Datblygu llefaredd trwy hunanasesu a strategaethau addysgu

Arfer effeithiol

Ysgol Gymraeg Y Fenni


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gymraeg y Fenni yn nhref Y Fenni yn Sir Fynwy.  Mae’r dalgylch yn gwasanaethu’r dref a’r pentrefi cyfagos.

Mae 252 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 mlwydd oed ar y gofrestr, ffigwr sy’n cynnwys 30 disgybl oed meithrin rhan-amser.  Fe’u rhennir nhw yn naw dosbarth, sy’n cynnwys tri sydd â disgyblion oed cymysg.

Mae 11% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim ac mae gan 18% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Ychydig iawn o’r disgyblion sy’n dod o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn iaith yr aelwyd, neu sy’n dod o gefndir lleiafrif ethnig.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

‘Dysgwn fel teulu, tyfwn fel cymuned’ yw datganiad cenhadaeth yr ysgol.  Mae hyn wrth wraidd ei holl weithgarwch.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd yr ysgol o deuluoedd di-Gymraeg ac yn byw mewn cymuned lle nad yw’r Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd y gymdeithas.  Mae’r ysgol yn annog ei disgyblion i werthfawrogi eu treftadaeth Gymreig, i fwynhau diwylliant Cymru ac i ymfalchïo wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol, yn gyffredinol, wedi perfformio yn gryf ym meysydd darllen ac ysgrifennu ond ddim cystal ym maes llafar.  Roedd asesiadau diwedd blwyddyn yr athrawon ar draws yr ysgol y llynedd yn cadarnhau hyn.  Roedd yn bwysig holi pam nad oedd y disgyblion yn cyrraedd lefelau uwch mewn llafaredd.  Teimla’r ysgol efallai bod angen ail-edrych ar y gweithdrefnau asesu, strategaethau addysgu a’r cyfleoedd a ddarperir i ddisgyblion o fewn y cwricwlwm. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Roedd yr ysgol eisoes yn ymwybodol o bwysigrwydd asesu.  Yn sgîl hyn, datblygwyd cyfres o daflenni hunanasesu ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 i sicrhau eu bod yn datblygu dealltwriaeth dda o safonau a disgwyliadau ym maes llafaredd.  Wedi cyflwyno’r taflenni ym mis Medi 2016, maent bellach yn rhan greiddiol o waith yr ysgol ac mae’r disgyblion yn eu defnyddio yn hyderus i adnabod eu cryfderau eu hunain a’u cyfoedion wrth asesu safon eu gwaith llafar.  Mae hyn yn cynnig ffordd hawdd i gywain tystiolaeth o dasgau llafar o fewn portffolio disgyblion.  Yn ogystal, cyflwynwyd ffeiliau tystiolaeth llafar er mwyn cofnodi datblygiad unigol disgyblion a hefyd er mwyn magu hyder athrawon wrth asesu eu tasgau llafar. 

Mae’r ysgol wedi cyflwyno strategaeth lwyddiannus i godi safonau llafar ar draws yr ysgol trwy ddefnydd o ystumiau corfforol i atgyfnerthu patrymau ac ymadroddion iaith.  Mae’r ystumiau yn gweithredu fel ‘aide memoire’ i atgoffa’r disgyblion o ymadroddion a geirfa bwerus i’w defnyddio yn ystod cyflwyniadau llafar cyhoeddus.  Wrth ddefnyddio symudiadau i gyd-fynd â’r gweithgaredd drilio patrymau, mae gafael a defnydd y disgyblion o’r ymadroddion hyn yn fwy cadarn.  Gwelir effaith y gwaith hwn wrth wrando ar ddisgyblion yn trafod yn aeddfed o fewn grŵp ac wrth wneud cyflwyniadau celfydd o flaen gwahanol gynulleidfaoedd.  Y cam nesaf i’r ysgol yw creu recordiadau o’r ystumiau er mwyn eu defnyddio ynghyd â symudiadau newydd y flwyddyn nesaf i sicrhau bod y disgyblion yn datblygu’n gyfathrebwyr effeithiol a hyderus.  Mae’r arfer yn ymdebygu i ‘macaton’ llafar ar gyfer y Gymraeg. 

Yn ogystal, datblygwyd cynlluniau hir tymor yr ysgol ym maes iaith a llythrennedd ar draws ardaloedd dysgu a phynciau’r cwricwlwm i fapio cyfleoedd cadarn a chyd-destunau ysgogol i ddatblygu eu medrau llafar y disgyblion.  Defnyddir rhaglenni masnachol yn hyderus gan yr athrawon a’r disgyblion er mwyn tystiolaethu’r gweithgareddau hyn. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Ers 2013, mae safonau llafar y disgyblion wedi codi’n gynyddol ac erbyn hyn, mae medrau llafar y rhan fwyaf o’r disgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 yn gadarn gryf.

Yn y Cyfnod Sylfaen, ar y deilliannau uwch na’r disgwyl, dros bedair blynedd, o gymharu ag ysgolion tebyg, mae’r ysgol wedi codi o’r 25% isaf ym mhob maes i’r 25% uchaf yn eu medrau llythrennedd a chyfathrebu yn y Gymraeg. 

Yng nghyfnod allweddol 2, ar y lefelau uwch na’r disgwyl yn y Gymraeg, dros bedair blynedd, o gymharu ag ysgolion tebyg, mae’r ysgol wedi codi o’r 50% is i’r 25% uchaf ym mhob dangosydd. 

Mae gallu rhan fwyaf y disgyblion i gyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg, a hynny o fan cychwyn isel, yn gryfder yn yr ysgol.  Mae rhan fwyaf y disgyblion ar draws yr ysgol yn defnyddio geirfa ac ymadroddion cyfoethog a chywir. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannwyd yr arfer hon, y gweithdrefnau a’r strategaethau gyda nifer o ysgolion lleol a’r clwstwr trwy eu gwahodd i arsylwi a darparu hyfforddiant priodol i gydlynwyr. 

Mae’r ysgol yn arwain Cymuned Ddysgu Broffesiynol ar ddatblygu llafaredd.