Datblygu gwerthoedd personol cryf yn yr ysgol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân yn awdurdod lleol Torfaen. Er mis Medi 2016, mae’r ysgol ac Ysgol Gynradd Gymunedol Heol Blenheim wedi ffurfio Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Heol Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa. Mae’r ddwy ysgol yn rhannu’r un pennaeth gweithredol a chorff llywodraethol.
Mae 488 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 79 o ddisgyblion meithrin sy’n mynychu’r ysgol yn rhan-amser. Mae 16 o ddosbarthiadau, gan gynnwys tri dosbarth oedran cymysg ac un dosbarth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae tua 20% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n debyg i gyfartaledd Cymru. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 12% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.
Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er 2009. Daeth yn bennaeth gweithredol y ddwy ysgol yn y ffederasiwn ym mis Medi 2016.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r ysgol yn amgylchedd gofalgar lle mae staff yn annog disgyblion i ddatblygu gwerthoedd personol cryf, fel goddefgarwch, tegwch a pharch. Mae lles pob un o’r disgyblion yn ganolog i ethos yr ysgol, ac mae hyn yn sicrhau bod yr ysgol yn gymuned hapus lle gall disgyblion ffynnu a dysgu’n dda.
Nodwedd ragorol o’r ysgol yw’r ystod eang o gyfrifoldebau y mae disgyblion yn ymgymryd â nhw a’r effaith gadarnhaol iawn a gaiff y rhain ar safonau ymddygiad, ansawdd y ddarpariaeth, a lles a dysgu disgyblion.
Mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd helaeth i ddisgyblion wella eu medrau arwain trwy gymryd rhan mewn ystod eang o grwpiau llais y disgybl. Mae athrawon yn sicrhau bod disgyblion o bob oedran a gallu yn cael cyfle i gymryd rhan yn y grwpiau hyn.
Mae’r grwpiau cyfranogiad disgyblion i gyd yn cyfrannu’n effeithiol at wella addysgu a dysgu trwy ysgrifennu polisïau a monitro ar ffurf teithiau dysgu, arsylwi gwersi a chraffu ar lyfrau. Mae mentrau eraill yn cynnwys llais y disgybl sy’n gysylltiedig â chynllunio a disgyblion yn llunio’r meini prawf llwyddiant mewn gwersi.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae disgyblion o bob oedran a gallu yn perthyn i’r ystod eang o grwpiau arwain disgyblion. Mae’r rhain yn cynnwys: y Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion, y Pwyllgor Eco, y Tîm Ymchwil Weithredu, y Tîm Golygyddol, y Criw Cymraeg, Arweinwyr Digidol a’r Cyngor Ysgol. Mae Pwyllgor Ellitee yn cynnwys cynrychiolydd o bob grŵp cyfranogiad disgyblion. Mae’r disgyblion hyn yn gyfrifol am adrodd yn ôl i’r uwch dîm arweinyddiaeth a llywodraethwyr am ganlyniadau’r monitro a wnaed yn eu meysydd allweddol. Mae’r lefel hon o berchnogaeth yn rhoi’r statws i bob grŵp ysgogi newid.
Mae’r Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion yn gweithio’n hynod effeithiol ochr yn ochr â staff a llywodraethwyr i arsylwi gwersi, craffu ar lyfrau a mynd ar deithiau dysgu i roi adborth i ddisgyblion ac athrawon er mwyn gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Mae cynrychiolwyr o’r grwpiau disgyblion yn y ddwy ysgol yn y ffederasiwn yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod eu canfyddiadau. Mae eu canfyddiadau’n effeithio’n uniongyrchol ar broses hunanarfarnu’r ysgol.
Mae Tîm Ymchwil Weithredu’r disgyblion yn gweithredu fel y llais ar gyfer pob disgybl ar draws yr ysgol. Mae’r tîm yn gyfrifol am wrando ar farn eu cyfoedion sy’n gysylltiedig ag elfen benodol o gynllun gwella’r ysgol neu drywydd ymholi penodol sydd wedi deillio o ymchwil weithredu neu o holiadur ysgol gyfan y disgyblion.
Mae athrawon yn rhoi cyfleoedd da i ddisgyblion gael dweud eu dweud ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu, a sut. Er enghraifft, maent yn cynnwys disgyblion mewn cynllunio tasgau a gweithgareddau ar gyfer gwaith testun. Mae hyn yn cymell ac yn ennyn diddordeb dysgwyr yn eu testun a’u taith ddysgu. Mae bron pob un o’r staff yn cynnwys disgyblion mewn llunio meini prawf llwyddiant ar gyfer gweithgareddau. Mae hyn yn helpu disgyblion i arfarnu’r hyn y maent yn ei wneud yn dda a’r hyn y mae angen iddynt ei wella.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae disgyblion yn cyfrannu’n effeithiol at brosesau hunanarfarnu’r ffederasiwn. O ganlyniad, caiff disgyblion effaith gadarnhaol ar safonau, ymddygiad, ansawdd y ddarpariaeth a lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu.
O ganlyniad i’r rolau arwain hyn, mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn datblygu medrau arwain a medrau bywyd hynod effeithiol. Maent yn falch o’r effaith gref a gaiff eu gwaith ar gymuned yr ysgol gyfan.
Mae llais y disgybl sy’n gysylltiedig â chynllunio yn sicrhau bod bron pob un o’r disgyblion wedi eu cymell yn dda iawn ac yn ymgysylltu’n hynod effeithiol â’u dysgu. Mae bron pob un o’r disgyblion yn cyfranogi’n weithredol mewn gwersi, sy’n galluogi iddynt fyfyrio a deall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella’n barhaus.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Ceir cryn dipyn o gydweithio rhwng ysgolion o fewn y clwstwr, y grŵp gwella ysgolion ac ar draws y consortia. Rhannwyd hyn ar ffurf Ysgolion Rhwydwaith Arweiniol a thrwy nifer o bartneriaethau pwrpasol.