Defnydd yr ysgol o ddysgu awyr agored i fodloni anghenion cymhleth a synhwyraidd disgyblion.
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Lleolir Ysgol Riverbank yng ngorllewin Caerdydd ac mae’n rhan o’r Western Learning Federation, yn gweithio ochr yn ochr ag Ysgolion Tŷ Gwyn a Woodlands. Fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Cyngor Dinas Caerdydd. Mae anghenion dysgu ychwanegol amrywiol gan y disgyblion. Mae gan ychydig o dan hanner ohonynt anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu ac mae gan chwarter arall ohonynt gyflwr ar y sbectrwm awtistig. Mae gan ychydig o dan ddau o bob pum disgybl anawsterau dysgu difrifol. Mae gan 14% o’r disgyblion anhawster dysgu cyffredinol a/neu anghenion corfforol a meddygol. Mae gan bron pob un o’r disgyblion Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol sy’n cynnwys anawsterau corfforol, synhwyraidd, meddygol, emosiynol ac ymddygiadol.
Saesneg yw prif iaith llawer o ddisgyblion. Ar hyn o bryd, nid yw’r un o’r disgyblion yn siarad Cymraeg mamiaith. Daw ychydig o dan un o bob pump o’r disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol ac mae ychydig dros chwarter o ddisgyblion a’u teuluoedd yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae ychydig dros draean o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae Riverbank yn elwa o ardal awyr agored helaeth gan gynnwys mannau i chwarae, gardd, ardal bwrpasol ar gyfer dysgu mwy am yr amgylchedd naturiol, a ‘hobbit hut’. Mae disgyblion yn defnyddio hwn i ddatblygu medrau ar draws y cwricwlwm. Hefyd, mae’n rhoi amgylchedd croesawgar i ddisgyblion ddarllen.
Yn ogystal, mae plant yn datblygu medrau cydbwysedd a chydsymud wrth ddefnyddio beiciau a threiciau.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae gan bob ystafell ddosbarth ei hardal dysgu awyr agored unigol ei hun, a ddefnyddir yn rheolaidd, a chaiff disgyblion eu hannog a’u cynorthwyo i ddysgu gan ddefnyddio’r mannau awyr agored sydd ar gael iddynt.
Mae disgyblion yn mwynhau archwilio ardal yr ardd yn fawr. Maent yn plannu llysiau ac yn gwylio’n frwd wrth i’w llysiau dyfu. Datblygwyd mannau eraill lle y gall disgyblion archwilio, arbrofi a chwarae mewn amgylchedd amlsynhwyraidd. Er enghraifft, mae disgyblion dan oruchwyliaeth ofalus staff cymwysedig yn dysgu sut i adeiladau tân a rhostio malws melys.
Ar y cyfan, caiff disgyblion eu hannog i fod yn greadigol yn yr ardaloedd hyn gan ddefnyddio chwarae blêr mewn mwd a dŵr, y pwll tywod, a’r pwll peli i fynegi eu hunain a chymryd risgiau â chymorth.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r ysgol yn deall pwysigrwydd darparu profiadau synhwyraidd naturiol i’w disgyblion. Mae profiadau o’r fath yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas a darparu cyfleoedd dysgu iddynt na fyddent yn eu cael fel arall. Gydag amser, daw disgyblion yn fwy hyderus ac annibynnol.
Mae’r ysgol wedi sylwi bod ei disgyblion ar eu hapusaf pan fyddant yn ymdrochi yn yr amgylchedd awyr agored. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar les disgyblion a’u hymgysylltiad â dysgu. Mae’r ysgol wedi sylwi bod darparu cyfleoedd rheolaidd wedi’u cynllunio i ddisgyblion gael at yr amgylchedd dysgu awyr agored wedi gwella gallu disgyblion i reoleiddio’n emosiynol. O ganlyniad, bu gostyngiad yn nifer y digwyddiadau ymddygiad heriol.
Sut rydych chi wedi rhannu’n arfer dda?
Mae staff yn yr ysgol yn myfyrio’n rheolaidd ar ddarpariaeth yr ysgol ac effaith y ddarpariaeth ar ddisgyblion. Mae staff yn barod i drafod arferion effeithiol gyda’i gilydd. Yn ogystal, mae’r ysgol yn defnyddio adnodd ar-lein i rannu profiadau dysgu disgyblion gyda’u rhieni neu eu gofalwyr.