Datblygu medrau annibyniaeth a medrau bywyd disgyblion

Arfer effeithiol

Portfield School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Portfield yn nhref Hwlffordd yn Sir Benfro, ac yn darparu addysg ar gyfer disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig, rhwng 3 ac 19 oed.  Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion ag ystod o anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, ac anhwylder y sbectrwm awtistig, yn ogystal ag anhwylderau genetig, anawsterau corfforol a synhwyraidd amrywiol.  

Mae 157 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Daw disgyblion o ddalgylch mawr ar draws Sir Benfro, a daw ychydig iawn o’r disgyblion o awdurdod lleol cyfagos.  Mae gan bron bob un o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig neu gynllun addysg, iechyd a gofal.  Mae tua 38% o’r holl ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nod yr ysgol yw darparu cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a phwrpasol ar gyfer yr holl ddisgyblion, gan adeiladu ar wybodaeth, profiadau, medrau a dealltwriaeth flaenorol disgyblion.  Mae datblygu medrau annibyniaeth a medrau bywyd disgyblion yn rhan amlwg o weledigaeth yr ysgol, ac fe’i gwelir yn holl gynllunio’r athrawon ac yn natblygiadau diweddar y cwricwlwm.  Mae’n cyfrannu’n sylweddol at safonau a lefelau lles disgyblion yn yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Yn unol â datblygu’r Cwricwlwm i Gymru, mae Ysgol Portfield wedi adolygu ei threfniadau o ran y cwricwlwm i alluogi pob disgybl i elwa ar ystod eang o brofiadau dysgu ysgogol y mae’r pedwar diben yn ganolog iddynt.  Ochr yn ochr â hyn, o ystyried amrywiaeth eang anghenion y disgyblion yn yr ysgol, mae staff yn cydnabod bod rhaid i’r cwricwlwm fod yn berthnasol i anghenion a galluoedd unigol disgyblion, a rhaid cael hyblygrwydd er mwyn sicrhau perthnasedd parhaus ar gyfer pob un o’r disgyblion yn ystod camau amrywiol eu cyfnod yn yr ysgol.  Mae hyn yn golygu nad yw pob disgybl yn profi pob agwedd ar y cwricwlwm bob amser, ond yn hytrach y bydd cydbwysedd yn y cwricwlwm cyfan yn cael ei adlewyrchu ym mhrofiadau unigol disgyblion, yn unol â’u hanghenion unigol a’r camau amrywiol yn gysylltiedig ag oedran yn ystod eu bywyd ysgol.  

Er enghraifft, mae disgyblion iau a’r rhai ag anghenion mwy cymhleth yn cefnogi arferion cyfarwydd yn y dosbarth trwy ddosbarthu eitemau ar gyfer eu cyfoedion, nôl yr offer sydd ei angen arnynt, a chlirio ar ôl gweithgareddau dysgu neu ar ddiwedd amser egwyl ac amser pryd bwyd.  Mae disgyblion yn y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn datblygu eu medrau coginio o oedran cynnar trwy droi a chymysgu cynhwysion a thylino toes i wneud bara.  Mae disgyblion hŷn yn gwella eu dealltwriaeth o fyd gwaith trwy ystod eang o weithgareddau menter a lleoliadau profiad gwaith wedi’u cynllunio’n dda.  Er enghraifft, maent yn dysgu defnyddio offer gwaith coed mewn cwmni gwaith saer i uwchgylchu dodrefn, creu blychau adar a blychau plannu pren, ac yn ymarfer medrau arlwyo a gwasanaeth cwsmeriaid mewn caffi a siop elusen leol.

Mae athrawon yn rhoi pwyslais cryf iawn ar gynllunio’r cwricwlwm a gwersi unigol wrth ddatblygu medrau annibyniaeth a medrau bywyd disgyblion.  Maent yn cymryd gofal i sicrhau bod gwersi’n darparu gweithgareddau pwrpasol i hyrwyddo datblygiad targedau yng nghynlluniau addysg unigol (CAUau) disgyblion.  Ceir cysylltiadau cryf rhwng yr amcanion yn natganiadau disgyblion, gosod targedau CAU a chynllunio athrawon.  Mae hyn yr un mor berthnasol i ddisgyblion hŷn a mwy abl sy’n cwblhau lleoliadau profiad gwaith i baratoi ar gyfer gadael yr ysgol ag y mae i ddysgwyr sy’n datblygu’r medrau sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu dysgu a’u hannibyniaeth mewn ffyrdd sy’n cysylltu’n ystyrlon â’u hanghenion unigol eu hunain.  

Mae’r prosesau hyn yn cysylltu’n agos â threfniadau’r ysgol ar gyfer olrhain a monitro cynnydd disgyblion.  Mae’r ysgol yn defnyddio ystod eang o asesiadau sy’n gweddu’n dda i anghenion a galluoedd disgyblion.  Mae arweinwyr a staff addysgu yn defnyddio deilliannau’r asesiadau hyn yn fedrus i sicrhau bod y ffordd maent yn cynllunio’r cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu gwerthfawr ar gyfer bron pob un o’r disgyblion, ac maent yn olrhain ac yn monitro cynnydd disgyblion yn rheolaidd. 

Mae’r cysylltiadau cadarn rhwng asesiadau cychwynnol, targedau personol disgyblion a chynllunio athrawon yn darparu cyfleoedd gwerth chweil i bron pob un o’r disgyblion wneud cynnydd yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.  Mae cyfarfodydd adolygu blynyddol yn defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn eithriadol o dda, ac mae’r ysgol yn cefnogi disgyblion a rhieni yn eithriadol o effeithiol i gyfrannu’n llawn at y broses.  Mae hyn wedi cryfhau ymglymiad disgyblion yn eu dysgu eu hunain yn sylweddol, ac mae’n agwedd bwerus ar ddarpariaeth yr ysgol.

Mae’r ysgol yn sicrhau bod cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion gyfrannu’n llawn at fywyd yr ysgol.  Ceir cyfleoedd sefydledig i bob disgybl gymryd rhan yn y cyngor ysgol, yr eco-bwyllgor, a’r ‘Tîm Technegol’.  Mae’r ysgol yn hyrwyddo’n gryf ymglymiad disgyblion mewn gweithgareddau eraill i ddatblygu eu hyder a’u medrau cymdeithasol, gan gynnwys gweithgareddau drama, ymweliadau addysgol i ddatblygu medrau adeiladu tîm, a chyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon.  O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwella eu hyder yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.  

Caiff y trefniadau hyn eu hategu gan raglen addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) drylwyr a sefydledig yr ysgol, sy’n hynod effeithiol yn cefnogi datblygiad medrau personol a chymdeithasol disgyblion.  Trwy gydol y diwrnod ysgol, mae staff yn cyflwyno’r rhaglen hon yn fedrus.  Er enghraifft, maent yn cefnogi dealltwriaeth disgyblion am ddewis bwydydd iach, a pheryglon alcohol, tybaco a chamddefnyddio sylweddau.  Mae’r dull hwn yn hyrwyddo datblygiad medrau oes disgyblion yn effeithiol, gan eu paratoi’n dda wrth iddynt symud yn eu blaenau trwy’r ysgol a thuag at fod yn oedolion. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mewn perthynas â’u hanghenion a’u galluoedd unigol, mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn unigol mewn perthynas â’r targedau yn eu cynlluniau personol.  Mae’r cynnydd hwn yn eu helpu i fod yn gynyddol annibynnol yn eu dysgu wrth iddynt symud trwy’r ysgol.  Mewn gwersi, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymgymryd yn frwdfrydig â’u dysgu, ac yn dangos lefelau canolbwyntio cynaledig.
Mae bron pob un o’r disgyblion yn datblygu medrau annibyniaeth a medrau bywyd eithriadol o dda.  Er enghraifft, mae disgyblion hŷn yn datblygu medrau cadw tŷ gwerthfawr sy’n hyrwyddo eu gallu i fyw yn fwy annibynnol.  Mae’r rhain yn cynnwys sut i ddefnyddio haearn a bwrdd smwddio yn ddiogel, dysgu siopa o fewn cyllideb, a sut i baratoi bwyd iach. 
Erbyn iddynt adael yr ysgol, mae hyn yn eu helpu i symud ymlaen i gyrchfannau ystyrlon, ac yn hyrwyddo eu gallu i fyw yn fwy annibynnol yn y dyfodol.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae pob un o’r disgyblion wedi symud ymlaen i addysg bellach, coleg preswyl arbenigol, darpariaeth gwasanaethau oedolion neu gyflogaeth.  
 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn