Datblygu medrau Cymraeg ar gyfer dysgu yn y blynyddoedd cynnar
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Cylch chwarae sy’n cael ei redeg yn wirfoddol i blant rhwng dwy a phedair oed yw Cylch Chwarae Aber-porth, sydd wedi’i leoli ym mhentref arfordirol Aber-porth, Ceredigion, ac mae o fewn ardal Dechrau’n Deg. Mae pedwar aelod o staff amser llawn a dau aelod o staff rhan-amser. Mae dau aelod o staff yn rhannu’r rôl arwain. Bu un arweinydd yn ei rôl er mis Medi 1985 a’r llall er mis Medi 2017. Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ar gyfer 21 o blant, ac adeg yr arolygiad, roedd naw o blant yn derbyn addysg gynnar a ariennir. Cynhelir sesiynau bob bore, yn ystod y tymor ysgol am bum niwrnod bob wythnos. Ychydig iawn o’r plant sy’n siarad Cymraeg gartref, ac ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector
Mae Cylch Chwarae’r Blynyddoedd Cynnar Aber-porth yn cynllunio’n strategol ar gyfer datblygu darpariaeth Gymraeg yn llwyddiannus. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd cryf iawn o’u mannau cychwyn, o ran datblygu eu dealltwriaeth o’r Gymraeg, a’u medrau siarad Cymraeg. Mae’r rhan fwyaf o blant yn trosglwyddo o’r lleoliad i’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg leol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r lleoliad wedi penodi aelod o staff sy’n siarad Cymraeg fel ei mamiaith, ac mae un aelod o staff yn mynychu dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn yr ysgol gynradd leol ar hyn o bryd. Mae ymarferwyr yn gweithio’n dda fel tîm i gynorthwyo’i gilydd, ac mae arweinwyr yn grymuso staff i ddatblygu eu rolau arwain a’u harbenigedd, er enghraifft trwy arwain tasgau ffocws ‘amser cofrestru’ ac adrodd storïau yn Gymraeg. Mae ymarferwyr yn mynychu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a lleoliadau cyfrwng Cymraeg, sy’n datblygu eu medrau Cymraeg a’u dealltwriaeth ymhellach.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector
I ddechrau, cynlluniodd ymarferwyr gyfleoedd o fewn y gweithgareddau dyddiol arferol i gyflwyno geirfa ac ymadroddion Cymraeg. Bu ymarferwyr yn myfyrio ar y rhain ac yn eu diwygio i helpu plant i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u hatebion yn raddol. Fe wnaethant gofnodi’r rhain ar gyfer yr holl weithgareddau dyddiol arferol, er enghraifft cofrestru dyddiol neu ‘amser cylch’, a chofnodi tywydd dyddiol, rhif neu siâp yr wythnos a lliw’r wythnos. Sicrhaodd hyn gywirdeb a chysondeb, a datblygu hyder ynglŷn â geirfa ac ymadroddion a gyflwynwyd gan wahanol aelodau o staff. Yn ychwanegol, fe wnaethant nodi’r atebion Cymraeg cywir a ddisgwylir gan blant i gynorthwyo cywirdeb.
Mae plant yn cymryd cyfrifoldeb am arwain y drefn ddyddiol ‘amser cofrestru’ yn eu rôl fel ‘Helpwr y Dydd’. Maent yn ymfalchïo’n fawr yn y cyfrifoldeb hwn, ac o ganlyniad i ailadrodd geirfa ac ymadroddion bob dydd, mae eu dealltwriaeth a’u hyder wrth siarad Cymraeg yn datblygu’n gyflym. Wrth i blant ddatblygu eu Cymraeg, mae ymarferwyr yn cynyddu’r eirfa a’r ymadroddion iaith a gyflwynir. Yn ystod ymweliadau pontio athrawes y dosbarth Derbyn o’r ysgol gynradd leol â’r lleoliad, mae ymarferwyr yn trafod geirfa ac ymadroddion a ddefnyddir yn arferion dyddiol y dosbarth Derbyn ac yn diwygio eu darpariaeth eu hunain i gefnogi dilyniant plant a’u cynorthwyo i drosglwyddo’n esmwyth i’r ysgol. Yn ystod ‘amser cylch’, caiff plant eu rhannu’n ddau grŵp gwahaniaethol yn unol ag oedran, ac mae hyn yn rhoi cyfle i staff gyflwyno ymadroddion syml iawn i blant o oedran cynnar, cyn iddynt fynd ymlaen i ddysgu ymadroddion hwy neu ychwanegol yn y grŵp hŷn.
Pan fyddant yn cyrraedd y lleoliad bob dydd, mae ymarferwyr yn defnyddio caneuon Cymraeg â symudiadau. Mae hyn yn darparu ethos Cymreig ac yn annog dealltwriaeth ac adnabyddiaeth well o’r eirfa a gyflwynwyd. Maent yn darllen storïau i’r plant yn Gymraeg yn rheolaidd, gan gynnwys storïau am ddiwylliant a chwedlau gwerin Cymru.
Yn dilyn llwyddiant y ddarpariaeth Gymraeg mewn gweithgareddau dyddiol arferol, bu myfyrwyr yn myfyrio, a nodwyd bod angen gwella darpariaeth Gymraeg mewn meysydd darpariaeth barhaus. Roedd ymarferwyr eisiau i blant ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus y tu hwnt i weithgareddau dyddiol arferol. Darparodd Swyddog y Gymraeg ar gyfer yr awdurdod lleol batrymau iaith a geirfa iddynt ar gyfer gwahanol feysydd darpariaeth barhaus, fel posteri gweledol ac enghreifftiau o ymadroddion. Mae ymarferwyr yn defnyddio’r rhain fel deunyddiau cyfeirio ac atgoffa pan fydd plant yn chwarae yn y gwahanol ardaloedd, fel ardaloedd creadigol, chwarae rôl, symud a pherfformio, i ddangos ymadroddion cywir a chefnogi eu hatebion.
Gwna ymarferwyr ddefnydd da iawn o adnoddau a ddarperir gan Swyddog y Gymraeg ar gyfer yr awdurdod lleol, Athro Ymgynghorol a Swyddog Datblygu’r Lleoliad. Mae’r rhain yn darparu her barhaus ac yn cefnogi dealltwriaeth ymarferwyr ymhellach, gan gynorthwyo cysondeb a chywirdeb mewn atebion. Enghraifft arall yw cronfa o hwiangerddi a chaneuon ar gyfer y sach ganeuon, gyda phosteri â darluniau a phropiau.
Mae ymarferwyr yn gweithio’n dda fel tîm i gynorthwyo ei gilydd â dealltwriaeth a chyflwyno geirfa Gymraeg newydd, a manteisio ar yr aelod o staff sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae pob un ohonynt yn fodelau iaith da ac yn datblygu dealltwriaeth a defnydd y plant o’r Gymraeg yn eithriadol o dda. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ymarferwyr wedi gwneud defnydd gwell o’u harsylwadau o ddatblygiad medrau Cymraeg plant wrth gynllunio gweithgareddau a diwygio gweithgareddau dyddiol arferol i sicrhau dilyniant. O ganlyniad, mae ymarferwyr yn cyflwyno geirfa Gymraeg mewn amrywiaeth o dasgau â ffocws ar draws gwahanol feysydd dysgu, er enghraifft iaith fathemategol fel enwi siapiau, iaith mesurau, a gweithgareddau crefft fel lliwiau ac enwau deunyddiau.
Mae arweinwyr yn gwerthuso eu cynnydd gan ddefnyddio dogfen ‘Y Cynnig Gweithredol’ ac mae canlyniad y broses hon yn cefnogi eu ffocws parhaus ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg. Cryfder arall o ran y ddarpariaeth Gymraeg yw’r gweithgareddau o fewn y rhaglen bontio a sefydlwyd ar y cyd â’r ysgol gynradd leol a’r Cylch Meithrin cyfagos yn y pentref, fel Diwrnod y Llyfr, Dydd Gŵyl Dewi, Gŵyl y Cynhaeaf a chyngherddau Nadolig.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r gwaith cynaledig ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg wedi sicrhau bod staff yn hyderus yn eu medrau Cymraeg, ac yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel i blant. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd rhagorol o ran deall a defnyddio’r Gymraeg bob dydd wrth iddynt chwarae. Mae gan ymarferwyr ddisgwyliadau uwch ohonyn nhw eu hunain, ac o atebion plant, ac maent yn gynyddol hyderus yn cywiro atebion a phatrymau iaith.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Rhennir arfer â staff a lleoliadau eraill trwy gyfarfodydd rhwydwaith a digwyddiadau hyfforddi. Mae Athro Ymgynghorol yr ALl a Swyddog y Gymraeg yn rhannu arfer yn ystod ymweliadau cymorth â lleoliadau eraill, ac yn ystod digwyddiadau hyfforddi.