Datblygu partneriaethau effeithiol gyda rhieni a’r gymuned ehangach i gefnogi dysgu disgyblion a chodi eu dyheadau.
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Bryn Celyn wedi’i lleoli yng Ngogledd Ddwyrain y ddinas ac yn gwasanaethu ystâd Bryn Celyn ac ardaloedd cyfagos yn bennaf. Mae gan yr ysgol 199 o ddisgyblion ac mae’n ysgol sydd â chofrestriad un flwyddyn. Mae gan yr ysgol leoliad Dechrau’n Deg ar y safle sy’n cefnogi addysg gynnar a throsglwyddiad i ddosbarth meithrin yr ysgol. Ar hyn o bryd, mae 74% o ddisgyblion yr ysgol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae datblygu partneriaethau effeithiol gyda rhieni yn hanfodol bwysig er mwyn cefnogi dysgu disgyblion. Mae ymchwil wedi dangos mai’r ffactor dylanwadol unigol pwysicaf yn addysg plentyn yw cymorth rhieni. (Soroya Rene Fyne-Sinclair, 2016) ‘Children whose parents are involved in their education have a tendency to progress and flourish in all aspects of their life (Vaden-Kieman & McManus 2005).
Mae meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda’r gymuned leol wedi bod yn hanfodol er mwyn codi safonau ar draws yr ysgol. Mae’r ysgol yn achub ar bob cyfle i gynnwys rhieni yn ei bywyd. Yn aml, rhaid iddi gysylltu â rhieni er mwyn gofyn eu barn trwy ddefnyddio ystod eang o ddulliau i ymgysylltu â chynifer o rieni ag y bo modd. Un dull o gyflawni hyn yw trwy ofyn i rieni gyfrannu at Gynllun Gwella’r Ysgol trwy lenwi holiadur blynyddol. Mae’r ysgol yn rhoi’r cymorth angenrheidiol i rieni fynd at yr holiaduron. Mae staff yn gwneud yn siŵr eu bod ar gael ar y maes chwarae ar ddiwedd y diwrnod ysgol gyda chyfrifiaduron llechen ipad i lenwi holiaduron, ac yn cynnig sesiynau galw i mewn yn yr ysgol. Amlygodd adborth o holiaduron awydd rhieni am fwy o gyfleoedd i weithio gyda’r ysgol ar ffyrdd y gallent ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd eu hunain er mwyn cefnogi cynnydd eu plant mewn dysgu.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Defnyddiodd yr ysgol lawer o strategaethau ac asiantaethau i helpu ymgysylltu â’r rhieni. Mae’n cydnabod bod dod i adnabod rhieni a datblygu ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr yn allweddol i ymgysylltu â rhieni. Mae cwrdd a chyfarch bob bore, ynghyd â gweithgareddau mwy ffurfiol, i gyd yn helpu ffurfio perthnasoedd gweithio gyda rhieni, sydd o fudd i’r disgyblion.
Mae’r ysgol yn gweithio gyda nifer o grwpiau i gefnogi ymgysylltu â rhieni, gan gynnwys Cyrsiau Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd Coleg Caerdydd a’r Fro. Yma, mae rhieni’n datblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd eu hunain i’w galluogi i weithio gyda’u plant gartref. Gall rhieni ennill pwyntiau sy’n eu galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol cenedlaethol (NVQ) a mynychu cyrsiau eraill a gynigir gan y coleg. Mwynhaodd rhieni ddysgu sut i addurno cacennau trwy gwrs achrededig. Defnyddiodd un o’r rhieni’r medrau newydd hyn i ddechrau ei busnes addurno cacennau ei hun. Mae nosweithiau’r cwricwlwm wedi helpu rhieni i ddeall sut a beth mae plant yn ei ddysgu yn yr ysgol. Mae clybiau darllen wedi dangos amrywiaeth o strategaethau i rieni i wella darllen eu plant ymhellach. Cynigir sesiynau galw i mewn ar ôl yr ysgol, lle mae staff yn cynorthwyo rhieni i gwblhau ceisiadau am swyddi a cheisiadau i ysgolion. O ganlyniad i hyn, mae llawer o rieni’n ennill lleoedd mewn ysgolion uwchradd ar gyfer disgyblion mewn modd amserol, ac mae ychydig o rieni yn dilyn cyrsiau ac yn cael swydd. Mae sesiynau ‘Ffoneg i Deuluoedd’ a gynhelir gan staff yn galluogi rhieni i ddysgu sut i addysgu ffoneg i’w plant ac yn eu helpu ar eu taith i fod yn ddarllenwyr llwyddiannus. Mae sesiynau aros a chwarae yn annog rhieni i fod yn rhan o amgylchedd yr ysgol, ac yn eu helpu i ddeall sut mae medrau plant yn datblygu trwy chwarae, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Roedd wythnos dod â rhiant i’r ysgol yn ddigwyddiad llwyddiannus yn yr ysgol, ac roedd yn ddefnyddiol iawn o ran creu cysylltiadau â theuluoedd. Yn ystod wythnos yn nhymor yr hydref, ymgeisiodd rhieni i ddod i’r ysgol gyda’u plant. Cymeron nhw ran mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd gyda’u plant. Llwyddodd hyn i feithrin perthnasoedd gyda rhieni, a’u helpu i weld sut mae dysgu wedi’i strwythuro a sut mae’r ysgol yn trefnu ei dosbarthiadau. Enillodd rhieni ddealltwriaeth wirioneddol o sut mae eu plant yn dysgu, ynghyd â strategaethau y gallent eu defnyddio gartref. Dywedodd rhieni eu bod yn gallu dod i wybod am ddiwrnod eu plentyn trwy ofyn cwestiynau mwy gwybodus iddynt am eu dysgu. Roedd gwasanaethau dosbarth yn ffordd ragorol o arddangos dysgu disgyblion a datblygu cyfleoedd i siarad â theuluoedd am ddysgu eu plentyn. Mae boreau coffi yn helpu meithrin perthnasoedd, a helpodd rhieni i greu adnoddau ar gyfer dysgu’r plant. Mae wythnosau menter, lle mae disgyblion yn cynhyrchu syniadau ac yn creu cynhyrchion i’w gwerthu, yn ffordd dda o gysylltu â theuluoedd a chreu entrepreneuriaid y dyfodol!
Y digwyddiad mwyaf llwyddiannus a gynhaliodd yr ysgol oedd ffair yrfaoedd. Mae codi dyheadau ar gyfer disgyblion yn flaenoriaeth i’r ysgol. Mae cyfraddau diweithdra uchel yn yr ardal, a dyheadau disgyblion yn aml yn isel. Defnyddiodd yr ysgol ei chysylltiadau, a daeth o hyd i gynrychiolwyr o’r sector iechyd, cyllid, addysg a diwydiant i gefnogi’r digwyddiad. I sicrhau bod disgyblion yn ymweld ag amrywiaeth o stondinau, rhoddwyd cerdyn iddynt ei stampio gan o leiaf bump o ddeiliaid stondinau, a gweithiodd disgyblion cyfnod allweddol 2 ar lunio cwestiynau i’w gofyn i’r cynrychiolwyr cyn y digwyddiad. Rhoddwyd cardiau wedi’u stampio mewn raffl ar ddiwedd y digwyddiad. Cynhaliwyd y digwyddiad gyrfaoedd ar ôl yr ysgol, ac un o ganlyniadau cadarnhaol anfwriadol y digwyddiad oedd bod rhieni a oedd gyda’u plant wedi gallu mynd at y wybodaeth eu hunain, gan ddod i wybod am y gwahanol yrfaoedd yr oedd ganddynt ddiddordeb ynddynt. Mae’r ysgol yn gobeithio bod hyn wedi codi dyheadau rhieni i ddod o hyd i swydd neu ddechrau cael hyfforddiant. Roedd y gwerthusiad o’r digwyddiad yn gadarnhaol iawn. Roedd y digwyddiad yn werthfawr ym marn llawer o ddisgyblion a rhieni; roedd wedi gwneud iddynt feddwl am yr hyn roedden nhw eisiau ei wneud pan oeddent yn gadael yr ysgol, a sut roeddent yn mynd i gyflawni’r yrfa o’u dewis. Erbyn hyn, mae’r ysgol yn gweithio’n agos gydag Addewid Caerdydd, ‘Wythnos Agorwch Eich Llygaid’. Mae hyn yn meithrin gwybodaeth am y ffeiriau gyrfaoedd cychwynnol ac yn rhoi cipolwg i ddisgyblion ar amrywiaeth o yrfaoedd gan bobl sy’n gweithio ynddynt.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr
Mae holiaduron i rieni yn dangos bod mwy o rieni’n teimlo eu bod wedi’u harfogi’n well i helpu eu plant gartref â dysgu. Mae rhieni’n teimlo’n hyderus i droi at aelodau staff a gofyn am gymorth pan fydd angen. Mae rhieni a staff yr ysgol yn gweithio gyda’i gilydd er budd y disgyblion. Mae rhieni’n teimlo bod yr ysgol yn lle diogel ac y gallant ofyn am gymorth mewn llawer o agweddau ar eu bywyd, fel cymorth i ymgeisio am swyddi a gofyn am gyngor. Mae’r holl weithgareddau hyn wedi helpu integreiddio’r ysgol yn y gymuned a chael gwared ar rwystrau rhag ymestyn dysgu disgyblion.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi rhannu syniadau gyda’r Clwstwr Ysgolion Uwchradd.