Datblygu medrau disgyblion trwy anogaeth

Arfer effeithiol

Ysgol Gynradd Maesincla


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maesincla wedi ei lleoli yn ardal Maesincla, yn nhref Caernarfon, Gwynedd.  Mae 269 disgybl ar y gofrestr, gan gynnwys 30 oed meithrin rhan-amser.  Mae ychydig dros 31% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn sylweddol uwch na’r canran cenedlaethol sy’n 18%.  Mae’r ysgol wedi adnabod ychydig dros 34% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sy’n sylweddol uwch na’r canran cenedlaethol, sy’n 21%.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae gwaith olrhain lles disgyblion, yn cynnwys cydweithio gydag asiantaethau amrywiol, wedi adnabod canran arwyddocaol o ddisgyblion yr ysgol ag agweddau o fregusrwydd yn eu bywydau.  Yn sgil hyn, mae amrywiaeth o anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol yn dylanwadu’n fawr ar allu disgyblion i gyflawni hyd eithaf eu gallu.  

Er mwyn ymateb i’r sefyllfa, penderfynodd yr ysgol ymgorffori nifer o ‘Grwpiau Anogaeth’ (Nuture Groups) fel rhan sefydlog o strwythur y dosbarthiadau ac yn gweithredu o gwmpas chwe egwyddor anogaeth (Six Principles Of Nurture).  Mae’r ddarpariaeth yn y grwpiau hyn wedi’i seilio ar ganfyddiadau asesiadau disgyblion unigol ac yn cydbwyso’r angen i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac anghenion mwy penodol unigolion.  Caiff y disgyblion hyn gyfleoedd da i ymarfer ac atgyfnerthu’r sgiliau yma yn eu dosbarthiadau prif lif hefyd, yn ogystal â chyfnodau o gymorth ‘pontio’ gan staff dysgu’r grwpiau anogaeth.

O ystyried natur yr ysgol, a’r rhwystrau i ddysgu mae disgyblion yn ei wynebu, penderfynwyd mynd gam ymhellach drwy adnabod y darpariaethau hynny allasai fod o fudd i ddisgyblion ym mhob dosbarth.  Erbyn hyn, mae’r chwe egwyddor anogaeth wedi’i hymledu yn llwyddiannus ar draws yr ysgol, a’r diwylliant o ‘Ysgol Sy’n Annog’ yn greiddiol i weledigaeth yr ysgol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd

Mae pedwar o grwpiau anogaeth wedi ei sefydlu.  Dau ar gyfer y cyfnod sylfaen, un ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 a’r olaf ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.  Mae hyd at 12 o ddisgyblion ym mhob grŵp ac maent yn treulio oddeutu hanner eu hamserlen yn y grwpiau.  Mae pob aelod o staff dysgu grŵp anogaeth wedi derbyn hyfforddiant priodol ar gyfer cyflawni gofynion addysgu yn y grwpiau anogaeth.

Defnyddir amrywiaeth eang o wybodaeth er mwyn dewis y disgyblion fyddai’n elwa fwyaf o’r ddarpariaeth yn cynnwys, asesiadau perthnasol, holiaduron disgyblion, asesiadau a mesuryddion lles yn ogystal ag adnabyddiaeth yr athrawon o sefyllfaoedd penodol y disgyblion.  Yn ystod eu cyfnod yn y grwpiau anogaeth, gweinyddir asesiadau yn dymhorol er mwyn adnabod y llinynnau ‘diagnostig’ ac ‘datblygiadol’ i’w targedu, ac er mwyn olrhain cynnydd. 

Mae’r amgylchedd ddysgu ar gyfer y grwpiau anogaeth yn un cartrefol, braf sydd wedi’i ddatblygu’n bwrpasol gyda natur yr anghenion mewn golwg.  Mae amserlen y dosbarth yn greiddiol i lwyddiant pob sesiwn ac mae arferion dyddiol cyfarwydd yn atgyfnerthu’r ymdeimlad o berthyn ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu, cydweithio a rhyngbersonol disgyblion.  Er enghraifft, drwy y defnydd o gylch cyfarch ar gychwyn pob sesiwn, cyfleoedd dyddiol i gofnodi a thrafod teimladau a sesiynau meddylgarwch.  Mae amserlen paratoi, gweini a chyd-fwyta byrbryd yn gyfleoedd da i ddisgyblion blethu sgiliau bywyd a cymdeithasol gydag agweddau mwy traddodiadol o’r cwricwlaidd fel ymarfer patrymau gramadegol, mesur, pwyso a rhannu amrywiaeth o fwydydd.  Neilltuwyd cyfnodau penodol ar gyfer gwaith cymorth unigol dyddiol a’r cyfan wedi’i anelu’n benodol ar y llinynnau ‘diagnostig’ neu ‘datblygiadol’ adnabuwyd fel bod angen sylw.  Ymhlith y sgiliau sy’n cael eu datblygu ar lefel unigol, mae gallu disgyblion i adnabod, disgrifio ac ymateb yn briodol i amrywiaeth o emosiynau, sgiliau canolbwyntio, cyfathrebu, dadansoddi a datrys problemau.  Cedwir llygaid gofalus ar ddatblygiad hunan-hyder ac hunan-ddelwedd y disgyblion, ond hefyd ar eu gallu i bontio’n llwyddiannus yn ôl i ddosbarthiadau prif lif yr ysgol.

Manteisir ar gyfleoedd i ymrwymo rhieni i weithgarwch y dosbarthiadau mor aml â phosibl.  Ymhlith yr enghreifftiau gorau mae’r sesiynau ‘Aros A Chwarae’ sy’n gyfleoedd da i rieni arsylwi, cydweithio ac efelychu’r staff dysgu.  Mae gwahoddiad arbennig i rieni ymuno â’r dosbarthiadau i ddathlu llwyddiannau ac achlysuron arbennig.  

Mae’r cyfuniad o drefnu’r staff dysgu yn ofalus a chyfnodau penodol i athrawon profiadol allu cynnig cefnogaeth, wedi sicrhau’r cyfleoedd gorau i ddisgyblion atgyfnerthu eu sgiliau newydd wrth bontio i’r dosbarthiadau prif lif.  Yn sgil hyn, mae cyfleoedd aml i bob aelod o staff ymgyfarwyddo gydag arddull y grwpiau anogaeth a sicrhau digon o gysondeb yng nghyd destun eu dosbarthiadau.

Mae’r agweddau hynny o’r grwpiau anogaeth ystyrir fel bod fwyaf cynhyrchiol wedi eu hymgorffori’n llwyddiannus ar draws yr ysgol.  Yn dilyn edrych yn arfarnol ar brofiadau disgyblion yn erbyn agweddau perthnasol o chwe egwyddor anogaeth, adnabuwyd nifer o ddatblygiadau pwysig y byddai pob disgybl yn debygol iawn o elwa ohonynt.  Ymhlith yr enghreifftiau, mae’r defnydd o amserlen weledol dyddiol ac wythnosol a cyfleoedd i bob plentyn fynegi a thrafod teimladau.  Mae ardaloedd ymdawelu (Corneli Cŵlio) ym mhob dosbarth gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud defnydd effeithiol ohonynt.  Mae sesiynau meddylgarwch byr a phwrpasol wedi’i cynnwys yn amserlen y dosbarthiadau yn dilyn pob amser cinio.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Dadansoddiad o asesiadau disgyblion y grwpiau anogaeth yn canfod bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn iawn yn erbyn y llinynnau ‘datblygiadol’ ac ‘diagnostig’ yn dilyn dau dymor o weithredu.
  • Mae’r staff dysgu yn y dosbarthiadau prif lif yn gweld gwahaniaethau pwysig yng ngallu’r rhan fwyaf sy’n mynychu’r grwpiau anogaeth i ymdopi gyda chyd-destun dosbarth arferol yn cynnwys safonau ymddygiad, eu gallu i ganolbwyntio, eu parodrwydd i gydweithio a hefyd eu dycnwch a’u dyfalbarhad mewn cyfnodau anodd. 
  • Mesuryddion eraill, fel holiaduron ac asesiadau lles safonedig, yn cefnogi’r farn bod disgyblion yn fwy bodlon, ac yn fwy awyddus i ymroi yn llawn i’w dysgu gam feddu ar agwedd cadarnhaol o fywyd ysgol yn gyffredinol.
  • Cynnydd arwyddocaol yn y ganran presenoldeb ysgol dros dreigl 5 mlynedd.
  • Gostyngiad arwyddocaol yn niferoedd y gwaharddiadau dros dreigl 5 mlynedd. 
  • Ymgysylltiad rheolaidd, llwyddiannus gyda rhieni yn sicrhau perthynas ysgol-cartref gadarnhaol ac adlewyrchir hynny mewn holiaduron rhieni blynyddol.
  • Hyfforddiant mewnol ac allanol wedi sicrhau bod gan bob aelod o staff ddealltwriaeth gadarn o ddatblygiad cynnar plant ac felly’r rhesymeg tu cefn i amrywiaeth eang o anghenion ac ymddygiad.  Yn sgil hyn, mae’r aelodau o staff wedi’i harfogi’n dda iawn er mwyn cynnal a chefnogi disgyblion.
  • Mae bron bob disgybl yn gwneud cynnydd cadarn neu well ar draws ystod o feysydd y cwricwlwm.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Manteisiwyd ar gyfleoedd i gydweithio gyda’r awdurdod lleol wrth ddatblygu strwythur grwpiau anogaeth yr ysgol, yn cynnwys buddsoddi ar y cyd mewn hyfforddiant a pharodrwydd i rannu arferion effeithiol gydag ysgolion ac ymarferwyr eraill.  Mae’r ysgol yn derbyn nifer o ymweliadau i’r grwpiau anogaeth, gyda adnabyddiaeth o fewn y consortiwm fod yr ysgol yn un sy’n blaenoriaethu diogelwch, lles a chynhwysiad disgyblion yn effeithiol.

Cynhaliwyd gweithdai ‘Ysgol Sy’n Annog’ yn manylu ar ymlediad darpariaeth y grwpiau anogaeth ar draws yr ysgol,  gyda gwahoddiad agored i ysgolion uwchradd a cynradd, consortia, awdurdod addysg Lleol a rhanddeiliaid yr ysgol.  Tywyswyd yr ymwelwyr o amgylch stondinau yn cynnig cyflwyniad ac enghreifftiau ymarferol o weithredu’r chwe egwyddor yng nghyd destun yr ysgol.

Gwahoddwyd yr ysgol i gyflwyno’r gweithdy ‘Ysgol Sy’n Annog’ yn y Cynulliad Cenedlaethol fel rhan o ddiwrnod yn hyrwyddo agweddau o les mewn ysgolion.