Datblygu medrau llefaredd disgyblion yn gyflym - Estyn

Datblygu medrau llefaredd disgyblion yn gyflym

Arfer effeithiol

Ysgol Heulfan


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn hanesyddol, mae medrau llefaredd disgyblion wrth ddechrau yn yr ysgol ymhell islaw hynny a ddisgwylir ar gyfer disgyblion o oedran tebyg.  Cyfyngedig yw lleferydd canran uchel o ddisgyblion, neu nid oes unrhyw leferydd ganddynt, pan fyddant yn ymuno â’r dosbarth meithrin, ac mae rhai yn cael mewnbwn cynnar gan therapyddion lleferydd ac iaith, a gosodir targedau i ddatblygu caffael iaith yn gynnar.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae staff tra hyfforddedig a phrofiadol yn adran y blynyddoedd cynnar yn asesu medrau llefaredd disgyblion unigol o fewn y pythefnos cyntaf ar ôl dechrau yn y dosbarth meithrin.  Caiff gweithgareddau a sesiynau â ffocws eu cynllunio wedyn i gyfateb i anghenion penodol pob disgybl.  Mae amserlenni unigol yn cael eu creu ar gyfer disgyblion, a rhoddir gwybod i’r holl staff am lefelau llefaredd pob disgybl, a thrafodant beth yw’r ffordd orau i gefnogi a datblygu’u medrau cyfathrebu.

Mae’r holl staff yn y cyfnod sylfaen wedi cwblhau hyfforddiant i ddefnyddio iaith arwyddion sylfaenol gyda’r holl ddysgwyr trwy gydol y diwrnod.  Yn y dosbarthiadau meithrin, neilltuir amser penodedig i sesiynau ‘Canu ac Arwyddo’ dyddiol, ac anogir pob disgybl i arwyddo geirfa allweddol.  Mae ymarferwyr yn defnyddio’r un eirfa (ar lafar ac wedi’i harwyddo) yn ystod pob sesiwn i ddisgrifio’r drefn a’r tywydd ac i gyhoeddi’r diwrnod, ac mae’r plant yn dysgu hyn ar eu cof.  Pan fydd disgyblion yn gyfarwydd â’r arwyddion allweddol, mae ymarferwyr yn defnyddio geiriau Cymraeg yn lle Saesneg.  Mae hyn yn cyflwyno’r plant yn raddol i ddiwylliant dwyieithog, ac maent yn datblygu’r gallu yn gyflym i ddefnyddio’r ddwy iaith ochr yn ochr ag arwyddo.  Yn y pen draw, pan ddaw lleferydd yn glir, caiff yr arwyddion eu gollwng yn naturiol gan nad oes eu hangen mwyach.

Mae datblygu medrau siarad a gwrando yn ffocws yn nosbarthiadau’r blynyddoedd cynnar, ac mae’r holl weithgareddau cynlluniedig yn canolbwyntio ar wella eglurder lleferydd a hyrwyddo geirfa fwy amrywiol ymhellach.  Mae staff medrus yn siarad â disgyblion unigol ar lefel sy’n briodol i’w hanghenion llefaredd ac maent yn annog ynganu geiriau’n gywir a datblygu brawddegau ar lefelau dau a thri gair.  Neilltuir aelodau staff allweddol i ddisgyblion sydd ag ymyriadau lleferydd targedig, wedi’u eu cefnogi, a’u gosod yn aml, gan y therapyddion lleferydd ac iaith.  Trwy weithgareddau chwarae, mae staff yn monitro’r cynnydd a wneir mewn llefaredd yn fanwl.  Gan ddefnyddio athroniaethau’r cyfnod sylfaen, mae gweithgareddau yn ‘ymarferol’ ac yn defnyddio profiadau go iawn ar gyfer hyrwyddo medrau llefaredd da.

Trwy gysylltiadau agos â rhieni, therapyddion ac ymarferwyr tra hyfforddedig, cofnodir cynnydd cyflym a gosodir targedau heriol newydd cyn gynted ag y bydd angen.  Mae rhieni wedi mynychu sesiynau ar iaith arwyddion, yn cael eu cyflwyno gan staff drwy’r prosiectau Ymgysylltiad â Theuluoedd a’r Gymuned.  Yn ogystal, a phan fydd disgyblion yn dangos parodrwydd, caiff rhieni eu gwahodd i’r ysgol wedyn i ddysgu am ffoneg ochr yn ochr â’u plentyn, a’r modd y mae’r ysgol yn hyrwyddo datblygu lleferydd a geirfa ymhellach.

Mae ‘Proffiliau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn’ gan bob disgybl ar draws yr ysgol, ac mae’n hawdd mynd atynt o fewn dosbarthiadau.  Yn y blynyddoedd cynnar, mae’r rhain yn nodi’r dull cyfathrebu mwyaf effeithiol ar gyfer pob plentyn.  Caiff datganiadau fel “Rwy’n siarad Pwyleg,” “Rwy’n defnyddio arwyddion Makaton,” ac “Rwy’n siarad yn araf felly rhowch amser i mi” eu harddangos yn glir.  Mae staff newydd neu staff dros dro, felly, wedi’u paratoi’n dda cyn cyfarfod â disgyblion, ac o ganlyniad, caiff unrhyw rwystredigaethau neu gamddealltwriaethau eu hosgoi.

Yn ystod sesiynau addysgu dosbarth cyfan, dewisir storïau sy’n cynnwys iaith ailadroddus yn benodol i hyrwyddo a datblygu medrau llefaredd.  Yn aml, mae’r storïau hyn yn para dros gyfnod o bythefnos ac mae gweithgareddau’n cael eu seilio ar y storïau a grëir gan y plant.  Mae’r ethos hwn o ddysgu dan arweiniad plant yn parhau ar draws yr ysgol, a’r cyngor ysgol sy’n penderfynu’r themâu astudio ar gyfer y flwyddyn.

Mae disgyblion hŷn yn ymweld ag adran y blynyddoedd cynnar yn rheolaidd i ymgysylltu â’r plant iau mewn sesiynau byr neu brosiectau sy’n helpu datblygu medrau lleferydd a chyfathrebu.  Trwy fodelu geirfa neu batrymau brawddeg newydd ac estynedig, mae’r plant iau yn awyddus i ddynwared a defnyddio’r medrau newydd hyn yn eu chwarae eu hunain.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Erbyn diwedd y cyfnod sylfaen, mae’r rhan fwyaf o blant (90%) yn cyflawni’r deilliant disgwyliedig neu’n uwch ar gyfer llefaredd

  • Ar ddiwedd cyfnod allweddol 2, mae bron yr holl ddisgyblion yn cyflawni lefel 4 mewn llefaredd, gyda dros hanner yn cyflawni lefel 5

  • Caiff dysgu rhwng cyfoedion effaith gadarnhaol ar fedrau datblygiad personol a chymdeithasol yr holl blant, gyda bron pawb yn cyflawni deilliant 5 neu’n uwch ar ddiwedd Blwyddyn 2

  • Mae rhieni’n fwy ymwybodol ac yn fwy cymwys i gynorthwyo’u plant trwy ddefnyddio iaith arwyddion a strategaethau eraill

  • Mae plant yn hapus yn yr ysgol ac yn gallu cael cyfleoedd dysgu cyffrous

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

O ran disgyblion y mae angen cymorth arnynt i ddatblygu’u medrau lleferydd ac iaith, mae’r ysgol wedi rhannu ei dulliau gweithredu gydag ysgolion o fewn eu clwstwr o ysgolion ac o fewn yr awdurdod lleol.  Mae hefyd wedi rhannu ei gwaith gydag ysgolion unigol ar gais.

Defnyddiwyd yr arfer dda yn ddiweddar i sefydlu darpariaeth newydd yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth di-eiriau.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn