Datblygu medrau llafar Cymraeg disgyblion
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n darparu addysg i 335 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae’r ysgol wedi ei lleoli yn y Porth yng Nghwm Rhondda. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 18% a chanran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw 2.1%.
Penodwyd y pennaeth a’r dirprwy ym mis Medi, 2023. Caiff gweledigaeth yr ysgol, ‘Acen. Atgofion. Cred.’ ei hymgorffori ym mywyd beunyddiol yr ysgol wrth i’r dysgwyr ymfalchïo yn eu hunaniaeth, eu Cymreictod a’u hardal leol tra’n mwynhau’r ystod eang a chyffrous o brofiadau dysgu ysgogol sy’n ehangu eu gorwelion y tu hwnt i’w milltir sgwâr.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r ymdeimlad cryf o Gymreictod a dealltwriaeth y disgyblion o dreftadaeth a diwylliant Cymru yn nodwedd gref o fywyd yr ysgol. Mae meithrin Cymry balch o’u hiaith, eu hanes a’u diwylliant yn rhywbeth y mae holl gymuned yr ysgol yn angerddol yn ei gylch.
Ers sefydlu’r ysgol, mae’r weledigaeth hon wedi llywio’r ymdrechion addysgol ac mae’n parhau i fod yn ganolog wrth i’r ysgol ddatblygu a thyfu. Caiff y disgyblion eu trwytho yn y Gymraeg ac yn niwylliant eu gwlad wrth i staff gynllunio a chydweithio i gynnig ystod eang o brofiadau gwerthfawr sy’n meithrin yr ymdeimlad o falchder yn eu gwlad a’u Cymreictod ymysg ein disgyblion o fewn y dosbarth a thu hwnt.
Rydym yn grediniol mai balchder, ynghyd â chyfleoedd amrywiol i ddefnyddio eu Cymraeg, sydd wrth wraidd y datblygiad cadarnhaol o ran medrau llafar ein disgyblion. Mae ein plant yn siarad Cymraeg yn hollol naturiol o ddydd i ddydd a hynny â balchder a mwynhad. Yn ogystal, mae ein cynllun drilio iaith yn sicrhau bod datblygiad pwrpasol yng nghystrawennau a geirfa’r disgyblion wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Mae hyn oll yn cyfrannu at sicrhau siaradwyr Cymraeg hyderus a medrus.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Cynllunio ac Addysgu
Er mwyn datblygu medrau llafar Cymraeg ein disgyblion yn gelfydd, mae cynllun drilio iaith clir wedi ei ymgorffori ac ar waith ar draws yr ysgol. Ar y cyd, mae cymuned yr ysgol wedi cytuno ar yr elfennau di-amod o ran cystrawennau a geirfa y dylid eu cyflwyno a’u drilio ym mhob dosbarth yn ddyddiol er mwyn sicrhau dilyniant a datblygiad clir wrth i’n disgyblion symud drwy’r ysgol. Caiff y rhain eu harddangos yn y dosbarthiadau, yn y coridorau ac mewn mannau cyhoeddus er mwyn atgyfnerthu’r hyn a ddysgir yn y dosbarthiadau. Mae’r athrawon yn fodelau iaith arbennig ac yn achub ar bob cyfle i gywiro gwallau ieithyddol y disgyblion mewn modd sensitif a hwyliog.
Yn greiddiol i’n cwricwlwm, mae dysgu am hanes Cymru, ei phobl, ei chwedlau a’i thraddodiadau yn greiddiol. Mae hyn yn datblygu ymwybyddiaeth gadarn ein plant o ddiwylliant eu gwlad ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o’u hunaniaeth.
Profiadau
Rydym yn cynnig arlwy gyfoethog o brofiadau allgyrsiol i’n disgyblion ac rydym yn llwyr grediniol bod y profiadau hyn yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad eu medrau llafar ac yn dylanwadu’n gadarnhaol ar gymhelliant y di i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol a hyderus.
Caiff y disgyblion gyfleoedd niferus i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau a lleoliadau amrywiol yn yr ysgol a thu hwnt. Yn flynyddol, cânt deithio i wahanol ardaloedd o Gymru a chwrdd â phobl a phlant mewn gwyliau a digwyddiadau ledled y wlad. Yn ganolbwynt i galendr blynyddol yr ysgol y mae’r Ŵyl Gerdd Dant, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Gŵyl Lenyddol y Gelli a chyfleoedd i berfformio a chystadlu mewn digwyddiadau cerddorol, chwaraeon a llenyddol sy’n hyrwyddo’r Gymraeg.
Mae dathlu ein Cymreictod wrth i ni deithio y tu hwnt i Gymru hefyd yn destun balchder mawr i ni a’n disgyblion. Wrth i ddisgyblion Blwyddyn 6 deithio i Amsterdam, er enghraifft, mae clywed ein disgyblion yn siarad Cymraeg mor naturiol wrth gymdeithasu a mwynhau, yn rhoi pleser pur i staff yr ysgol a’r trigolion lleol. Maent bob tro yn awyddus i ddysgu ychydig o Gymraeg i unrhyw un na fedrant siarad yr iaith a’r balchder yn glir wrth gyflawni hynny.
Rydym yn achub ar bob cyfle i gydweithio â phartneriaethau megis Menter Iaith Rhondda Cynon Taf er mwyn hybu dysgwyr newydd a magu hyder aelodau’r gymuned leol sydd am siarad Cymraeg. Gyda chynifer o gyfleoedd i’r disgyblion ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i furiau’r ysgol, mae medrau llafar ein disgyblion yn datblygu’n naturiol wrth iddyn nhw fagu hyder drwy siarad mewn gwahanol sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, yn gymdeithasol ac yn gyhoeddus.
Trwy gynnig cyfleoedd amrywiol ac eang fel hyn, rydym yn datblygu disgyblion sydd yn gyfathrebwyr hyderus sydd â medrau llafar Cymraeg cryf erbyn diwedd eu hamser yn yr ysgol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae ymrwymiad holl gymuned yr ysgol i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw a pherthnasol i’n disgyblion yn cael effaith sylweddol ar eu medrau llafar a’u hawydd a’u brwdfrydedd i ddefnyddio’r iaith yn gwbl naturiol ym mhob agwedd o’u bywydau bob dydd. Heb os, profiadau, cyfleoedd a chynllunio gofalus a bwriadus sydd wrth wraidd y datblygiad cadarnhaol ym medrau llafar ein disgyblion ynghyd ag argyhoeddiad y pennaeth a’r staff taw dyma un o brif hanfodion yr ysgol.
Trwy gydweithio’n agos er mwyn sicrhau profiadau a chyfleoedd i’n disgyblion, mae’r berthynas rhwng y gymuned, y rhieni a theuluoedd yr ysgol yn un cryf gan eu bod yn rhannu’r un weledigaeth. Erbyn hyn, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer ein rhieni sydd yn defnyddio’r Gymraeg gyda’u plant, gyda nifer yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg lleol eu hunain er mwyn cefnogi eu plant ar eu taith drwy addysg Gymraeg.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol bellach yn cael ei chydnabod fel un sydd yn arwain ar hybu datblygiad medrau llafar Cymraeg disgyblion. Mae’r ysgol yn gweithredu fel ysgol arweiniol sy’n cynorthwyo ysgolion eraill ar eu taith i dderbyn gwobr aur y Siarter Iaith.
Mae arweinwyr wedi cynnal gweithdai ac ymweliadau gan ysgolion eraill. Mae’r ysgol hefyd wedi datblygu partneriaethau gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru er mwyn datblygu’r maes hwn ymhellach.