Defnyddio arsylwadau effeithiol i lywio gynllunio i wella’r effaith ar ddysgu a datblygiad plant

Arfer effeithiol

Tiggys

Dau blentyn mewn gweithdy, gydag un yn gwisgo het galed felen ac yn defnyddio morthwyl, a'r llall yn dal sgriwdreifer teganau. Maent wedi'u hamgylchynu gan offer amrywiol a mainc waith teganau.

Gwybodaeth am y lleoliad 

Mae Tiggy’s Day Care wedi bod ar agor ers Gorffennaf 2020 ac mae’n estyniad i chwaer feithrinfa, Tiggywinkles Day Nursery, sydd wedi bod yn rhedeg ers 30 mlynedd. Mae’n cynnig gofal dydd llawn, lleoedd addysg, gofal cofleidiol, dechrau’n deg, clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol. Mae wedi cofrestru ar gyfer 30 o blant y dydd, rhwng 2 a 12 oed. Mae wedi’i leoli ar dir ysgol gynradd, gyda chysylltiadau da sy’n sicrhau pontio hwylus i blant. Mae’n lleoliad cyfrwng Saesneg ond mae hefyd yn defnyddio llawer o Gymraeg gyda’r plant.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Mae proses arsylwi a chynllunio’r lleoliad wedi datblygu o fynychu hyfforddiant pedwar diben / cipio’r tymor, yna ymlaen i’r cwricwlwm newydd. Yn y gorffennol, roedd arsylwadau’n canolbwyntio ar ddatblygiad plant a chwblhawyd cynllunio ymlaen llaw. Newidiodd hyn wrth i ymarferwyr ymateb i ofynion y ‘Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir a ariennir’. Parhaodd cynllunio ar sail ‘mapio’r meddwl’ o gwmpas y tymhorau. Crëwyd templed newydd ar gyfer arsylwadau i gefnogi cynllunio. Mae staff nawr yn defnyddio dull seiliedig ar gyfleoedd i ‘Sylwi’, ‘Dadansoddi’ ac ‘Ymateb’. Mae’r broses hon yn caniatáu iddynt ymestyn profiadau a diddordebau plant a sicrhau dilyniant mewn dysgu trwy gynllunio ar gyfer anghenion a galluoedd unigol plant. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r holl ymarferwyr yn cwblhau arsylwadau effeithiol i gefnogi a llywio cynllunio sy’n cael effaith ar ddysgu’r plant. Cefnogir datblygiad plant yn unigol neu mewn grwpiau trwy adolygu arsylwadau a chael trafodaethau anffurfiol rheolaidd am gynnydd plant. Mae ymarferwyr yn asesu anghenion a diddordebau plant ac yn defnyddio’r wybodaeth i lywio cynllunio at y dyfodol i fodloni anghenion y plentyn unigol neu grŵp o blant.  

Mae’r aelod staff arweiniol yn adolygu arsylwadau tua bob pythefnos i ategu’r broses gynllunio. Mae adolygu arsylwadau hefyd yn caniatáu i ni sylwi os oes camau nesaf y mae angen i ni eu cymryd ar gyfer plant penodol. Efallai mai adolygu a mireinio agwedd neu fedr penodol fydd hyn, i ddwysáu eu dealltwriaeth neu ymestyn eu dysgu. Mae’r holl staff yn gwybod beth sydd ei angen ar bob plentyn unigol o ran cefnogaeth neu her i wella’u datblygiad. Mae staff yn defnyddio arsylwadau ac yn ymateb trwy wneud y defnydd gorau o gyfleoedd dysgu digymell a/neu gynllunio profiadau dysgu at y dyfodol. Gall y rhain ddigwydd ar y diwrnod, drannoeth neu hyd yn oed wythnos yn ddiweddarach gan ddefnyddio ‘Sylwi’, ‘Dadansoddi’ ac ‘Ymateb’. Defnyddir y broses hon yn naturiol ar draws y gwaith. Er enghraifft, pan roedd plant yn defnyddio offer o’r ardal flociau i drwsio’r cypyrddau yn y gornel gartref, gofynnodd aelod staff gwestiynau am beth roeddent yn ei wneud a rhoddodd ymatebion fel ‘Tybed os…’ O ganlyniad i hyn, chwiliodd y plant am adnoddau eraill y gallent eu defnyddio i drwsio’r ‘gollyngiad’. Aeth staff ymlaen i ysgrifennu arsylwad manwl a defnyddiol am yr hyn y gwnaethant ei arsylwi. Arweiniodd hyn at drafodaeth rhwng y staff ar sut y byddent yn ymateb i’r diddordeb hwn a sut i ymestyn y dysgu. Ychwanegwyd nodiadau at y prif fwrdd cynllunio, yn barod i’r staff drefnu profiadau dysgu difyr i’r plant, a ddigwyddodd yr wythnos ganlynol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau plant? 

Mae digon o adnoddau ar gyfer y ddarpariaeth bob amser ac nid yw’n aros yr un fath drwyr amser. Mae ymarferwyr yn datblygu’r ardaloedd gan ddilyn diddordebau, galluoedd ac anghenion y plant. Gwneir hyn ar ôl i staff drafod arsylwadau’r plant. 

Mae staff wedi dod yn hyderus wrth ddefnyddio cwestiynu effeithiol yn ystod rhyngweithiadau rhwng oedolion a phlant i gefnogi dysgu a datblygiad y plant. Mae plant yn hoelio sylw mawr ar eu chwarae a’u cyfleoedd dysgu, wrth i’w hanghenion a’u diddordebau gael eu bodloni’n gyson. Mae plant yn annibynnol iawn o fewn y lleoliad. Mae’r arsylwadau parhaus yn amlygu’r cynnydd gwych y mae plant yn ei wneud gydag amser. Mae hyn i’w weld yn amlwg pan fydd ymarferwyr yn edrych yn ôl dros eu hasesiadau cychwynnol.  

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda? 

Mae’r lleoliad yn rhannu arfer dda trwy fynychu cyfarfodydd rhwydwaith yr ALl ac EAS yn rheolaidd ac mae’n croesawu ymweliadau gan leoliadau eraill a staff dosbarthiadau meithrin ysgolion lleol i rannu ei amgylchedd dysgu a’i broses arsylwi a chynllunio.  

Mae’r rheolwr wedi cymryd rhan mewn Pecyn Cymorth Cynllunio ar gyfer ‘Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Nas Cynhelir a Ariennir’ a ddatblygwyd gan EAS i’r lleoliad rannu arfer dda. Caiff ei ddefnyddio i gynorthwyo meithrinfeydd eraill â gweithredu’r cwricwlwm ac i ddatblygu arsylwi a chynllunio.