod ehangach o randdeiliaid, gan gynnwys rhieni, yr awdurdod lleol, a chonsortia rhanbarthol, mewn cynllunio gwelliant.
Mae’r ysgol yn defnyddio sesiynau cyfnos HMS yn effeithiol i hwyluso sgyrsiau am hunanwerthuso rhwng staff. Mae’r ymagwedd hon yn annog athrawon, cynorthwywyr addysgu a staff gweinyddol i gyfrannu eu safbwyntiau a’u harbenigedd unigryw.
Mae ymglymiad disgyblion yn y broses wella yn hanfodol. Maent yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr i’w profiadau addysgol, gan helpu i nodi meysydd i’w gwella a chyfrannu at ddatblygu strategaethau effeithiol sy’n darparu ar gyfer eu hanghenion amrywiol. Mae’r ysgol wedi sefydlu ystod o grwpiau llais y disgybl sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at y broses hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.
Mae rhieni’n dod â mewnwelediadau gwerthfawr i anghenion a dyheadau disgyblion. Mae’r ysgol yn cydweithio â rhieni trwy fforymau, arolygon a chyfathrebu rheolaidd gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol. Mae hyn yn helpu i greu a chynnal partneriaethau cryf ac effeithiol gyda rhieni.
Mae gan y corff llywodraethol rôl hanfodol mewn llywio’r ysgol tuag at welliant. Mae ei rôl yn ymestyn y tu hwnt i oruchwylio i gymryd rhan yn weithredol mewn prosesau gwneud penderfyniadau, cynllunio strategol a sefydlu polisïau sy’n cyd-fynd â nodau gwella’r ysgol. Mae’r ymagwedd gydweithredol hon yn sicrhau bod y corff llywodraethol yn cael ei hysbysu’n dda am heriau a llwyddiannau’r ysgol, gan ganiatáu ar gyfer llywodraethu a chymorth mwy effeithiol.
Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol a’r gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion. Mae’r ysgol yn elwa ar ddefnyddio adnoddau, arbenigedd ac arfer orau. Mae hyn yn cefnogi’r ysgol yn y daith i’w gwella.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae timau gwella ysgolion wedi bod yn allweddol yn gyrru’r broses i wella’r ysgol. Maent yn hwyluso cyfathrebu, yn cydlynu gweithgarwch gwella ac yn sicrhau bod barn rhanddeiliaid yn cael ei hystyried fel rhan o’r broses hunanwerthuso.
Trwy gynnwys ystod eang o randdeiliaid, mae’r ysgol wedi creu diwylliant cydweithredol sy’n meithrin arloesi, ymatebolrwydd a gwelliant cynaledig. Fel y nodwyd yn yr arolygiad diweddar, mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd cryf tuag at eu targedau unigol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Maent yn ennill achrediad neu gymwysterau perthnasol ac yn symud ymlaen i leoliadau priodol pan fyddant yn gadael yr ysgol. Mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos ymddygiad ac agweddau cadarnhaol at eu dysgu. Mae disgyblion yn ganolog i fywyd yr ysgol.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
- Mae arweinwyr wedi cyflwyno hyfforddiant trwy’r awdurdod lleol a’r consortiwm rhanbarthol i rannu arfer orau.
- Mae cynllun hunanwerthuso a gwella’r ysgol wedi’i gyhoeddi ar wefan yr ysgol.