Datblygu gweledigaeth strategol ar gyfer gwella addysg - Estyn

Datblygu gweledigaeth strategol ar gyfer gwella addysg

Arfer effeithiol

Bryntirion Comprehensive School


Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymysg 11-18 cyfrwng Saesneg a gynhelir gan awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr yw Ysgol Gyfun Bryntirion.  Mae 1,121 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 177 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.  Mae poblogaeth yr ysgol yn tyfu’n gyflym ac, ym Medi 2017, ni fydd digon o leoedd yn yr ysgol i fodloni’r galw mewn sawl grŵp blwyddyn a bydd yn agos at fod yn llawn.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ardaloedd Bryntirion, Broadlands, Cefn Glas, Trelales a Phen-y-fai ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae tua 13.6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.1%.  Mae tua 12% o ddisgyblion yn byw yn y 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion o grwpiau ethnig eraill, ac mae tua 1.4% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.  Mae gan oddeutu 19% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig; mae hyn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25.1%.  Mae gan 1.1% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig, ac mae’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2.4%.  Mae yna ganolfan adnoddau cyfathrebu ynghlwm â’r ysgol ar gyfer disgyblion ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig.  Caiff disgyblion sy’n mynychu’r ganolfan adnoddau eu cynnwys yng nghofrestr yr ysgol ac fe gânt eu hintegreiddio’n llawn ym mywyd yr ysgol.

Dechreuodd y pennaeth presennol ar ei swydd ym Medi 2013.  Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys dau ddirprwy bennaeth, tri phennaeth cynorthwyol, rheolwr busnes a phennaeth cynorthwyol cysylltiol wedi’i secondio hefyd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Yn dilyn penodi pennaeth newydd ym Medi 2013, ffurfiwyd tîm arweinyddiaeth newydd gyda chymysgedd o ddeiliaid swydd presennol a phenodiadau newydd.  Galluogodd hyn yr ysgol i ddatblygu gweledigaeth a chyfeiriad strategol clir, sy’n canolbwyntio ar wella deilliannau addysgol ar gyfer pawb a chyflwyno addysg o ansawdd uchel ar gyfer myfyrwyr Bryntirion.  Cefnogwyd y dull strategol hwn gan ddatblygiad tîm cryf yr arweinyddiaeth ganol a chreu ethos cynhwysol ar gyfer myfyrwyr a staff fel ei gilydd. 

Yn ystod y cyfnod rhwng 2013 a 2016, gwelwyd gwelliant sylweddol ym mhob maes yn Ysgol Gyfun Bryntirion, a llwyddodd i gynnal deilliannau cryf ym mhob dangosydd perfformiad ar draws pob cyfnod allweddol.

Ym Medi 2015, gofynnwyd i’r pennaeth arwain ysgol ychwanegol, sef Coleg Cymunedol Y Dderwen, yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd sylweddol.  Gosodwyd yr ysgol yn y categori mesurau arbennig yn dilyn arolygiad ac roedd angen gwelliant cyflym a chynaledig arni.  Tynnwyd yr ysgol o’r categori mesurau arbennig ym Mehefin 2017.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Pan ddechreuodd yn ei swydd, aeth y pennaeth newydd ati i adolygu ac egluro rolau a chyfrifoldebau ar lefel uwch arweinyddiaeth ac arweinyddiaeth ganol, a sefydlodd drefniadau rheoli llinell newydd.  Datblygwyd cyfarfodydd rheolaidd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau gwella’r ysgol, gan gynnwys sesiynau ‘dal i fyny’ bob dydd ar gyfer uwch arweinyddiaeth.  Cyflwynwyd trefniadau newydd ar gyfer hunanarfarnu a chynllunio gwelliant, dan arweiniad y pennaeth a oedd yn cynnwys uwch arweinwyr ac arweinwyr canol allweddol.

Fe wnaeth ymgynghori â staff a hyfforddiant perthnasol helpu i greu diwylliant cydweithredol o ddisgwyliadau uchel.  Mae cydbwysedd rhwng hyn a pherthnasoedd gweithio rhagorol, wedi sicrhau bod staff yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cynnwys ym mhob maes o fywyd yr ysgol.   Mae ffocws ar les staff wedi cael effaith gadarnhaol ar foeseg gwaith ac wedi cyfrannu at amgylchedd gweithio ‘hapus’ iawn.  Er enghraifft, trefnwyd bod gwasanaeth cwnsela ar gael i staff ar safle’r ysgol.

Datblygwyd rhaglen arweinyddiaeth ganol hefyd, a alluogodd staff i ddatblygu eu medrau a’u dealltwriaeth o arweinyddiaeth ysgol lwyddiannus.  Roedd hyn yn cynnwys ffocws ar faterion, fel datblygu eich tîm, sefydlu gweledigaeth glir, arwain dysgu ac addysgu, defnydd deallus o ddata, arwain a rheoli o’r canol, a rheoli newid.  Darparwyd cyfleoedd datblygiad proffesiynol i ymgorffori’r medrau hyn, gan gynnwys secondiadau i’r uwch dîm arweinyddiaeth.  Mae’r dull hwn wedi arwain at gynllunio dilyniant effeithiol, ac mae wedi galluogi staff i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Diwygiwyd trefniadau llywodraethu i gynyddu lefelau atebolrwydd a chryfhau ffocws y corff llywodraethol ar safonau.

O Fedi 2015, penodwyd y pennaeth i swydd pennaeth gweithredol ar draws Bryntirion a Choleg Cymunedol Y Dderwen.  I sicrhau na fyddai’r newid hwn mewn rôl yn effeithio ar safonau ym Mryntirion, datblygwyd strwythur arweinyddiaeth newydd.  Galluogodd hyn i’r uwch arweinwyr ym Mryntirion ymgymryd â rolau arwain manylach yn absenoldeb y pennaeth ac i ddatblygu’r medrau a enillwyd trwy hyfforddi a modelu ymhellach.  Crëwyd model dosbarthol, a oedd yn cynnig cyfle ar gyfer datblygu arweinyddiaeth ehangach. 

Wrth i Ysgol Gyfun Bryntirion wneud cynnydd ar ei thaith i wella, sefydlwyd cymuned ddysgu effeithiol gyda diwylliant o rannu ac ymdrechu i wella meysydd perfformiad allweddol.  Mae trefniadau gwella ansawdd systematig wedi cyfrannu’n dda at gryfhau’r ddarpariaeth, ac mae lefelau atebolrwydd yn glir a chadarn.  Mae’r diwylliant a’r dull hwn wedi cael eu hadlewyrchu’n llwyddiannus yng Ngholeg Cymunedol Y Dderwen yn ystod y 18 mis diwethaf, gyda phrosesau arwain a sicrhau ansawdd cynlluniedig ac effeithiol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ym mis Medi 2015, gofynnwyd i’r pennaeth arwain ysgol ychwanegol, sef Coleg Cymunedol Y Dderwen, yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd sylweddol.  Gosodwyd yr ysgol yn y categori mesurau arbennig yn dilyn arolygiad ac roedd angen gwelliant cyflym a chynaledig arni.

Rhoddwyd llawer o’r egwyddorion arweinyddiaeth gref a chynllunio dilyniant effeithiol oedd y tu ôl i’r llwyddiant ym Mryntirion ar waith yng Ngholeg Cymunedol Y Dderwen.  Roedd y rhain yn cynnwys ailstrwythuro uwch arweinyddiaeth, a sefydlu tîm arweinyddiaeth newydd gyda mwy o eglurder ynghylch rolau, cyfrifoldebau a llinellau atebolrwydd.  Eglurwyd gweithdrefnau rheoli llinell, gyda chyfarfodydd cyswllt bob pythefnos a sesiynau ‘dal i fyny’ gydag uwch arweinwyr bob dydd.  Sefydlwyd datblygiad proffesiynol ar gyfer arweinwyr canol ac uwch arweinwyr fel blaenoriaeth a chanolbwyntiodd yr holl ddatblygiad mewn arweinyddiaeth ar wella ansawdd a bodloni’r argymhellion o’r arolygiad craidd.  Yn benodol, roedd y ffocws ar ddeilliannau ansawdd uchel, datblygu addysgu a dysgu, hunanarfarnu a chynllunio gwelliant, datblygu’r cwricwlwm a gwella llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn ffactorau pwysig ar gyfer cyflawni a chynnal momentwm ar gyfer gwella’r ysgol.  Darparodd y tîm arweinyddiaeth estynedig drefniadau cynllunio olyniant clir, a galluogodd arweinwyr canol cryf i gael profiad gwerthfawr ar lefel uwch arweinyddiaeth. 

Rhannwyd arfer dda ac arweinyddiaeth gref ar draws y ddwy ysgol.  Roedd hyn, er enghraifft, yn cynnwys secondiad dwy flynedd i bennaeth gwyddoniaeth i’r Coleg o Fryntirion, a chydweithio rhwng uwch arweinwyr ac arweinwyr canol mewn meysydd allweddol fel:
• asesu
• defnydd deallus o ddata
• cynllunio’r cwricwlwm
• anghenion dysgu ychwanegol
• addysgu a dysgu
• llythrennedd a rhifedd
• darpariaeth ar gyfer athrawon newydd gymhwyso

Yn ychwanegol, roedd trefniadau llywodraethu ar y cyd o gymorth mawr o ran datblygu perthynas weithio gref rhwng cadeiryddion ac is-gadeiryddion y ddwy ysgol.  Roedd yr egwyddor waelodol fod staff o’r ddwy ysgol yn bartneriaid cyfartal yn hanfodol i lwyddiant y cydweithio.

Fe wnaeth is-bwyllgor safonau newydd y corff llywodraethol a bwrdd gwella carlam diwygiedig hefyd gyfrannu at welliannau mewn lefelau atebolrwydd a datblygu arweinyddiaeth.  Roedd uwch arweinwyr yn cael eu gwahodd yn rheolaidd i roi cyflwyniad ar feysydd cyfrifoldeb allweddol.  Roedd cadeirydd y llywodraethwyr yn cynnal adolygiadau o safonau hefyd ar y cyd â phennaeth gweithredol a phennaeth yr ysgol.  Arweiniodd penodi is-gadeirydd y llywodraethwyr ym Mryntirion yn llywodraethwr ymgynghorol i’r Coleg at gryfhau profiad ac effaith y corff llywodraethol ymhellach.

Rhannwyd yr arfer hon ar draws y ddwy ysgol a thrwy bartneriaethau lleol a rhanbarthol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Ym mis Hydref 2016, arolygwyd Ysgol Gyfun Bryntirion, a barnwyd ei bod yn ‘rhagorol’ ar gyfer perfformiad presennol ac yn ‘rhagorol’ ar gyfer rhagolygon gwella.  Barnwyd bod arweinyddiaeth yn ‘rhagorol’, a chyfeiriodd yr adroddiad at ‘arweinyddiaeth strategol eithriadol o dda’.  Mae deilliannau ym Mryntirion yn rhagorol, ac mae perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 yn y chwartel uchaf ar gyfer pob dangosydd. 

Tynnwyd Coleg Cymunedol Y Dderwen o’r categori mesurau arbennig ym Mehefin 2017.  Erbyn hyn, mae perfformiad yr ysgol yn cymharu’n ffafriol â pherfformiad ysgolion tebyg, ac fe gaiff y gwelliant cyflym yn holl feysydd yr ysgol ei gydnabod yn dda.  Mae’r ysgol wedi symud o grŵp safonau 4 i 2 o ran categoreiddio cenedlaethol mewn cyfnod o 18 mis.  Nododd yr ymweliad diweddaraf gan Estyn, fod cynnydd cryf wedi’i wneud o ran gwella arweinyddiaeth ar bob lefel, gan wella trefniadau’r cwricwlwm, addysgu a dysgu, gofal, cymorth ac arweiniad, a hunanarfarnu a chynllunio gwelliant.

O ran datblygu arweinyddiaeth, mae’r cyfleoedd a ddarperir wedi galluogi uwch arweinwyr yn y ddwy ysgol i ddatblygu a gwella eu medrau, eu gwybodaeth a’u profiad o arwain ar lefel strategol.  Yn fwyaf diweddar, mae dau uwch arweinydd wedi llwyddo i gael prifathrawiaethau mewn lleoedd eraill ac mae uwch arweinwyr eraill wedi cael eu dyrchafu i rolau newydd ac uwch.