Datblygu pobl a phrosesau i sicrhau gwelliant ysgol effeithiol - Estyn

Datblygu pobl a phrosesau i sicrhau gwelliant ysgol effeithiol

Arfer effeithiol

Cwmbach Community Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Cwm-bach wedi’i lleoli ym mhentref Cwm-bach ger Aberdâr; nodwyd bod rhan o’r dalgylch yn ardal Dechrau’n Deg. Mae 247 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6, gyda naw dosbarth prif ffrwd yn ogystal â dau Ddosbarth Anghenion Dysgu Cymhleth a ariennir yn ganolog: un yn y Cyfnod Sylfaen, ac un yng nghyfnod allweddol 2. Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth feithrin amser llawn o’r mis Medi ar ôl trydydd pen-blwydd y plentyn. Mae’r ysgol yn cyflogi wyth o athrawon dosbarth cyfwerth ag amser llawn (CALl), yn ogystal â dau CALU ac athro 70%. Caiff yr aelodau staff hyn eu cynorthwyo gan wyth o Gynorthwywyr Addysgu CALl a 4.5 SNSA CALl.

Mae canran y disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i 21.8%. Cyfran y disgyblion y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol yw 25.2%. Cyfran y disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yw 2.9%. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Er gwaethaf rhaglen o barhau i wella’r ysgol dros nifer o flynyddoedd, ni chafodd llawer o newidiadau a mentrau eu cynnal, ac roedd staff yn ei chael yn anodd “derbyn” y weledigaeth er gwaethaf hyfforddiant ac adnoddau o ansawdd uchel. Er enghraifft, ym mis Medi 2018, pan ofynnwyd iddynt roi adborth ar amgylcheddau ystafell ddosbarth ei gilydd, ychydig iawn o staff yn bresennol a oedd yn fodlon rhoi canmoliaeth gadarnhaol neu adeiladol i’r grŵp; hyd yn oed i gymheiriaid yr oedd ganddynt berthnasoedd gweithio hirsefydledig â nhw. Wrth gyflwyno mentrau, polisïau neu strategaethau newydd, ni wnaeth unrhyw un herio uwch arweinwyr na gofyn cwestiynau, hyd yn oed. Er y byddai’r rhan fwyaf o staff yn derbyn yr hyfforddiant, nifer gyfyngedig a fanteisiodd ar yr hyfforddiant, ac mewn lleiafrif o achosion, nid oedd unrhyw newid yn eu harferion. Roedd y rhesymau a roddodd staff am beidio â gweithredu newidiadau yn amrywio o’u hamgyffrediad o’r fenter, eu galluoedd, eu bywydau cartref a’u lles, i’r modd yr oedd arweinwyr yn eu cyflwyno.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Fel rhan o ddatblygiad proffesiynol a wnaed gan y pennaeth a’r dirprwy bennaeth, gwelsant fod ‘The Five Dysfunctions of a Team’ gan Patrick Lencioni yn disgrifio’r sefyllfa roedd yr ysgol ynddi bron yn berffaith; grŵp o bobl a oedd yn gweithio gyda’i gilydd, a oedd yn galw eu hunain yn dîm, ond gydag ychydig iawn o her ac ego a oedd yn brwydro yn erbyn datblygu ethos tîm go iawn. Nododd arolwg staff fod bron pob un o’r staff yn hapus â’r sefyllfa bresennol, heb fod yn ymwybodol o beth oedd gwaith tîm effeithiol, a buddion datblygu her broffesiynol.

Trwy gydol 2018-2019, ysgrifennwyd Cynllun Datblygu Pobl (CDP), a oedd yn cyd-fynd â’r Cynllun Gwella Ysgol (CGY) ac yn ceisio datblygu dealltwriaeth pob un o’r staff o bwysigrwydd eu rôl mewn gwella’r ysgol a sut i gydweithio â her broffesiynol. Llywiodd y cynllun hwn y modd yr oedd yr ysgol yn ymdrin â gwelliant, a chyfeiriwyd at adborth y staff yn rheolaidd. Trwy weithgareddau strwythuredig a oedd yn annog trafodaeth ac yn meithrin ymddiriedaeth, gwelwyd gwelliant sylweddol, yn enwedig yn ansawdd y trafod a’r dadlau. Dechreuodd sawl aelod o staff herio penderfyniadau yn broffesiynol, gan achosi i fwy o staff gofleidio newid. 

I annog gwaith tîm a chyflwyno testunau academaidd mewn ffordd hygyrch, cyflwynwyd clwb llyfrau, a chymerodd pob un o’r staff ran ynddo. Dewisodd grwpiau pa lyfr yr hoffent ei astudio, a oedd yn cynnwys ‘The Chimp Paradox’ gan Yr Athro Steve Peters a ‘Legacy’ gan James Kerr. Galluogodd Clybiau Llyfrau fyfyrio personol a phroffesiynol ar gyfer cydweithio a thrafodaeth agored, nad oeddent yn ymwneud â rôl neu gyfrifoldeb unigolyn o fewn yr ysgol. Cydweithiodd pob grŵp ar eu canfyddiadau, a’u cyflwyno i bob aelod o staff. 

O ganlyniad i’r holl welliant i’r ysgol a oedd yn cael ei yrru gan yr uwch dîm arweinyddiaeth yn y gorffennol, roedd gan arweinwyr canol ychydig iawn o wybodaeth a phrofiad o brosesau ar gyfer gwella’r ysgol a gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu. Yn ystod 2019 a 2020, datblygwyd Timau Gwella’r Ysgol, yn cynnwys yr holl arweinwyr canol. Dyfeisiwyd cylch tri thymor lle byddai Timau Gwella’r Ysgol yn derbyn datblygiad proffesiynol mewn gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu; craffu ar lyfrau, casglu arolygon llais y disgybl a theithiau dysgu. Pennwyd uwch arweinydd i bob Tîm Gwella’r Ysgol i fodelu, llywio, hyfforddi a mentora eu tîm o ran y ffocws ar fonitro, gwerthuso ac adolygu a’r flaenoriaeth i wella’r ysgol. Roedd y cymorth hwn yn cynnwys cofnodi data cychwynnol, ysgrifennu cynllun gweithredu, gwerthuso’r canfyddiadau a ffurfio adroddiadau gan ddefnyddio dull FADE (Ffocws, Dadansoddi, Datblygu, Gwerthuso). Ar ddiwedd pob tymor, cyflwynodd y Timau Gwella’r Ysgol grynodeb o ganfyddiadau i’r Pennaeth a rhannu adborth ar fonitro, gwerthuso ac adolygu gyda staff unigol, gan ddatblygu eu hyder i rannu arfer dda a chynnal sgyrsiau heriol ond proffesiynol. Wedyn, fe wnaeth yr arweinwyr canol yn y Timau Gwella’r Ysgol ailfonitro ar ôl cyfnod byr o amser datblygu a gweithredu. Bob tymor, cylchdrodd y timau i agwedd arall ar fonitro, gwerthuso ac adolygu, felly erbyn diwedd y flwyddyn, roeddent wedi profi’r tair elfen ffocws, sef monitro, gwerthuso ac adolygu. Dynodwyd cyfarfodydd staff ar gyfer hyn, a sicrhaodd adolygiad o’r amserlen 1265 fod ystyriaethau’n cael eu rhoi i faich gwaith. 

Yn ystod 2021 a 2022, parhaodd y CDP. Pennwyd staff gan yr UDA i Dîm Gwella’r Ysgol newydd, a chymerodd pob un ohonynt gyfrifoldeb am un flaenoriaeth benodol ar y CGY, gan weithredu’r medrau a’r wybodaeth yr oeddent wedi’u dysgu yn y gwaith arwain dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cafodd timau eu mentora a’u hyfforddi i ddyfeisio eu cynllun gweithredu eu hunain o’u targed CGY cyffredinol, gan rannu meini prawf llwyddiant, camau gweithredu, dyddiadau terfynau amser a dyraniad cyllideb. Trwy gydol y flwyddyn, cyflwynodd y Timau Gwella’r Ysgol ddatblygiad proffesiynol i staff, cyfarfod â’r Pennaeth a’r Partner Gwelliant Rhanbarthol ar gyfer diweddariadau cynnydd, ac yn nhymor yr haf, cyflwyno adolygiad o’u gwerthusiad o’u cynllun gweithredu i’r corff llywodraethol.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae medrau cydweithio a chyfathrebu staff, yn ffurfiol ac yn anffurfiol fel ei gilydd, wedi gwella’n sylweddol, nid yn unig o ran effeithio ar eu gwybodaeth a’u medrau proffesiynol ond o ran cael effaith gadarnhaol ar les staff hefyd. Mae gan bob un o’r staff wybodaeth well am wella ysgolion, y broses a’r gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu a wnaed i werthuso’r effaith.

Bu effaith uniongyrchol ar safonau o fewn yr ystafell ddosbarth, yn enwedig effeithiolrwydd marcio a datblygu’r Gymraeg, sef ffocws dau o’r Timau Gwella’r Ysgol. Cyflawnodd bron pob un o’r Timau Gwella’r Ysgol eu deilliant bwriadedig yn y flwyddyn gyntaf. Pan na chyflawnodd Timau Gwella’r Ysgol eu deilliant bwriadedig neu’u cynllun gweithredu’n llawn, cynyddodd lefel hunanfyfyrio staff yn gyflym i allu myfyrio’n gadarnhaol ar yr hyn yr oeddent yn ei ddysgu yn bersonol ac yn broffesiynol am eu medrau, eu gwybodaeth a’u harweinyddiaeth, a sut byddent yn ymdrin â hyn yn wahanol i sicrhau mwy o effaith yn y dyfodol. Mae staff yn fwy hyderus i fentro yn eu harfer eu hunain erbyn hyn, ac wedi dod yn fwy rhagweithiol â syniadau i wella’r ysgol ac ymgymryd ag ymchwil weithredu o fewn eu hystafell ddosbarth eu hunain.

Bu cynnydd yn nifer y staff sy’n archwilio dilyniant yn eu gyrfa, ac mae’r ysgol wedi bod mewn sefyllfa i benodi deiliaid cyfrifoldebau addysgu a dysgu o blith ymgeiswyr mewnol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd yr ymagwedd at wella ysgolion ag ysgolion y clwstwr, lle mae penaethiaid ac uwch arweinwyr wedi cael cyfle i ymweld â’r ysgol, a gweld yr ymagwedd yn ymarferol. Trwy weithio fel rhan o Bartneriaeth Cymheiriaid gyda’r consortia rhanbarthol, mae’r pennaeth wedi rhannu’r ymagwedd hon ag arweinwyr a thimau gwella ysgolion ar draws awdurdodau lleol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn