Datblygu rhaglen addysg awyr agored
Mae gan St David’s College raglen ragorol ar gyfer addysg a gweithgareddau awyr agored, sy’n ganolog i fywyd a chenhadaeth yr ysgol i feithrin lles ysbrydol, deallusol a chorfforol disgyblion. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys ystod o gyfleoedd diwylliannol, hamdden a chwaraeon cyfoethog, yn ogystal â phrosiectau ‘tosturi’ penodol i wella ac ymestyn profiadau dysgu disgyblion.
Mae disgyblion yn cymryd rhan yn frwdfrydig yn y rhaglen addysg awyr agored a theithiau, sy’n ddifyr, yn heriol ac yn gyffrous, ac yn cynnwys gweithgarwch diwrnod llawn bob pythefnos ar gyfer pob disgybl i fyny i Flwyddyn 10, gyda dewis i ymestyn y rhaglen ymhellach i Flwyddyn 12 ac 13, gyda BTEC mewn Gweithgareddau Awyr Agored ac Anturus. Mae pob disgybl yn cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin, a llawer ohonynt yn datblygu medrau gwaith tîm ac arwain gwerthfawr, ac yn cyflawni cyfraddau llwyddiant uchel ar bob lefel.
Hefyd, caiff disgyblion gyfleoedd gwerthfawr i gymryd rhan mewn teithiau a gweithgareddau rhyngwladol ysgogol fel mynd ar sled hysgi yn Sweden, syrffio yn Lanzarote a sgwba-blymio ym Môr y Canoldir.
At ei gilydd, mae’r rhaglen addysg a gweithgareddau awyr agored yn cyfrannu’n sylfaenol ac yn helaeth at fedrau, datblygiad personol, iechyd a lles disgyblion. Mae’n cefnogi disgyblion yn eithriadol o dda i ddangos parch a goddefgarwch, cymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw eu hunain a phobl eraill, datblygu gwydnwch a chaffael hyder a hunan-barch; gellir rhoi pob un o’r rhain ar waith yn yr ystafell ddosbarth.
Mae ethos yr ysgol yn annog pob aelod o’r gymuned i ddatblygu tosturi, parch a goddefgarwch at bobl eraill. Er enghraifft, mae’r ysgol wedi sefydlu partneriaeth werthfawr gyda banc bwyd lleol y mae disgyblion yn cyfrannu bwyd iddo yn rheolaidd, ac yn darparu anrhegion Nadolig ar gyfer plant yn y gymuned. Rhoddir cyfleoedd gwerthfawr a rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o’r byd ehangach, a myfyrio ar faterion pwysig sy’n effeithio ar eu bywydau nhw, a bywydau pobl eraill. Mae taith flynyddol i Wganda a chysylltiadau agos ag ysgolion yn y wlad honno yn helpu disgyblion i ddysgu am yr heriau a brofir gan blant sy’n byw mewn rhannau anghysbell o Affrica. Mae’r gweithgareddau hyn yn annog disgyblion i ddatblygu agweddau parchus a gwerthoedd a chredoau cadarn.