Datblygu medrau cyfathrebu cynnar yn bennaf gyda disgyblion cyn iddynt ddechrau siarad.
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Cae’r Gwenyn yn ysgol ar gyfer plant 3 i 5 oed. Mae’r rhan fwyaf o blant sy’n mynychu’r ysgol wedi cael eu cyfeirio gan yr awdurdod lleol i gael asesiad pellach o fewn ei darpariaeth ag adnoddau. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer plant ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r awdurdod lleol wedi nodi bod angen lleoliad ag adnoddau ar 59 o blant.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae bron pob un o’r plant y neilltuwyd lle iddynt yn Ysgol Cae’r Gwenyn yn blant nad ydynt wedi dechrau siarad eto. Mae’r ysgol wedi cyflwyno ystod o strategaethau a mentrau i hyrwyddo a datblygu medrau ymgysylltu a chyfathrebu pob disgybl. Mae staff yn creu amgylchedd sy’n gyfoethog o ran iaith i helpu hyrwyddo a meithrin medrau iaith. Maent yn ymdrechu i greu amgylchedd dysgu hwyliog, anogol a chadarn lle gall plant fentro a theimlo’n ddiogel i fynegi eu hunain mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Yn Ysgol Cae’r Gwenyn, mae ymgysylltu a rhyngweithio cadarnhaol â disgyblion iau yn allweddol i gefnogi eu datblygiad iaith. Mae staff yn chwarae â’r disgyblion, ac ochr yn ochr â nhw, gan gynnig sylwebaeth ar eu chwarae, ailadrodd seiniau a geiriau, a modelu iaith. Maent yn dilyn arweiniad y disgybl, gan sicrhau bod y rhyngweithio’n llawn hwyl. Mae ymarferwyr yn adnabod y disgyblion yn dda ac yn fedrus wrth eu hannog a’u herio. Mae pob un o’r ymarferwyr yn sensitif i anghenion y disgyblion ac yn addasu eu rhyngweithio, yn dibynnu ar yr anghenion unigol.
Yn dilyn arsylwadau ac asesiadau agos, mae ymarferwyr yn nodi disgyblion a fyddai, yn eu barn nhw, yn elwa ar ymyrraeth a chymorth dwys ac wedi’u cynllunio’n ofalus. Rhoddir cyfleoedd i’r disgyblion hyn ymgysylltu â sesiynau un i un gydag ymarferwr hyfforddedig mewn man tawel lle nad oes llawer o bethau yn tynnu eu sylw.
Mae defnyddio adnoddau wedi’u dewis yn ofalus, a gweithgareddau hwyliog a heriol, yn helpu cefnogi cyfathrebu a datblygiad iaith yn y blynyddoedd cynnar.
Yn dilyn arsylwadau ac asesiadau agos, mae ymarferwyr yn nodi disgyblion a fyddai, yn eu barn nhw, yn elwa ar ymyrraeth a chymorth dwys ac wedi’u cynllunio’n ofalus. Rhoddir cyfleoedd i’r disgyblion hyn ymgysylltu â sesiynau un i un gydag ymarferwr hyfforddedig mewn man tawel lle nad oes llawer o bethau yn tynnu eu sylw. Mae defnyddio adnoddau wedi’u dewis yn ofalus, a gweithgareddau hwyliog a heriol, yn helpu cefnogi cyfathrebu a datblygiad iaith yn y blynyddoedd cynnar.
Mae staff yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth Lleferydd ac Iaith i gefnogi medrau iaith disgyblion. Mae Therapyddion Lleferydd yn sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi mewn amrywiaeth o ymyriadau sy’n gweithio ar hanfodion cynnar iaith. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni i fodelu iaith.
Trwy gydol y sesiwn, mae ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau gweledol i gynorthwyo cyfathrebu a chefnogi dealltwriaeth. Mae adnoddau’n cynnwys Byrddau Nawr a Nesaf, ffotograffau o ardaloedd ystafell ddosbarth ar ffobiau allwedd ac amserlenni gweledol. Mae pob un o’r staff yn defnyddio arwyddion Makaton fel ffordd weledol o gynorthwyo cyfathrebu.
Mae amser byrbryd yn rhan bwysig iawn o bob sesiwn. Mae bwyd yn gymhelliant gwych wrth annog defnydd o fyrddau dewis, defnyddio arwyddion Makaton, ac ati. Defnyddir caneuon a rhigymau trwy gydol y sesiwn. Cânt effaith gadarnhaol iawn ar iaith disgyblion yn ogystal â darparu ymdeimlad o hwyl a chyffro. Mae gan yr ysgol amrywiaeth o adnoddau sy’n lliwgar, yn ysgogol ac yn apelgar i blant, ac sy’n cefnogi medrau gwrando a datblygiad iaith. Mae’r rhain yn cynnwys pypedau, dyfeisiau recordio lliwgar, llyfrau naid, goleuadau tylwyth teg ac offerynnau cerddorol anarferol.
Mae ymarferwyr yn cadw eu hiaith yn fyr a syml ac yn defnyddio lleisiau diddorol a mynegiannau wyneb priodol i gefnogi cyfathrebu. Mae ailadrodd yn helpu datblygiad iaith ac yn cynyddu hyder. Mae staff yn dilyn yr un fformat dyddiol, yn canu’r un caneuon, yn ailadrodd yr un cyfarwyddiadau, cyfeiriadau, ac ati, ar adegau allweddol o’r dydd. Ar lawer o adegau, mae’n ymddangos nad yw disgyblion yn gwrando nac yn talu unrhyw sylw i’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, ond mae’n bwysig peidio â gwneud rhagdybiaethau ynglŷn â ph’un a yw plentyn yn gwrando ac yn ymddiddori yn yr iaith. Pan fydd yr amser yn iawn, mae llawer o ddisgyblion yn dangos eu bod yn talu sylw ond wedi dewis rhannu eu lleisiau pan fyddant yn barod.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae arsylwadau manwl ymarferwyr yn dangos bod bron pob un o’r plant yn gwneud cynnydd yn eu datblygiad iaith. Mae’r ymyriadau sy’n cael eu rhoi ar waith yn effeithio’n gadarnhaol ar allu disgyblion i gyfleu eu hanghenion a’u teimladau. Mae gwybodaeth a diddordeb ymarferwyr mewn cefnogi medrau iaith a chyfathrebu disgyblion, yn eu helpu i ddiwallu eu hanghenion datblygiad proffesiynol eu hunain, ac yn allweddol i godi safonau yn yr ysgol.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae Ysgol Cae’r Gwenyn yn croesawu cydweithwyr o ysgolion lleol i arsylwi eu harfer. Caiff ymwelwyr gyfle i drafod eu harsylwadau ar ôl eu hymweliad a gofyn cwestiynau ynghylch datblygiad iaith. Mae’r ysgol yn cynnal sesiynau galw i mewn ar gyfer staff o ysgolion yn yr awdurdod, lle mae adnoddau iaith difyr yn cael eu harddangos, a syniadau a strategaethau’n cael eu rhannu. Mae’r ysgol yn rhannu syniadau ar gyfer datblygu medrau iaith gyda rhieni mewn cyfarfodydd adolygu ac mewn gweithdai wedi’u harwain gan staff.