Datblygu medrau llafar Cymraeg disgyblion
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae’r ysgol yn gymuned hapus, gynhwysol a gofalgar sy’n rhoi pwyslais cryf ar ddathlu Cymreictod. Mae’r Gymraeg yn ganolog i holl waith yr ysgol ac mae bron bob disgybl yn falch o’u gallu i ddefnyddio’r iaith tu fewn a thu hwnt i’r dosbarth. Ers sefydlu’r ysgol dros ddegawd yn ôl, mae’r pennaeth wedi llwyddo i sefydlu amgylchedd dysgu pwrpasol sy’n dathlu Cymreictod a chynnal safonau uchel o ran y Gymraeg.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae canran isel o ddysgwyr (7%) yn dod o gartrefi Cymraeg ac felly mae sefydlu cymuned lle mae’r disgyblion yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg, yn hollbwysig. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd buddiol i ymfalchïo a datblygu eu Cymreictod ar draws yr ysgol sy’n adeiladu at greu dysgwyr sy’n hyderus i siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, y tu fewn a thu allan i’r ysgol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae’r ysgol yn strwythuro profiadau penodol i roi cyfleoedd i ddisgyblion ymfalchïo yn eu Cymreictod ar draws yr ysgol ac yn sicrhau bod y gymuned ehangach yn rhan o’r boddhad a’r balchder hwn. Mae disgyblion Blwyddyn 5 yn cael cyfle i berfformio sioe fel rhan o Brosiect Theatr Iolo er mwyn iddynt fagu hyder, datblygu gwytnwch ac i fwynhau defnyddio’r iaith Gymraeg tu allan i’r ysgol. Mae sioe clwstwr Trysor Gwent ar ddiwedd eu taith ysgol hefyd wedi sicrhau bod y disgyblion yn ymfalchïo yn eu cymuned leol wrth edrych ar ddigwyddiadau hanesyddol sydd wedi newid a chreu gwahaniaeth yn y gymuned. Mae hyn wedi cael effaith bositif ar hyder y disgyblion, fel nodwyd gan eu rhieni.
Mae gorsaf radio’r ysgol wedi bod yn ffordd anffurfiol o gael y disgyblion i ddefnyddio’u Cymraeg tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Maent yn creu podlediad ac yn darlledu i’r ysgol gyfan yn y neuadd ginio ac ar yr iard yn ystod amseroedd cinio ac egwyl. Mae hyn wedi magu hyder y disgyblion wrth ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac yn sicrhau awyrgylch Cymreig ar draws yr ysgol.
Mae’r disgyblion yn cael eu gwobrwyo am siarad Cymraeg trwy system tocynnau dathlu Cymreictod. Pob mis, maent yn cael cyfle i ennill llyfr Cymraeg i fynd adref sy’n sbarduno’r disgyblion i ddefnyddio eu Cymraeg yn yr ysgol ac adref gyda’u teulu. Mae’r llysgenhadon ieithoedd yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn sicrhau awyrgylch sy’n magu’r dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg mewn amryw o sefyllfaoedd. Yn ogystal, mae dysgwyr Blwyddyn 6 yn cael amser gyda’r disgyblion ieuengaf pob bore i ddefnyddio’u Cymraeg er mwyn magu hyder a chywirdeb y disgyblion.
Ar lawr y dosbarth, mae’r ysgol wedi buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol staff i ddefnyddio amrywiaeth o gynlluniau a strategaethau er mwyn codi safonau llafar y disgyblion. Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion ar draws yr ysgol yn fwy hyderus i ddefnyddio eu medrau llafar ac ymadroddion Cymraeg gyda chywirdeb.
Yn ogystal, mae arweinwyr yn darparu cyfleoedd da i’r staff dderbyn sesiynau gloywi iaith yn rheolaidd sy’n cryfhau eu medrau iaith. Mae gan yr ysgol strwythur i gefnogi oedolion sydd ar eu taith gynnar i fagu hyder yn yr iaith Gymraeg. Mae oedolion yn y gymuned wedi cefnogi’r ysgol yn wirfoddol ac yna datblygu medrau a hyder i weithio fel cynorthwy-wyr, cynorthwy-wyr addysgu lefel uwch a datblygu i fod yn athrawon dosbarth. Yr ysgol sy’n esgor gobeithion yr holl gymuned.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Wrth ddarparu cyfleoedd i sicrhau ymdeimlad o berthyn, naws cefnogol ac ymfalchïo yn eu Cymreictod, rydym wedi datblygu a chynyddu medrau llafar ein disgyblion ar draws yr ysgol. Gan fod y disgyblion yn rhan o brofiadau cyffrous bythgofiadwy, maent o ganlyniad yn datblygu cysylltiad emosiynol gref mae hyn arwain at angerdd at yr iaith. Dengys holiaduron disgyblion yr effaith gadarnhaol mae’r profiadau wedi cael ar eu hunan hyder a gwytnwch. Cysylltiadau emosiynol i brofiadau sy’n gyrru eu defnydd o’r iaith a sicrhewn safonau uchel ar hyd y daith. Rydyn ni’n fwriadol yn sicrhau cyfleoedd i’r gymuned ehangach chwarae rhan mewn gweithgarwch gyda’r disgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn bwysicaf, mae rhieni’n canmol cyfleoedd ardderchog mae eu plant yn cael ar eu taith o ddysgu’r iaith gan gael boddhad a chreu atgofion sy’n ennyn balchder yn eu Cymreictod.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi mynd ati i rannu ein arfer dda gydag ysgolion y clwstwr, cyfarfodydd rhwydweithio a chyfarfodydd cydlynwyr y consortia ac ysgolion eraill . Byddant hefyd yn barod i drafod eu hastudiaeth achos ag arweinwyr eraill.