Datblygu’r Cwricwlwm i Gymru yn Ysgol Penglais
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Penglais yn ysgol cyfrwng Saesneg yn Aberystwyth, sy’n gwasanaethu ardal eang yng ngogledd a chanol Ceredigion. Mae tua 1100 o fyfyrwyr yn yr ysgol, y mae 12.8% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a 34.8% ar y gofrestr ADY. Mae dwy uned arbennig ar y safle: y Ganolfan Cymorth Dysgu ar gyfer myfyrwyr â lefelau uchel o anghenion a’r Ganolfan Adnoddau Clywed. Mae tua 10% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, a siaredir 34 o ieithoedd eraill yn yr ysgol.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi bod ar daith i wella. Ategwyd hyn gan weledigaeth newydd yr ysgol, sy’n dechrau gyda’r nod i fod ‘yn ysgol hapus, uchelgeisiol sy’n cyflawni’n dda lle mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi’. Mae’r weledigaeth gynhwysol ac uchelgeisiol hon yn ymgorffori’r angen i weithio fel cymuned gyfan ac i bawb fod y gorau y gallant, fel y gall disgyblion fod yn ddinasyddion llwyddiannus yn eu cymunedau, yng Nghymru a’r byd. Mae dysgu proffesiynol wedi bod yn agwedd hanfodol ar y daith gyda ffocws cryf ar addysgu a dysgu. Mae hyn wedi arwain at ddiwylliant agored iawn lle caiff arfer dda ei rhannu’n barhaus. Mae’r gwaith a wnaed yn y ddwy flynedd gyntaf o ran datblygu staff ac addysgeg wedi rhoi’r ysgol mewn sefyllfa dda i ganolbwyntio ar ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae ymchwil wedi bod yn agwedd bwysig iawn ar y gwaith hwn, gyda’r holl ddatblygiadau wedi’u seilio ar ymchwil ac ymholi proffesiynol. Mae gwaith mwy diweddar ar ddatblygu model arweinyddiaeth, lle rhoddir cyfrifoldeb i adrannau neu gyfadrannau unigol am yrru eu gwelliant eu hunain, wedi datblygu diwylliant o hunanwella ymhellach lle mae ymddiriedaeth ac atebolrwydd yn mynd law yn llaw.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi darparu cyfle i ddatblygu cwricwlwm sy’n adeiladu’n glir ar weledigaeth a gwerthoedd yr ysgol, ac yn rhoi cyfleoedd i’r holl fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth tuag at y pedwar diben. Mae’r ysgol wedi canolbwyntio’n gryf ar wella safonau addysgu a dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf trwy newid diwylliant, gan werthfawrogi pwysigrwydd dysgu gydol oes, arweinyddiaeth a llwyddiant ar gyfer staff a myfyrwyr. Mae hyn wedi creu diwylliant agored gyda ffocws ar ddysgu proffesiynol lle mae staff yn teimlo’n ddiogel i ddatblygu eu harferion a threialu a gwerthuso gwahanol ddulliau. Mae dysgu proffesiynol wedi cael ei gefnogi trwy ddarparu amser i athrawon ymgymryd ag ymchwil addysgegol, cynorthwyo staff i gymhwyso a gwerthuso addysgeg newydd, a rhannu arfer mewn briffiau a chyfarfodydd cyfadrannau. Mae hyfforddi wedi bod yn rhan o fireinio technegau cyfarwyddol, gwella cymorth personoledig ar gyfer myfyrwyr ag ADY, ac ymgorffori strategaethau sy’n datblygu darllen, ysgrifennu a llafaredd ar draws pynciau. Mae’r ffactorau hyn wedi darparu platfform pwysig i ddatblygu ‘Cwricwlwm Penglais’ arno.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Dechreuodd taith ‘Cwricwlwm Penglais’ â’r cwestiwn ‘Pam?’. Rhoddwyd amser i gyfadrannau archwilio dogfennau’r Cwricwlwm i Gymru, gwerthuso darpariaeth bresennol y cwricwlwm a mireinio dulliau adrannol i adlewyrchu’r pedwar diben yn eu pynciau. Ffurfiwyd Grŵp Ymchwil y Cwricwlwm ac Asesu i ymchwilio i theori ac arfer cwricwlaidd ac edrych ar fodelau posibl ar gyfer y cwricwlwm ac asesu; darparodd hyn yr arbenigedd ar gyfer y gwaith cwricwlwm ar lefel uchel i ddod. Bu’r grŵp yn gweithio’n helaeth gyda rhanddeiliaid i werthuso’r ddarpariaeth bresennol a sefydlu pum piler ar gyfer Cwricwlwm newydd Penglais, sef: Gwybodaeth, Diwylliant Creadigol, Cyfathrebu, Lles a Chynwysoldeb.
Aethpwyd i’r afael â chwestiwn ‘Beth?’ y cwricwlwm gyda ffocws ar nodi cysyniadau’r trothwy, gwybodaeth am y trothwy, medrau trothwy a phrofiadau trothwy yr oedd pynciau eisiau eu cyflwyno yng nghyfnod allweddol 3. Amlinellodd y ‘trothwyau’ hyn y dysgu allweddol y dylai disgyblion ei gaffael cyn astudio cyrsiau TGAU. Gwnaed cyfeiriad manwl at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a chamau cynnydd, ac anogwyd arweinwyr i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael gan gymdeithasau proffesiynol eu pynciau i nodi gwybodaeth newydd. Archwiliwyd dealltwriaeth o bwysigrwydd dyfnder y dysgu a chyflawni ‘meistrolaeth’ mewn cyfarfodydd datblygiad proffesiynol; roedd hyn yn bwysig i osgoi gorlwytho cynnwys, a ffocws ar ddysgu dwfn sy’n meithrin sgema bwerus a hirbarhaus (gwybodaeth a fydd yn aros). Cyflwynwyd gwaith ar bwysigrwydd a gwerth cysylltiadau rhyngddisgyblaethol o fewn meysydd dysgu a phrofiad; rhannodd cydweithwyr mewn gwahanol bynciau o fewn meysydd dysgu a phrofiad eu cysyniadau, gwybodaeth a medrau trothwy, a nodi ble y gellid creu cysylltiadau pwrpasol a dilys. Gellid cefnogi’r cysylltiadau hyn trwy adfer a chysylltu ar draws pynciau, gan ddatblygu ymholi ar y cyd neu ddatblygu creadigrwydd a datrys problemau ar ôl meistroli. Fe wnaeth cyfadrannau ddatblygu a threialu’r defnydd o gysylltiadau rhyngddisgyblaethol fel ymholi ar y cyd (y Dyniaethau), cysylltiadau ar draws pynciau (Ieithoedd a’r Gwyddorau Cymdeithasol) a chreadigrwydd a datrys problemau (Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Mathemateg).
Roedd cwestiwn ‘Sut?’ y cwricwlwm newydd yn cynnwys ymchwil i naratifau’r cwricwlwm a ffyrdd o sicrhau trefn i’r cwricwlwm. Ar yr adeg hon, fe wnaethom hefyd adolygu pwysigrwydd creu gofod a chydblethu i uchafu cof a dysgu. Datblygodd yr holl bynciau naratif cwricwlwm a mapio cwricwlwm cyfnod allweddol 3 trwy ddefnyddio cysyniadau, gwybodaeth, medrau a phrofiadau trothwy, tra’n cyfeirio hefyd at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a chamau cynnydd. Cafodd cysylltiadau rhyngddisgyblaethol a nodwyd yn y cam blaenorol eu hychwanegu at y map hefyd. Mae mapiau wedi cael eu rhannu i alluogi dealltwriaeth well o’r cwricwlwm ym mhob maes dysgu a phrofiad a datblygu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol pwrpasol ymhellach. Er mwyn datblygu continwwm dysgu, bydd cysylltiadau â chwricwlwm cyfnod allweddol 2 mewn medrau a geirfa pwnc yn cael eu datblygu ar y cyd â chyfleoedd i staff addysgu uwchradd gael profiad o wersi Blwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd. Cyflwynwyd addysgeg i gefnogi’r cwricwlwm newydd fel datblygu ‘ymhelaethu’ (‘cyflymu’ a ‘rhwymo’), a bydd hyn yn rhan o’r rhaglen datblygiad proffesiynol wrth i’r cwricwlwm newydd ddatblygu.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Trwy gydol datblygiad yr ysgol o’r cwricwlwm, mae gwella addysgu wedi parhau i fod yn ffocws canolog. Mae arweinwyr yr ysgol yn deall y byddai datblygiadau cwricwlaidd yn debygol o gael effaith fach iawn heb addysgu o ansawdd uchel. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu gwelliannau sylweddol yn ansawdd yr addysgu.
Mae cyfadrannau ac adrannau wedi achub ar y cyfle a ddaeth yn sgil ‘Cwricwlwm newydd Penglais’ i werthuso darpariaeth ac ymchwil bresennol, treialu a gwerthuso profiadau dysgu newydd. Mewn Dylunio a Thechnoleg, mae rhaglen ddysgu Blwyddyn 7 wedi cael ei hailddylunio i ganiatáu ar gyfer llai o brosiectau a mwy o ffocws ar brofiadau ymarferol a meistroli medrau. Mae cwmni dylunio lleol wedi darparu brîff pensaernïaeth sy’n rhoi cyd-destun bywyd go iawn i fyfyrwyr gymhwyso eu medrau. Mae’r deilliannau wedi dangos gwelliant nodedig yn ansawdd dylunio a chymhwyso cynnyrch. Mae myfyrwyr wedi dod yn fwy annibynnol o lawer hefyd yn datblygu eu dyluniadau gan eu bod wedi meistroli’r medrau sydd eu hangen, ac yn meddu ar wybodaeth amdanynt. Mae myfyrwyr wedi dangos mwy o gymhelliant â dylunio eu cynnyrch hefyd am fod ganddynt ‘gleient’ i greu cynnyrch ar ei gyfer. Yn y Dyniaethau, mae’r ymholi ar y cyd ym Mlwyddyn 7 rhwng Hanes a Daearyddiaeth wedi datblygu’r cysylltiadau cysyniadol rhwng y ddau bwnc wrth ymdrin â’r cwestiwn ‘Pam ydym ni’n byw ble rydym ni?’. Mae hyn wedi galluogi myfyrwyr i ddod â chysyniadau Lle (safle, anheddiad) a Gofod (mudo) at ei gilydd mewn podlediad sy’n esbonio pam mae pobl wedi ymgartrefu yn Aberystwyth. Roedd myfyrwyr wedi’u cymell i gwblhau’r podlediad a byddant yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr Blwyddyn 6 mewn gweithgareddau pontio. Mewn Saesneg, mae’r dewis i ddefnyddio nofel fwy heriol ym Mlwyddyn 9 – ‘Things Fall Apart’ gan Chinua Achebe – wedi diweddu mewn darn arddangos terfynol lle mae myfyrwyr yn adrodd stori wahanol am Gymru; mae hyn yn adeiladu ar y ddealltwriaeth a gafwyd o’r nofel o berygl un stori. Mae’r darnau arddangos yn hynod unigoledig ac yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad gwell o Gynefin fel lle o feddiannau lluosog. Mae cyfleoedd yma i ddatblygu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol gydag Ieithoedd a’r Dyniaethau. Mewn Mathemateg, mae ailgyflwyno dulliau i ddatblygu medrau metawybyddiaeth disgyblion wedi effeithio ar allu myfyrwyr i newid o feddwl diriaethol i haniaethol, datblygu eu rhesymu geiriol a mynegi syniadau yn gryno ac yn rhesymegol. Yn y gwersi hyn, mae ysgrifennu yn cynorthwyo meddwl ac nid yw’n ddiben ynddo’i hun.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Yn yr ysgol, mae pob un o’r cyfadrannau wedi cyflwyno eu gwaith ar ddatblygu’r cwricwlwm mewn briffiau. Defnyddiwyd cyfarfodydd rhwydwaith sirol i rannu arfer rhwng ysgolion yng Ngheredigion. Mae cyfarfodydd diweddar ar y safle gyda chynrychiolwyr o ysgolion bwydo cynradd wedi galluogi sgyrsiau proffesiynol ynghylch ymagwedd a chynnydd gyda’r cwricwlwm newydd.