Datblygu prosiectau thematig - Estyn

Datblygu prosiectau thematig

Arfer effeithiol

Bishop Gore School


Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol yr Esgob Gore yn ysgol gyfun cyfrwng Saesneg 11 i 18 oed wedi’i lleoli yn ardal Sgeti, Abertawe.  Mae 1,002 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 112 yn y chweched dosbarth.  Mae oddeutu 26% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae 38% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae gan oddeutu 23% o ddisgyblion angen addysgol arbennig, gan gynnwys 4% â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae 12% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae’r ystod gynhwysfawr o ddisgyblion a dderbynnir i’r ysgol yn gofyn am fabwysiadu dull personol iawn o ddysgu ar bob lefel ac, er bod y system opsiynau yn caniatáu i ddisgyblion deilwra eu pecynnau dysgu yng nghyfnodau allweddol 4 a 5, nodwyd bod yr angen i allu gwneud hyn yng nghyfnod allweddol 3 yn faes pwysig i’w ddatblygu.  Yn bwysicach, teimlwyd nad oedd y dysgu a oedd yn cael ei wneud trwy’r strwythur pynciau ‘traddodiadol’ yn gludadwy, a’i fod yn aml yn aros o fewn y pwnc lle’r oedd yn cael ei addysgu.  Nodwyd dau brif reswm dros hyn.  Yn gyntaf, mewn sawl achos, nid oedd disgyblion yn cael cyfle i gymhwyso’r medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth a enillont.  Yn ail, er bod nifer fawr o ddisgyblion yn cael cyfle i gymhathu eu dysgu, nid oedd y medrau ganddynt i allu gwneud hynny.

Er mwyn darparu am anghenion dysgu disgyblion ac i gynnig cyfleoedd priodol a heriol i ddatblygu a chymhwyso medrau, penderfynwyd ailgynllunio model cwricwlwm cyfnod allweddol 3 yn gyfan gwbl.

Disgrifiad o natur y strategaeth

Rhannwyd strwythur newydd y cwricwlwm yn Flociau Dysgu a Blociau Datblygu.  Mae Blociau Dysgu yn canolbwyntio ar fedrau yn benodol i bwnc wedi’u cyflwyno trwy feysydd y cwricwlwm.  Mae Blociau Datblygu yn caniatáu i ddisgyblion gymhwyso’u medrau pwnc i brosiect thematig, trawsgwricwlaidd.

Mae clystyrau dysgu yn gyfrifol am ddylunio, cyflwyno ac asesu pob Bloc Datblygu, ac mae’r medrau o’r clwstwr arweiniol yn rhoi’r ffocws ar gyfer thema’r gweithgareddau.  Mae un Bloc Dysgu o’r fath yn cynnwys y disgyblion wrth gynllunio taith antur i’r Antarctig a chaiff ei arwain gan y clwstwr pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).  Rhoddir ‘dewislen her’ i bob disgybl, gyda chyfres o dasgau i’r disgybl ddewis eu cwblhau, a rhoddir gwerth pwyntiau sy’n adlewyrchu cymhlethdod y gweithgaredd i bob tasg.   

Mae ffocws llythrennedd, rhifedd a TGCh i bob tasg, yn ogystal ag adlewyrchu medrau sy’n benodol i bwnc sy’n berthnasol i’r clwstwr arweiniol.  Mae gweithgareddau wedi’u cynllunio i ganiatáu i ddisgyblion ddatblygu medrau allweddol ehangach datrys problemau, gwella’u dysgu a’u perfformiad eu hunain a gweithio gydag eraill.

Yn ystod y Bloc Datblygu, mae athrawon a staff cymorth yn hwyluso’r dysgu sy’n cael ei gyflawni, gan gefnogi disgyblion wrth iddynt weithio trwy eu cynllun gweithredu.  Yn ogystal, gall disgyblion ddewis mynychu gweithdai sy’n targedu llythrennedd, rhifedd, TGCh neu fedrau sy’n benodol i bwnc.  Mae disgwyl i ddisgyblion sy’n mynychu’r gweithdai drosglwyddo’r dysgu i ddisgyblion eraill yn eu grŵp.

Mae holl waith disgyblion yn cael ei asesu a rhoddir adborth i ddisgyblion, rhieni a gofalwyr ar ffurf adroddiad.  Mae hwn yn rhoi datganiad cywir i ddisgyblion o’r medrau a gafodd sylw ac a gyflawnwyd, a meysydd i’w datblygu ymhellach.  Mae’r adroddiad hefyd yn caniatáu am adrodd yn ffurfiannol ac yn grynodol ar y FfLlRh.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r effaith ar y ddarpariaeth ac ar safonau wedi bod yn amlwg.  O ran medrau sy’n benodol i bwnc, mae disgyblion wedi gallu mynd at lefelau uwch gan fod cynllun unedau’r blociau datblygu yn annog dysgu annibynnol, lle y caiff disgyblion eu gosod wrth wraidd penderfyniadau, sy’n caniatáu am ddull wedi’i wahaniaethu’n sylweddol. 

Mae lefelau diwedd cyfnod allweddol ac adborth o brofion llythrennedd a rhifedd oll wedi dangos gwelliant sylweddol, gyda nifer fawr o ddisgyblion yn symud ymlaen i astudiaethau cyfnod allwedd 4 yn gynnar. 

Mae presenoldeb disgyblion yn ystod blociau datblygu wedi gwella rhwng 1 a 3 phwynt canran.

Mae perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 wedi bod yn gyson rhagorol am y pedair blynedd diwethaf.  Yn y dangosydd allweddol sy’n cynnwys Saesneg a mathemateg, mae perfformiad ymhell uwchlaw lefelau disgwyliedig.  Mae perfformiad yn y dangosydd hwn wedi gosod yr ysgol yn gyson yn y 25% uchaf o ysgolion tebyg ar sail lefelau cymhwysedd am brydau ysgol am ddim am y pedair blynedd diwethaf.  Dros y pedair blynedd diwethaf, mae perfformiad ym mron pob un o’r dangosyddion eraill wedi gosod yr ysgol naill ai yn y 25% uchaf neu’r 50% uwch o ysgolion tebyg ar sail cymhwysedd am brydau ysgol am ddim.  Mae disgyblion yn gwneud cynnydd eithriadol ar sail eu cyrhaeddiad blaenorol.

Yng nghyfnod allweddol 3, mae perfformiadau yn y dangosydd pwnc craidd ac yn y pynciau craidd ar wahân hefyd wedi bod yn gyson gryf.  Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn o’r cyfnod allweddol blaenorol.

Barnodd Estyn fod cwricwlwm cyfnod allweddol 3 yn gyfrwng effeithiol a dychmygus ar gyfer cyflwyno pynciau cyfnod allweddol 3 a datblygu medrau.  Mae holl elfennau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol wedi’u hymgorffori’n dda mewn cynllunio gwersi ac yn y Blociau Datblygu.  Mae’r rhain yn rhoi cyfleoedd difyr a diddorol i ddisgyblion ddatblygu eu dysgu a’u medrau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.