Datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol disgyblion - Estyn

Datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol disgyblion

Arfer effeithiol

Tai Educational Centre


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Canolfan Addysg Tai yn uned cyfeirio disgyblion (UCD) ar gyfer hyd at 56 o ddisgyblion oedran cynradd y mae eu prif anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn ymwneud ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Yn fwy diweddar, bu nifer gynyddol o ddisgyblion sydd ag ADY hefyd o ganlyniad i anawsterau niwroddatblygiadol.  Mae gan ryw 52% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, mae 40% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a  29% wedi eu cofrestru fel plant sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn aml, mae disgyblion yn dechrau eu taith yn yr UCD wedi ymddieithrio o addysg ar ôl cael yr hyn y maent yn eu hamgyffred yn brofiadau negyddol mewn ysgolion blaenorol.  Pan fyddant yn dechrau yn yr uned, mae pob un o’r disgyblion yn elwa ar ddarpariaeth gyffredinol sy’n cwmpasu system ymddygiad cadarnhaol gyfannol ar draws yr ysgol. 

Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf yn yr UCD, mae pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn asesiadau gwaelodlin ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ac yn cwblhau arolygon lles i archwilio graddau eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol a lles.  Yn dilyn cyfnod o arsylwi, ac ar y cyd ag ysgolion partner, cytunir ar darged llythrennedd, rhifedd, lles ac ymddygiad gyda phob disgybl.  Mae’r targedau hyn yn ffurfio sylfaen eu cynllun datblygiad personol, sy’n cael ei fonitro a’i adolygu’n rheolaidd.  

Mae asesiad cychwynnol yr UCD yn dangos yn aml y bydd angen lefel ddwysach o ymyrraeth ar ddisgybl i gefnogi ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol.  Yn amlach na pheidio, mae hyn oherwydd bod y disgyblion hyn yn ei chael yn anodd cyfleu eu meddyliau a’u teimladau, gwneud ffrindiau, a’u cadw, a rheoleiddio eu hymddygiad yn annibynnol.  Er mwyn ymateb i’r angen hwn, hyfforddodd yr UCD ei staff ei hun i ddarparu rhaglen ymyrraeth deilwredig ar gyfer y disgyblion hyn i ddatblygu eu medrau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Mae’r rhaglen wedi’i seilio yn bennaf ar raglen fasnachol, sydd wedi ei chynllunio i weddu i gyd-destunau’r UCD a disgyblion unigol.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Fel arfer, yn rhaglen yr UCD, mae dau grŵp o chwe disgybl sy’n elwa ar sesiynau ymyrraeth dwy awr bob wythnos dros gyfnod o ugain wythnos.  Ar hyn o bryd, mae un grŵp yn cynnwys plant y cyfnod sylfaen a dechrau cyfnod allweddol 2, a’r grŵp arall yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6.  Cynhelir sesiynau mewn ystafell ar wahân sy’n darparu ar gyfer gweithgareddau fel dysgu ar sail fideo a defnyddio pypedau i fodelu a chwarae rôl medrau cymdeithasol ac emosiynol, yn cynnwys rheoli ‘teimladau mawr’, cymryd tro, rhannu, datrys problemau ac archwilio cyfeillgarwch. Mae pob sesiwn yn cynnig cyfleoedd strwythuredig i ddisgyblion ymarfer y medrau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys amser byrbryd iach.  

Yn ystod pob sesiwn, mae disgyblion yn ennill ‘marblis’ yn wobrau am ymgysylltu cadarnhaol, sy’n cyfrannu tuag at gymhelliant gweithgaredd cymunedol wythnosol, fel chwarae yn y parc lleol neu ymweld â chaffi neu siop leol.  Wedyn, caiff y medrau cymdeithasol ac emosiynol y mae disgyblion yn eu datblygu yn ystod y rhaglen eu hymarfer ymhellach mewn cyd-destunau go iawn yn y gymuned.  

Fel arfer, mae disgyblion yn cael tasgau gwaith cartref syml sy’n rhoi cyfle i rieni gymryd rhan yng ngweithgareddau’r rhaglen hefyd.  Hefyd, mae’r UCD yn cynnig cymorth i rieni i helpu eu dealltwriaeth o’r modd y mae ymgysylltu cydweithredol â’r ymyrraeth yn cynyddu ei llwyddiant. Caiff gweithgareddau yn yr ysgol ac yn y cartref eu cynllunio i fod yn fywiog, yn rhyngweithiol ac yn hwyl. 

Ar ddiwedd rhaglen 20 wythnos yr UCD, cynhelir seremoni raddio ddathliadol lle caiff rhieni, gofalwyr, ysgolion partner ac asiantaethau partner eu gwahodd i rannu llwyddiant ‘graddedigion’ y rhaglen. 

Yn ystod y cyfnod dysgu o bell yng nghyfnod clo cenedlaethol cyntaf y pandemig, defnyddiodd arweinydd UCD y rhaglen ddull creadigol, hyblyg ac ymatebol i barhau i ddiwallu anghenion ymddygiadol, emosiynol ac anghenion dysgu penodol disgyblion ar ôl y rhaglen.  Er enghraifft, gwnaeth staff fideos byr gan ddefnyddio pypedau i ganolbwyntio ar faterion a dilemâu penodol y gallai disgyblion eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn. Atgoffodd y pypedau’r disgyblion am yr ‘awgrymiadau gorau’, offer, technegau a’r medrau yr oeddent wedi eu dysgu tra’n mynychu’r UCD i fynd i’r afael â’r materion hyn.  Roedd gweithgareddau’n cynnwys cyfle i archwilio emosiynau, ac aeth staff i’r afael â’r rhain wedyn fel rhan o alwadau lles wythnosol bugeiliol yr UCD i ddisgyblion a’u teuluoedd. Anfonodd staff fideos ddwy neu deirgwaith yr wythnos. 

Dywed arweinwyr yn yr UCD fod parhau â’r rhaglen hon yn ystod y cyfnod clo yn hanfodol i gynnal a gwella ymddygiadau’r disgyblion hyn.  Pan gafodd yr UCD ei hailagor yn llawn, dathlodd pob grŵp y cyfle i gyfarfod gyda’i gilydd cyn parhau â’r rhaglen wyneb yn wyneb arferol, ac ymgysylltodd bron pob un o’r disgyblion yn dda mewn cyfnod byr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ceir tystiolaeth o gynnydd cadarnhaol disgyblion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ymyrraeth trwy:

  • bresenoldeb cynyddol
  • ymgysylltiad a chynnydd gwell mewn gwersi ar draws y cwricwlwm
  • ‘pwyntiau dyddiol’ uwch ar gyfer ymgysylltiad ac ymddygiad
  • ennill mwy o dystysgrifau wythnosol

O ganlyniad i welliannau mewn ymddygiad ac agweddau at eu dysgu, mae’r disgyblion hyn wedi gwneud cynnydd mesuradwy yn eu medrau llythrennedd, rhifedd a’u medrau ehangach ar draws y cwricwlwm. Hefyd, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu medrau hunanreoleiddio gwell, a gwelir tystiolaeth o hyn trwy lai o ymweliadau ag ardaloedd tawel dynodedig yr UCD, a llawer llai o achosion o ymddygiad difrifol. Mae cofnodion yr UCD yn dangos y bu gostyngiad sylweddol mewn achosion o fwlio a gwaharddiadau cyfnod penodol o ganlyniad i roi’r ymyrraeth hon ar waith yn llwyddiannus. 

Yn ehangach, gwelir effaith gadarnhaol y rhaglen mewn perthnasoedd adeiladol a chydweithredol cynyddol rhwng cyfoedion, yn cynnwys medrau sy’n dod i’r amlwg o ran rheoli chwarae heb gefnogaeth gyda chyfoedion, yn ogystal â chyfathrebu mwy priodol gyda staff. Mae’r materion cyfunol hyn wedi cyfrannu at lwyddiant cynyddol wrth ailintegreiddio disgyblion yr UCD mewn lleoliadau ysgolion prif ffrwd.  Yn ychwanegol, bu cynnydd amlwg yn ymgysylltiad rhieni â’r UCD. 
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae arweinwyr a staff o’r UCD yn cyfathrebu’n amlach â rhieni a gofalwyr am strategaethau’r rhaglen ymyrraeth, sy’n eu helpu â chefnogi a gwella ymddygiad eu plentyn gartref.  

Hefyd, caiff y strategaethau a ddefnyddir yn y rhaglen ymyrraeth eu rhannu’n ffurfiol ac yn anffurfiol ag ysgolion prif ffrwd ac asiantaethau allanol.  Er enghraifft, caiff staff addysgu prif ffrwd eu gwahodd yn aml i ymuno â’r sesiynau yn yr UCD.  Yn aml, caiff ymweliadau eu gwneud gan staff o sefydliadau eraill, fel seicolegwyr addysg dan hyfforddiant a’r cydlynwyr addysg ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol.  Hefyd, mae staff o wasanaethau cymorth ymddygiad awdurdod lleol yr UCD a darpariaethau arbenigol mewn awdurdodau lleol cyfagos yn ymweld â’r UCD i arsylwi a thrafod y gwahanol agweddau ar y rhaglen ymyrraeth. 
 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn