Datblygu pobl ac arferion: y tu hwnt i ddysgu proffesiynol - Estyn

Datblygu pobl ac arferion: y tu hwnt i ddysgu proffesiynol

Arfer effeithiol

Cathays High School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn ysgol amlddiwylliannol, amlieithog ac aml-ffydd yng nghanol Caerdydd. Mae tua 42% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Cynrychiolir dros 50 o wahanol fathau o ethnigrwydd yng nghymuned yr ysgol, a siaredir 67 o ieithoedd gwahanol. Mae tua 27% o ddisgyblion wedi eu categoreiddio yn rhai sydd ‘islaw cymwys’ yn Saesneg. Mae cyfraddau symudedd gryn dipyn yn uwch nag ydynt bron ym mhob ysgol arall yng Nghymru, a daw tua 60% o ddisgyblion o’r tu allan i’r dalgylch.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan Ysgol Uwchradd Cathays ffocws clir ar gefnogi datblygiad gyrfa pob un o’u staff. Mae arweinwyr yn sicrhau eu bod yn datblygu pobl sydd â’r gwerthoedd cywir ac sy’n credu yn niwylliant yr ysgol, ac yn ei hyrwyddo. Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ansawdd yr addysgu a dysgu disgyblion. Mae cyflwyno dysgu proffesiynol teilwredig, wedi’i seilio ar dystiolaeth, ar gyfer staff ar draws pob rôl yn yr ysgol, wedi helpu pob aelod o staff i ddatblygu eu medrau a’u profiad, ac fe gaiff effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgu a lles myfyrwyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Trwy ymgynghori â’r holl randdeiliaid, datblygodd Ysgol Uwchradd Cathays weledigaeth eu hysgol ar sail y genhadaeth ‘Cyfleoedd i bawb’ a thri gwerth craidd y staff, sef: cydweithio, perchnogaeth a thîm yn gyntaf. Trwy hyn, datblygon nhw ymagwedd effeithiol at ddysgu proffesiynol. Cynorthwyodd hyn yr ysgol yn dda i osod disgwyliadau clir ar gyfer pob aelod o staff. Fe wnaeth y diwylliant hwn, lle mae pob aelod o staff yn ystyried datblygiad yr ysgol gyfan fel mater o drefn, hefyd fireinio gweledigaeth yr ysgol, a’i hymagwedd at y Cwricwlwm i Gymru. Yn ychwanegol, mabwysiadodd yr ysgol strwythur arweinyddiaeth i ehangu cwmpas ac arbenigedd yr uwch dîm arweinyddiaeth ehangach i roi golwg fwy cyfannol iddynt ar yr ysgol.  

Ar y cychwyn, canolbwyntiodd yr uwch dîm arweinyddiaeth ar wella medrau arwain yr holl arweinwyr canol ac uwch arweinwyr. Fe wnaethant ailfodelu diben cyfarfodydd yr uwch dîm arweinyddiaeth ehangach o rannu gwybodaeth i weithgareddau datblygu ysgol gyfan trwy brofiad. Er enghraifft, maent yn gweithio mewn grwpiau llai i adolygu a gwerthuso cynnydd tuag at y blaenoriaethau yn y cynllun datblygu ysgol. Hefyd, maent yn cynnal sesiynau ar ddatblygu medrau arwain ar gyfer yr holl ddeiliaid cyfrifoldeb addysgu a dysgu i sicrhau bod y gwaith gyda’u tîm yn canolbwyntio ar wella’u heffaith yn yr agweddau craidd ar eu rôl, h.y. addysgu a dysgu neu les. Mae’r Arweinwyr Codi Safonau (penaethiaid cyfadrannau) wedi eu hyfforddi mewn arwain ar ddatblygu addysgu a dysgu, sy’n rhoi’r medrau a’r hyder iddynt arwain sesiynau mewn cyfarfodydd tîm. O ganlyniad, mae strwythur a ffocws newydd cyfarfodydd ehangach uwch arweinwyr yn helpu pob aelod o staff i ennill dealltwriaeth well o’r ysgol a’r cynnydd a wneir tuag at flaenoriaethau’r ysgol trwy gydol y flwyddyn.

Mae prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant gwell yn sicrhau bod arweinwyr yn monitro effaith gwaith yr ysgol yn barhaus. Caiff tystiolaeth uniongyrchol ei dadansoddi gan uwch arweinwyr, yr uwch dîm arweinyddiaeth ehangach ac ar lefel tîm maes fel bod pawb yn cymryd rhan mewn nodi a rhannu’r cryfderau a’r meysydd y mae angen eu gwella. O ganlyniad, mae staff ym mhob rôl yn rhan o’r broses i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer gwella, ac mae arweinwyr tîm yn deall y meysydd y maent yn eu harwain yn fanwl. Mae hyn yn sicrhau bod arweinwyr tîm yn nodi’n gywir y gwelliannau sydd eu hangen gan bob unigolyn, ac o ganlyniad yn sicrhau bod pob aelod o staff yn cyflawni ei rôl yn fwy effeithiol.

Mae dysgu proffesiynol yn cyd-fynd yn agos ag anghenion ysgol gyfan, tîm a staff unigol. Mae hyn yn galluogi’r ysgol i ddarparu ystod eang o gymorth teilwredig. Hefyd, mae arweinwyr yn paru staff yn agos â’i gilydd i rannu a datblygu arferion cryf ar draws yr ysgol. Mae dysgu proffesiynol i ddatblygu arweinyddiaeth ar draws yr ysgol yn hynod effeithiol. Mae’r ysgol yn datblygu capasiti arwain yn gynhwysfawr trwy ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gylch dwy flynedd ar gyfer darpar arweinwyr canol ac uwch arweinwyr, a’r rhai presennol. O ganlyniad, mae llawer o arweinwyr wedi ymgymryd â chyfrifoldebau cynyddol dros gyfnod. Mae’r Grwpiau Datblygu Strategol, sy’n cael eu harwain fel arfer gan ddeiliad cyfrifoldeb addysgu a dysgu, yn cefnogi’r gwaith hwn trwy ddarparu cyfleoedd i bob aelod o staff weithio ar flaenoriaeth ysgol gyfan.

Mae arweinwyr yn effeithiol o ran nodi a chynorthwyo staff i wneud cyfraniad sylweddol at wella’r ysgol. Mae nifer o aelodau staff wedi cael eu cynorthwyo i ymgymryd â rolau addysgu, trwy amrywiaeth o lwybrau, ar ôl dechrau fel cynorthwywyr addysgu neu mewn rolau bugeiliol. Mae’r ysgol yn mynd ati i gynorthwyo staff i ymgymryd â swyddi arwain ar draws ystod o rolau i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r ysgol gyfan. O ganlyniad, mae nifer o aelodau’r uwch dîm rheoli sydd â chyfrifoldebau cwricwlwm hefyd wedi cael cyfrifoldebau blaenorol yn y strwythur bugeiliol. O ganlyniad, mae’r uwch dîm arweinyddiaeth a’r uwch dimau arweinyddiaeth ehangach yn gweithio mewn ffordd gyfunol ac empathig iawn i oresgyn y rhwystrau rhag dysgu i’r holl ddisgyblion.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Cafwyd gwelliant yng nghyfraddau recriwtio a chadw staff, sydd wedi cyfyngu effaith y pandemig ar les a dysgu disgyblion. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi ailsefydlu arferion a phrosesau yn gyflym, ac mae disgyblion wedi gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu eleni.

Cyn y pandemig, roedd deilliannau yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 yn gryf iawn ac yn parhau i wella, yn enwedig wrth edrych ar berfformiad gwerth ychwanegol.

Mae addysgu, paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, a’r ddarpariaeth i gefnogi dysgu a lles dysgwyr yn gryf, ac yn golygu bod Ysgol Uwchradd Cathays mewn sefyllfa dda i ddatblygu’n effeithiol fel cymuned.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi bod yn rhan o Grŵp Gwella Ysgolion y consortiwm rhanbarthol, ac wedi rhannu ei harferion gydag ysgolion eraill trwy’r fforwm hwn.

Hefyd, mae wedi meithrin perthnasoedd gydag ysgolion eraill y mae wedi rhannu ei systemau a’i phrosesau â nhw.
 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn