Datblygu rhaglen cymorth iaith arbenigol ar gyfer awdurdod lleol
Quick links:
- Gwybodaeth am y lleoliad
- Cefndir a Chyd-destun
- Sail resymegol
- Ymchwil
- Gweithredu – Ymagwedd gyffredinol, dargedig ac arbenigol
- Cyffredinol: Hyfforddiant, asesu, cyngor a rhannu medrau ar gyfer pob lleoliad cynradd
- Targedig: Prosiect Datblygu Iaith
- Arbenigol: Allgymorth iaith a darpariaeth grwpiau bychain
- Darpariaeth canolfan adnoddau i grwpiau bychain
- Effaith
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae awdurdod lleol Sir y Fflint wedi datblygu ymagwedd integredig at Ddatblygu Iaith, sy’n cynnig gwasanaethau a chymorth ar lefel gyffredinol, dargedig ac arbenigol. Mae cydweithrediad agos rhwng Gwasanaeth Iaith yr awdurdod lleol (CLASS), y Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) a Therapyddion Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol o fewn lleoliadau prif ffrwd ac arbenigol.
Cefndir a Chyd-destun
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i leoli yng ngogledd Cymru ac mae ganddo boblogaeth gyfan o 155,155. Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 78 ysgol. Mae 64 ysgol gynradd, gan gynnwys 5 sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae 11 ysgol uwchradd, gan gynnwys un ysgol cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae dwy ysgol arbennig ac uned cyfeirio disgyblion portffolio. Caiff y ddarpariaeth arbenigol yn y sir ei hymestyn trwy ddefnyddio canolfannau adnoddau mewn nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd. Mae’r rhain yn cynnig ymyrraeth dargedig i ddysgwyr ag anghenion unigol penodol, gan gynnwys anhwylder datblygu iaith.
Sail resymegol
Er bod nifer y lleiafrifoedd ethnig yn Sir y Fflint islaw cyfartaledd Cymru gyfan, mae’r sir wedi gweld cynnydd sylweddol o 182% yn nifer ei ddysgwyr Saesneg fel iaith ychwanegol er 2011. Ar yr un pryd, mae’r galw am ymyrraeth iaith a lleferydd arbenigol wedi cynyddu, gyda phwysau ychwanegol yn cael eu gosod ar wasanaethau a chanolfannau adnoddau arbenigol. O fewn ysgolion prif ffrwd, roedd pryderon cynyddol yn dod i’r amlwg ynghylch yr oedi yn natblygiad iaith nifer cynyddol o blant a oedd yn dechrau yn y cyfnod sylfaen. Roedd hyn yn arbennig o gyffredin mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol. Ysgogodd y ffactorau hyn adolygiad o’r gwasanaethau a’r ddarpariaeth gyfredol ar y pryd, a arweiniodd at ddatblygu’r model cyflwyno presennol.
Ymchwil
Ystyriodd yr awdurdod lleol amrywiaeth o bapurau ymchwil i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Mae corff sylweddol o ymchwil sy’n dangos pwysigrwydd datblygu iaith yn llwyddiannus ar lefel gyffredinol, dargedig ac arbenigol. Cydnabu Jean Gross (2014) fod iaith yn effeithio’n sylweddol ar bob agwedd ar addysg plentyn, gan gynnwys ymddygiad, lles cymdeithasol ac emosiynol, a dysgu. Mae geirfa yn 5 oed yn rhagfynegydd cryf o’r cymwysterau a gyflawnir adeg oed gadael ysgol a thu hwnt (The Communication Trust 2013). Nododd Bercow (2008) fod o leiaf 7% o boblogaeth y DU yn arddangos anawsterau cyfathrebu arwyddocaol, a oedd yn cyfateb i oddeutu dau o blant ym mhob ystafell ddosbarth. Ar lefel leol, canfu astudiaeth o droseddwyr ifanc Sir y Fflint a Wrecsam fod gan 68% ohonynt, mewn asesiad, anawsterau cyfathrebu na chawsant eu nodi yn flaenorol.
Awgrymodd tystiolaeth a ddarparwyd gan Ramsden yn 2009 fod modd lliniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig ag anawsterau iaith trwy nodi ac ymyrryd yn gynnar, a bod defnyddio oedolion medrus i gefnogi datblygiad iaith, lleferydd a chyfathrebu plant ifanc yn rhan bwysig o’r broses hon. Yn ei erthygl, ‘In the moment’, mae Jones, M (2014) yn disgrifio dull ‘oedolion planedig’, lle y mae oedolion medrus yn chwarae ac yn gweithio ochr yn ochr â disgyblion, gan roi sylwadau, modelu ac ymateb i ddisgyblion gan ddefnyddio rhyngweithiadau priodol wedi’u harwain gan y plant. Dadleuir mai ymagwedd gydweithredol rhwng addysg ac iechyd yw’r arfer orau i blant ag anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu (A Generation Adrift, The Communication Trust, 2013).
Gweithredu – Ymagwedd gyffredinol, dargedig ac arbenigol
Arweiniodd yr ymchwil a wnaed at ddatblygu’r dewis o ddarpariaeth sydd ar waith ar hyn o bryd, fel y mae ffigur 1 isod yn ei dangos:
Ffigur 1: Model Ymyrryd 3 Haen Sir y Fflint
Cyffredinol: Hyfforddiant, asesu, cyngor a rhannu medrau ar gyfer pob lleoliad cynradd
Ar ôl nodi’r angen i dargedu datblygiad iaith ar y cyfle cynharaf posibl, datblygodd y Cynghorydd Dysgu ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, a’r Cynghorydd Dysgu ar gyfer SIY, raglen hyfforddi a fyddai’n addysgu ac yn grymuso staff ysgol i ddarparu cymorth iaith i bob plentyn ac annog lleoliadau’r cyfnod sylfaen i roi blaenoriaeth i ddatblygiad iaith lafar.
Mae’r pecyn hyfforddiant pum niwrnod cynhwysfawr yn cynnig cyngor damcaniaethol ac ymarferol ar ddatblygu medrau iaith oddefol a mynegiannol. Mae sesiynau’n cynnwys Gwrando a Sylw, Rhyngweithio Priodol rhwng Oedolyn/Plentyn, Rhesymu Llafar, Prosesu, y Cof, Ymwybyddiaeth Ffonolegol, Geirfa a Strwythur Brawddegau. Mae cwrs tebyg wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno i bob lleoliad y blynyddoedd cynnar a ariennir yn y sector nas cynhelir. Er bod yr hyfforddiant wedi’i dargedu at sector y blynyddoedd cynnar a chynradd, gall pob ysgol wneud cais am sesiynau unigol, targedig, i’w darparu ar ffurf digwyddiadau hyfforddi ysgol gyfan neu adrannol.
Yn ogystal â’r cyfleoedd hyfforddi ehangach, mae ymgynghoriadau a chyngor unigol ynghylch disgyblion ar gael i bob ysgol yn Sir y Fflint gan y Gwasanaethau Iaith a SIY.
Targedig: Prosiect Datblygu Iaith
Mae’r haen hon yn cynnwys ymyrraeth uniongyrchol, dargedig, i ysgolion a disgyblion drwy’r Prosiect Datblygu Iaith. Mae’r Prosiect Datblygu Iaith yn defnyddio egwyddor ‘oedolion planedig’ i ddatblygu medrau cyfathrebu plant ac mae’n cynnwys tîm o chwe Chynorthwyydd Datblygu Iaith, sydd wedi’u hyfforddi i fodelu ac ymestyn rhyngweithiadau iaith priodol yn y cyfnod sylfaen. Gall y tîm gynnig cymorth i hyd at 18 ysgol y flwyddyn; bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn cael Cynorthwyydd Datblygu Iaith dynodedig ar gyfer sesiynau bore neu brynhawn yn ddyddiol am ddau dymor. Mae’n rhaid i ysgolion wneud cais i fod yn rhan o’r prosiect; caiff ceisiadau eu hystyried a’u croesgyfeirio â data’r awdurdod lleol / Bwrdd Iechyd ar anghenion dysgwyr ym mhob ysgol benodol i sicrhau bod y prosiect yn cael yr effaith fwyaf. Mae llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar weithio cydweithredol rhwng ysgolion a’r awdurdod lleol, gyda’r awdurdod lleol yn sicrhau bod Cynorthwywyr Datblygu Iaith wedi’u hyfforddi’n briodol a bod staff yr ysgol yn ysgwyddo cyfrifoldeb am gyfeirio a goruchwylio’u gwaith yn yr ysgol.
Rôl y Cynorthwywyr Datblygu Iaith yw cynnig cymorth targedig yn rheolaidd i ddisgyblion unigol a, hefyd, i fodelu strategaethau priodol i weithwyr proffesiynol eraill yn y lleoliad. Mae’r ymyrraeth dargedig hon ar gael naill ai i blant uniaith sy’n cael trafferth cyfathrebu ar lefel briodol i’w hoedran, neu i blant sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol. Darperir y gwasanaeth mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Er bod hon yn ymyrraeth dargedig, mae’n bwysig nodi bod y Prosiect Datblygu Iaith yn caniatáu i ysgolion amlygu angen a chael at gymorth i ddysgwyr nad ydynt efallai’n bodloni’r meini prawf ar gyfer trywydd penodol arall o gymorth ac, o ganlyniad, mae’n elfen bwysig o’r ymyrraeth gynnar a gynigir drwy’r awdurdod lleol.
Arbenigol: Allgymorth iaith a darpariaeth grwpiau bychain
Dyma wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Wasanaeth Cynghori a Chymorth Cyfathrebu ac Iaith (CLASS) Sir y Fflint a Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r ddarpariaeth wedi’i thargedu at ddysgwyr sy’n arddangos Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu sylweddol ac y mae asesiad arbenigol Therapi Iaith a Lleferydd wedi amlygu y gallent efallai elwa o wasanaeth dwys CLASS. I ddechrau, mae’n cynnig ymyrraeth sydd wedi’i chyfyngu i ddau dymor, yn yr ysgol (dwy sesiwn yr wythnos) gyda Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol a Chydlynwyr Allgymorth Iaith Arbenigol yn cydweithredu â’i gilydd. Caiff hyn ei fonitro a’i asesu’n fanwl tua phob pedair i chwe wythnos. Bydd Cytundeb Lefel Gwasanaeth unigol yn cael ei roi ar waith rhwng yr awdurdod lleol a’r ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir o ddechrau’r ymyrraeth.
Mae panel aml-asiantaeth CLASS a gynhelir bob tymor yn ystyried y ceisiadau am ymyrraeth, a hefyd yn gwneud penderfyniadau am y rhai sydd eisoes yn rhan o’r llwyth achosion. Mae deilliannau gan y Panel yn cynnwys rhyddhau oherwydd cynnydd da, cefnogaeth allgymorth barhaus, pontio i wasanaethau eraill neu gais am Asesiad Statudol (o bosibl yn arwain at le yn un o Ganolfannau Adnoddau Iaith Arbenigol Sir y Fflint).
Darpariaeth canolfan adnoddau i grwpiau bychain
Mae nifer bach o ddisgyblion â datganiad ac sydd ag anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu sylweddol yn elwa o’r cymorth dwysach a gynigir yn un o dair canolfan adnoddau’r sir (cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol 2 ac uwchradd). Gall y disgyblion hyn fanteisio ar gymorth arbenigol i grwpiau bychain (cyllid wedi’i ddirprwyo gan yr awdurdod lleol) a therapi lleferydd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) o fewn amgylchedd yr ysgol brif ffrwd.
Effaith
Mae darparu gwasanaethau ar lefelau cyffredinol, targedig ac arbenigol wedi datblygu ymwybyddiaeth gyffredin o anghenion iaith. Hyd yn hyn, mae 116 aelod staff o 54 lleoliad gwahanol y cyfnod sylfaen a 98 cynrychiolydd o leoliadau’r blynyddoedd cynnar a ariennir wedi manteisio ar y rhaglen hyfforddi fanwl; bellach, mae gan lawer o’r rhain rywfaint o gyfrifoldeb am ddatblygiad iaith o fewn eu lleoliad. Trwy werthusiadau o’r cwrs, dywed 98% o gynrychiolwyr fod y cwrs yn ddefnyddiol iawn ac roedd 96% o’r farn y byddai strategaethau’n cael effaith arwyddocaol ar ddisgyblion.
Mae’r hyfforddiant a’r cymorth a gynigir drwy’r Cynorthwywyr Datblygu Iaith wedi rhoi’r cyfle i staff ysgol weld arfer effeithiol mewn cyd-destun a datblygu’u harfer eu hunain o ganlyniad. Mae gan athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu sydd wedi cymryd rhan fwy o wybodaeth am gaffael iaith, a sylwyd eu bod yn gweithio’n fwy effeithiol gyda disgyblion, rhieni ac asiantaethau allanol, gan gynnwys therapyddion iaith a lleferydd, CLASS a SIY. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau i CLASS yn sgil amlygu mwy o ddysgwyr ag anawsterau ac, o ganlyniad, bu deialog fwy gwybodus rhwng gwasanaethau ac ymyrraeth gynharach i’r dysgwr.
Mae gwaith y Gwasanaeth Allgymorth Iaith wedi sicrhau bod nifer cynyddol o ddisgyblion ag anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu wedi’u hamlygu, ond eu bod hefyd yn cael eu cynorthwyo i aros yn eu hysgolion prif ffrwd, gan leihau’r angen am asesu statudol a lleoli mewn darpariaeth adnoddau arbenigol. Mae monitro dysgwyr yn barhaus o fewn canolfannau adnoddau gan yr awdurdod lleol a gweithwyr iechyd proffesiynol, a chael at gefnogaeth allgymorth barhaus, wedi galluogi rhai dysgwyr i drosglwyddo o’r canolfannau adnoddau yn ôl i’w hysgol a’u cymuned leol.
Hefyd, mae dadansoddi data ansoddol a meintiol wedi amlygu manteision cadarnhaol yr ‘oedolyn planedig’ i ddysgwyr unigol. Cyn rhoi’r prosiect ar waith, roedd pryderon am ddeilliannau’r dysgwyr SIY ieuengach. Yn 2012, dim ond 41% o ddysgwyr SIY gyflawnodd ddangosydd deilliannau’r cyfnod sylfaen erbyn diwedd Blwyddyn 2. Roedd hyn wedi cynyddu i 86% erbyn 2018. Hefyd, nodwyd effaith o ran dysgu iaith, disgyblion yn integreiddio, cynhwysiant, dilyn arferion a datblygu cyfeillgarwch, hyder a hunan-barch.
Ffocws clir ar gyfer y model cyflwyno diwygiedig oedd cynorthwyo ein dysgwyr ieuengach i gaffael a datblygu iaith, i’w galluogi i ymhél yn effeithiol â’u haddysg. Mae deilliannau’r cyfnod sylfaen yn ddangosydd clir o’r cyfraniad y mae’r dewis hwn o ymyriadau wedi’i wneud ac mae’n darparu llwyfan cadarn i’r dysgwyr hyn symud ymlaen yn llwyddiannus ar hyd eu taith addysg i gyfnod allweddol 2 a thu hwnt.