Defnydd effeithiol o’r ardaloedd tu allan er mwyn datblygu medrau’r disgyblion ar draws y cwricwlwm

Arfer effeithiol

Ysgol Bro Brynach


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Beca ac Ysgol Bro Brynach wedi ffedereiddio ers Tachwedd 2022. Mae’r ddwy ysgol wedi eu lleoli mewn ardal wledig. Mae’r ysgolion yn ysgolion categori 3 a Cymraeg yw iaith y ddwy ysgol. Mae mwyafrif y disgyblion yn dod o gartrefi Saesneg felly yn cael eu cyflwyno i’r iaith Gymraeg yn yr ysgol. 

Mae 90 o ddisgyblion oed 3-11 ar gofrestr Ysgol Bro Brynach gyda 8% yn derbyn prydiau ysgol am ddim, a 4% o ddisgyblion ar y gofrestr Addysg Dysgu Ychwanegol. Mae 4 dosbarth yn yr ysgol, dosbarth Meithrin a Derbyn, Blwyddyn 1 a 2, Blwyddyn 3 a 4 a Blwyddyn 5 a 6. 

Yn ysgol Beca mae yna 49 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 16% yn derbyn prydiau ysgol am ddim a 6% ar y gofrestr Addysg Dysgu Ychwanegol. Ysgol dau ddosbarth ydyw, dosbarth dysgu sylfaen a dosbarth cyfnod allweddol 2.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Wrth gynllunio’n fanwl, sicrhawyd bod medrau disgyblion sydd yn cael eu haddysgu yn y dosbarth yn cael eu trosglwyddo yn sesiynau ‘Gwener Gwyllt’ a ‘Llun Llanast’.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ar ddechrau’r tymor, mae’r disgyblion yn rhannu syniadau am yr hyn hoffent ddysgu o fewn y thema. Mae hyn yn arwain at waith ymchwil a pharatoi ychwanegol ar gyfer yr athrawon er mwyn lliwio’r llwybr addysgu a dysgu wrth ddilyn trywydd diddordebau’r disgyblion o fewn y sesiynau ‘Gwener Gwyllt’ a ‘Llun Llanast’. Yn ogystal, mae’r ddarpariaeth allanol yn nosbarthiadau’r dysgu sylfaen yn hygyrch i’r disgyblion trwy gydol y dydd. 

Mae disgyblion cyfnod allweddol 2 wedi ei grwpio yn ôl gallu yn ystod sesiynau ‘Gwener Gwyllt’. Mae heriau pwrpasol wedi eu gosod ar gyfer y disgyblion sydd yn canolbwyntio ar y chwe maes dysgu a phrofiad. Trwy hyn, darperir cyfleoedd iddynt ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar draws y cwricwlwm. Er enghraifft, darperir gweithgareddau fel: 

  • Lawnsio roced gan recordio uchder y lansiad 
  • Achub ar y mynydd gan datblygu medrau cadw’n ddiogel ac achub bywyd 
  • Defnyddio helyg yr ardd i greu lloches 

Mae’r disgyblion yn cofnodi eu gwaith mewn llyfrau llawr fesul grŵp, sydd wedi’u gwahaniaethu yn ôl cam datblygu disgyblion y grŵp. O ganlyniad, darperir trawstoriad o dystiolaeth, er enghraifft graffiau, esboniadau, cyflwyniadau ar lafar, adroddiadau, ac ati. Mae’r disgyblion yn cyflwyno eu gwaith mewn dull gwahanol sydd yn addas i’w cam datblygiad.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Erbyn hyn, mae dilyniant a chysondeb yn yr addysgu yn ysgolion ar draws y ffederasiwn. Mae’r ddarpariaeth yn fwy cyfoethog gyda chyd-weithio a chyd-gynllunio pwrpasol rhwng athrawon yn datblygu i fod yn effeithiol. 

Er mwyn cysoni’r arfer ar draws y ffederasiwn, rydym yn cynnal cyfarfodydd cynllunio ar y cyd ac yn gwneud teithiau dysgu ar draws y ffederasiwn i weld arfer dda a rhannu syniadau. Yn ystod sesiynau craffu llyfrau, rydym yn craffu llyfrau llawr ‘Gwener Gwyllt’ a ‘Llun Llanast’ er mwyn craffu ar ddatblygiad medrau disgyblion mewn profiadau cyfoethog ar draws y cwricwlwm.

 Mae’r disgyblion yn mwynhau’r sesiynau allanol ac yn awyddus i gwblhau’r heriau a thasgau. Maent yn defnyddio eu gwybodaeth blaenorol i gwblhau heriau ac yna’n cofnodi eu darganfyddiadau yn hyderus yn unigol ac o fewn grŵp. Mae yna amryw o fedrau sydd yn cael eu datblygu ac ehangu drwy’r dull hwn o addysgu. 

Gwelir cynnydd ym medrau’r disgyblion wrth iddynt ddatblygu eu medrau a’u gwybodaeth blaenorol i gwblhau’r heriau ar draws y cwricwlwm yn yr ardal allanol. Maent yn cymhwyso eu medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm yn bwrpasol gan ddefnyddio yr hyn maent wedi ddysgu yn flaenorol i gwblhau’r heriau. Maent yn defnyddio adnoddau digidol yn bwrpasol i gofnodi gwybodaeth ac i wneud gwaith ymchwil pellach. Mae eu medrau creadigol yn cael eu hymgorffori’n fuddiol ar draws y cwricwlwm hefyd, er enghraifft wrth i ddisgyblion ddefnyddio adnoddau naturiol i efelychu gwaith arlunydd. Mae’r modd hwn o addysgu yn bendant wedi cyflwyno a datblygu medrau disgyblion i gymhwyso eu medrau yn gynyddol hyderus ar draws y cwricwlwm. 

Mae’r disgyblion yn mwynhau’r sesiynau ardal allanol ac yn frwdfrydig i gwblhau heriau. Mae yna fwrlwm yn ystod y sesiynau hyn sydd yn dangos chwilfrydedd y disgyblion tuag at eu dysgu. Yn y dysgu sylfaen, gwelir arfer dda o’r defnydd o’r ardal allanol drwy gydol y dydd gyda gweithgareddau pwrpasol yn tanio’r dychymyg ac yn datblygu medrau sylfaenol y disgyblion yn llwyddiannus. Mae’r disgyblon yn eiddgar i fynd allan i’r ardal allanol yn ddyddiol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae aelodau o staff Ysgol Bro Brynach eisoes wedi gwneud cyflwyniad i ysgolion y Sir. Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar ein dull ni o addysgu a chyflwyno y cwricwlwm gan ganolbwyntio ar y defnydd o’r ardal allanol i gyfoethogi’r addysgu a dysgu. Maent hefyd wedi dangos enghreifftiau o’r llyfrau llawr ar draws y ffederasiwn, gyda staff Ysgol Beca yn mabwysiadu’r llyfrau llawr hefyd. 

Mae lluniau o’r gweithgareddau sydd yn digwydd yn gyson yn yr ysgol yn cael eu rhannu ar lwyfannau cymdeithasol yr ysgolion.