Datblygu systemau ysgol gyfan i ysgogi gwelliant cyflym - Estyn

Datblygu systemau ysgol gyfan i ysgogi gwelliant cyflym

Arfer effeithiol

Heolgerrig Community School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ym Mwrdeistref Merthyr Tudful yw Ysgol Gymunedol Heolgerrig.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o’r gymuned leol, ac mae tua 7% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n is o lawer na’r cyfartaledd ar gyfer yr awdurdod lleol a Chymru.  Mae 227 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, gan gynnwys 24 o ddisgyblion meithrin amser llawn.  Mae wyth dosbarth, gan gynnwys y dosbarth meithrin.

Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 21% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cyd-fynd â’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ysgolion cynradd.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg gartref.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Arolygwyd yr ysgol yn 2012 ac fe’i rhoddwyd yn y categori mesurau arbennig.  Ym mis Chwefror 2013, secondiwyd pennaeth a dirprwy bennaeth i’r ysgol am gontract 18 mis gan yr awdurdod lleol, gyda chylch gwaith i ddod â’r ysgol allan o’r categori mesurau arbennig cyn gynted ag y bo modd.

Yn 2014, daeth y dirprwy bennaeth a secondiwyd yn ddirprwy bennaeth parhaol ac ym mis Medi 2015, ymgymerodd â rôl y pennaeth.

Daeth yr ysgol allan o’r categori mesurau arbennig ym mis Tachwedd 2013, yn dilyn taith gyflym i wella.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn 2013, bu’r tîm arweinyddiaeth newydd yn gweithio i nodi anghenion yr ysgol, gan flaenoriaethu gwelliannau a chreu gweledigaeth ar y cyd.  Nododd arweinwyr ei bod yn hanfodol hybu morâl tîm yr ysgol, trwy feithrin perthnasoedd, modelu arfer, darparu cyfleoedd hyfforddi, a grymuso staff ac arwain y ffordd.

Nodi anghenion yn gyflym a sicrhau gwaelodlin gywir

Cynhaliwyd cyfres o weithgareddau monitro i sefydlu gwaelodlin safonau, fel arsylwadau gwersi trylwyr, teithiau dysgu, craffu ar lyfrau, dadansoddi data, a gwrando ar ddysgwyr.  Sefydlwyd cynllun gweithredu ôl-arolygiad ffocysedig, a bu staff yn gweithio’n ddiwyd i fynd i’r afael â meysydd i’w gwella.

Rhannwyd sail dystiolaeth o arfer well â staff lle canfuwyd hi, er mwyn eu grymuso a meithrin morâl.  Cynhaliwyd cyfarfodydd ddwywaith yr wythnos ynghyd â chyfarfodydd â phob un o’r staff a chyfarfodydd cyfnodau allweddol ar wahân i ganolbwyntio ar gamau gweithredu penodol a rhannu arfer dda.  Sefydlwyd model syml i nodi anghenion, modelu a chynnal arfer effeithiol, adrodd yn ôl ac adolygu.

Gwella safonau mewn darllen

Yn gyffredinol, gwelodd arweinwyr fod hoffter disgyblion am ddarllen yn cael ei golli.  Roedd adnoddau darllen yn gyfyngedig.  O ganlyniad, prynwyd cynllun darllen newydd a chrëwyd llyfrgell newydd.  Dyfarnwyd gwobr ‘Ysgol Fusnes y Flwyddyn’ i ddosbarth Blwyddyn 6 yn 2013 wedi iddynt ddatblygu busnes bach yn effeithiol i werthu llyfrau.  Mae disgyblion yn defnyddio’r elw i ddarparu llyfrau o’u dewis yn y llyfrgell.  Caiff disgyblion eu hyfforddi fel cyfeillion darllen ac ar sut i gynnal sesiynau darllen dwyochrog fel rhan o’u gweithgareddau darllen dyddiol.  Mae diwylliant darllen ysgol gyfan wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn, ac mae hyd yn oed Siôn Corn yn ymweld i ddod â llyfr darllen i bob plentyn; traddodiad sy’n parhau o hyd.

Caiff amser darllen neilltuedig ei hwyluso ym mhob dosbarth.  Mae hyfforddiant ysgol gyfan wedi golygu bod modd addysgu medrau darllen yn effeithiol ac yn gyson ar draws yr ysgol.  Caiff rhieni eu cynnwys mewn gweithdai darllen hefyd.  Mae gan bob dosbarth guddfannau darllen difyr a defnyddir y llyfrgell bob dydd.

Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais parhaus ar fedrau darllen.  Cafodd safonau eu herio ar draws yr ysgol, a rhoddwyd asesiadau ffurfiol ar waith bob tymor, gan arwain at roi ystod o ymyriadau cadarnhaol ar waith.

Gwella presenoldeb

Yn 2013, fe wnaeth presenoldeb osod yr ysgol yn y 25% gwaelod o gymharu ag ysgolion tebyg.  Nododd arweinwyr fod angen creu amgylchedd dysgu cadarnhaol lle roedd disgyblion eisiau dod i’r ysgol.  Roedd y cwricwlwm yn ei gwneud yn ofynnol cael mwy o weithgareddau cyfoethogi ar gyfer disgyblion.  O ganlyniad, gwrandawodd yr ysgol ar yr hyn a fyddai’n gwneud gwahaniaeth, ym marn y disgyblion.  Gofynnon nhw am fwy o glybiau ar ôl yr ysgol a chwricwlwm ‘hwyliog’.  Gwirfoddolodd pob un o’r staff i gynnal clwb ar ôl yr ysgol, a thrwy gynllunio ar y cyd, adfywiwyd y cwricwlwm i gyflwyno dull thematig o ennyn diddordeb dysgwyr.  Trefnwyd teithiau a daeth ymwelwyr i’r ysgol, a dechreuodd hyn gael effaith ar bresenoldeb

Yn ychwanegol, mynychodd y cyngor ysgol gyfarfodydd wythnosol gyda’r dirprwy bennaeth i drafod mentrau presenoldeb.  Trwy ymgynghori â’u cyfoedion a’r llywodraethwr presenoldeb, penderfynon nhw sut i godi proffil presenoldeb ar draws cymuned yr ysgol gyfan.

Roedd canrannau presenoldeb dosbarthiadau yn cael eu rhannu a’u dathlu bob wythnos trwy wasanaethau a’u hanfon at rieni.  Dewiswyd ystod o gymhellion a gwobrau gan ddisgyblion, fel:

  • gwobrau i’r dosbarth sydd â’r presenoldeb gorau bob tymor
  • raffl presenoldeb dymhorol gyda llyfrau fel gwobrau
  • ‘hamper plentyn’ am bresenoldeb 100% ar gyfer y flwyddyn
  • gwybodaeth bob tymor ar gyfer rhieni am ffigurau presenoldeb eu plentyn

Sicrhau gwelliannau y tu hwnt i fesurau arbennig

Teimlai arweinwyr ei bod yn hanfodol sefydlu hunanarfarniad gonest a chywir parhaus ar draws yr ysgol, yn cynnwys cymuned yr ysgol gyfan.  Cynhaliwyd cyfarfodydd pwyllgor safonau bob tymor lle cyflwynwyd gwybodaeth i lywodraethwyr i ddwyn yr ysgol i gyfrif a darparu her effeithiol i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal.  Arweiniodd yr hunanarfarniad at gael cynllun datblygu ysgol â ffocws a ddatblygwyd gyda chyfraniad disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dangosodd data darllen yr ysgol fod oedrannau darllen 50% o ddisgyblion uwchlaw eu galluoedd darllen disgwyliedig yn 2013.  Cynyddodd hyn i dros 80% erbyn 2016.  Mae’r data profion Darllen Cenedlaethol yn dangos y gwelliannau a wnaed mewn darllen hefyd.  Dangosodd arolygon llais y disgybl gan yr ysgol bod cynnydd o 59% wedi bod yn nifer y disgyblion a oedd yn mwynhau darllen, erbyn 2016.

Erbyn 2016, Heolgerrig oedd â’r gyfradd presenoldeb uchaf yn yr awdurdod lleol.  Symudodd yr ysgol i’r 50% uwch o gymharu ag ysgolion tebyg, ac mae wedi parhau i wella’i phresenoldeb ers hynny.

Er 2015, mae’r ysgol wedi’i chategoreiddio yn ysgol ‘werdd’ yn y broses gategoreiddio genedlaethol.  Mae safonau wedi aros yn gyson uwchlaw’r canolrif, o gymharu â safonau ysgolion tebyg.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Gwahoddwyd Heolgerrig i rannu arfer dda ar lefel clwstwr ac awdurdod lleol.  Mae’n ymgymryd ag ystod o waith rhwng ysgolion ac yn rhannu arfer dda.