Defnyddio arweinyddiaeth ar y cyd i greu amgylchedd cynhwysol

Arfer effeithiol

Ysgol Bryn Coch C.P.


 

Cefndir

Mae Ysgol Bryn Coch yn gwasanaethu tref Yr Wyddgrug a’r ardal gyfagos yn Sir y Fflint.  Mae 648 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 77 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin a 23 o ddisgyblion yn y dosbarthiadau adnoddau dysgu.

Dechreuodd y pennaeth presennol yn ei swydd yn Ionawr 2009.  Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf yn Ionawr 2019.

Strategaeth a Gweithredu

Dros amser, mae arweinwyr yr ysgol wedi datblygu’r weledigaeth ar gyfer y modd y caiff yr ysgol ei rheoli.  Eu nod yw darparu cymuned hynod gynhwysol a chroesawgar sy’n meithrin disgyblion i fod yn ddysgwyr hapus, hyderus a gwydn, ac sy’n rhoi blaenoriaeth uchel i les staff.  Maent wedi cyflawni hyn trwy reoli newid yn effeithiol.

Mae strwythur rheoli’r ysgol yn caniatáu i arweinyddiaeth gael ei dosrannu a’i rhannu gan bron pob aelod o’r staff.  Mae hyn yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol a naw o benaethiaid blwyddyn.  Mae gan staff swydd ddisgrifiadau clir a gyd-drafodwyd.  Mae eu rheolwyr llinell yn cynnal adolygiadau blynyddol rheolaidd ar sail y safonau proffesiynol ar gyfer staff addysgu, ac ar sail rolau a chyfrifoldebau unigol ar gyfer staff cymorth.  Mae’r holl staff yn cael cyfleoedd gwerthfawr i ddysgu oddi wrth ei gilydd trwy rannu arfer dda, arsylwi ei gilydd yn addysgu a chymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol bob hanner tymor yn ymwneud â’r safonau proffesiynol.  Trwy wneud hynny, a’u harfer o ddydd i ddydd, mae arweinwyr yn annog staff i nodi eu hanghenion hyfforddiant eu hunain a dod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu, gan gynnwys ymweld ag ysgolion eraill, a thrwy hyfforddiant mewnol ac allanol.

Mae’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth yn sicrhau bod cyfathrebu effeithiol ar draws yr ysgol yn flaenoriaeth, er mwyn sicrhau y caiff yr holl staff eu cynnwys mewn rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd a rheoli newid.  Mae hyn yn cael effaith rymus ar les staff.  Er enghraifft, bob pythefnos, mae’r uwch dîm rheoli yn cyfarfod â’r penaethiaid blwyddyn, wrth gael cinio a ddarperir gan yr ysgol, i drafod safonau a diweddariadau i ddyddiadur yr ysgol.  Mae cyfarfodydd staff wythnosol yn canolbwyntio ar ddysgwyr, a chyfarfodydd rheolaidd ar gyfer grwpiau blwyddyn a staff cymorth.  Mae arweinwyr yn defnyddio bwletinau wythnosol ac yn rhannu cofnodion yr holl gyfarfodydd yn gyflym ac yn effeithiol gan ddefnyddio llwyfan cyfathrebu, er mwyn sicrhau cyfathrebu effeithiol ar draws yr ysgol o ddydd i ddydd.  Mae lles staff wrth wraidd rheoli newid.  Mae hyn wedi’i ymgorffori yn null yr ysgol, gan gynnwys ymrwymiad i gynnal sgyrsiau agored, gwrando ar bryderon a safbwyntiau gwahanol, a pharodrwydd i gyfaddawdu, yn ôl yr angen.

Mae dull hynod gynhwysol ar gyfer datblygu’r ysgol.  Mae aelod staff o bob grŵp blwyddyn yn gyfrifol am arwain un o dri maes gwella a nodwyd yn y cynllun gwella ysgol o fewn eu tîm.  Mae’r ysgol yn cynnwys yr holl staff, o athrawon newydd gymhwyso i athrawon sydd wedi hen sefydlu yn eu gyrfaoedd.  Mae’n ategu eu datblygiad proffesiynol yn hynod effeithiol, yn enwedig o ran datblygu eu medrau dysgu proffesiynol o’r Safonau Proffesiynol newydd.  Mae gan flaenoriaethau amserlenni clir yn ystod y flwyddyn academaidd er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf a lles staff a disgyblion.

Mae’r ysgol yn cynnwys yr holl randdeiliaid mewn rheoli newid, gan gynnwys llywodraethwyr, rhieni ac, yn bwysicaf oll, y disgyblion.  Mae disgyblion yn cyfrannu trwy bwyllgorau perthnasol llais y disgybl ac yn helpu i gynllunio’r hyn yr hoffent ei ddysgu.  Mae hyn yn sicrhau eu brwdfrydedd tuag at ddysgu.  Mae llywodraethwyr yn llawn cymhelliant, ac yn cynorthwyo a herio gweledigaeth yr ysgol yn arbennig o dda.

Effaith

Mae arweinyddiaeth gynhwysol a rheoli newid yn cael yr effaith fwyaf ar les staff sydd, yn ei dro, yn effeithio ar les disgyblion, sydd wrth wraidd eu gallu i ddysgu a chyflawni.

Daeth llawer o’r newidiadau diweddar, yn enwedig mewn perthynas â meysydd â blaenoriaeth yn y Cynllun Datblygu Ysgol, yn sgil staff yn teimlo eu bod wedi’u gorlethu gan nifer y gorchmynion a oedd arnynt ar unrhyw adeg.  O ganlyniad i’r newid diwylliant hwn, mae staff yn teimlo bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi.  Maent yn croesawu newidiadau sy’n helpu’r ysgol i symud ymlaen oherwydd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses.  Mae hyn wedi galluogi’r ysgol i gyflawni ei gweledigaeth, sef ‘Our Happy, Caring Bryn Coch School’.

Sut rydym wedi rhannu ein harfer dda

  • Ysgrifennwyd astudiaeth achos i’w rhannu gyda chonsortiwm GwE
  • Rhannwyd yn uniongyrchol ag ysgolion eraill yn y consortiwm

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn