Datblygu gallu arweinwyr i wella addysgu mewn ysgol fach - Estyn

Datblygu gallu arweinwyr i wella addysgu mewn ysgol fach

Arfer effeithiol

St George Controlled Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru San Siôr ym mhentref bach Llan San Siôr, ger Abergele yng Nghonwy.  Mae 61 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, ac mae chwech ohonynt yn mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.  Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n dri dosbarth oedran cymysg.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig.  Mae rhai disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae tua 17% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 22% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2010.  Mae ganddo ymrwymiad addysgu o ddeuddydd a hanner bob wythnos, o leiaf.  Mae tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn cynnwys y pennaeth ac athro sydd â chyfrifoldeb addysgu a dysgu rhan-amser.

Strategaeth a chamau gweithredu

Defnyddiodd y pennaeth ddeilliannau arolygu 2015 yn sbardun ar gyfer gwella.  Yn y lle cyntaf, nododd fod angen i’r ysgol fod yn fwy allblyg i ddod o hyd i ddulliau a fyddai’n gwella addysgu a dysgu a’u mabwysiadu.  Dechreuodd staff ymweld ag ysgolion lleol y nodwyd bod ganddynt safonau addysgu da.  Dros gyfnod o ryw wyth wythnos, ymwelodd athrawon ag ysgolion eraill i arsylwi gwersi, i nodi arfer dda a gweithio ar gynllunio i ddisgyblion o wahanol alluoedd.  Ar yr un pryd, mabwysiadodd yr ysgol ‘siarter addysgu’.  Fe wnaeth y continwwm hwn o ddisgrifyddion addysgu helpu athrawon i ddeall sut olwg fyddai ar arfer dda yn eu hystafelloedd dosbarth.  Roeddent yn gallu nodi llawer o rinweddau arfer dda a ddyfynnwyd yn y siarter trwy eu harsylwadau o’u hysgol bartner, a’u gwaith gyda hi.  Roedd y camau hyn yn effeithiol o ran codi disgwyliadau athrawon o’u gwaith, eu cynorthwyo i fyfyrio ar eu harfer eu hunain ac o ran sicrhau lefelau cysondeb yn ansawdd yr addysgu.  Er enghraifft, nododd adroddiad dilynol 2016 fod ‘pob un o’r athrawon yn defnyddio dulliau cyson, fel rhannu bwriadau dysgu gyda disgyblion ar ddechrau gwersi a sesiynau llawn, defnyddiol ar ddiwedd pob sesiwn’.  O ganlyniad i ddisgwyliadau uwch ac ymwybyddiaeth ddatblygol o ddulliau addysgegol, mae’r rhan fwyaf o athrawon yn defnyddio ystod addas o strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn llwyddiannus erbyn hyn.  Er enghraifft, mae disgyblion y cyfnod sylfaen bellach yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn dda yn eu gwaith eu hunain a gwaith disgyblion eraill trwy adborth llafar a thrwy ddefnyddio system raddio goleuadau traffig.

Defnyddiodd arweinwyr yr ysgol argymhellion arolygiad am agweddau ar eu harweinyddiaeth i wella’r addysgu ymhellach.  Er enghraifft, fe wnaethant wella prosesau hunanarfarnu a dechrau gwneud defnydd effeithiol o reoli perfformiad staff.  Dechreuodd arweinwyr gynnwys pob un o’r staff mewn gweithgareddau monitro.  Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys craffu ar lyfrau disgyblion i arfarnu pa mor dda y gwnaeth adborth helpu disgyblion i wella eu gwaith.  Llywiodd y gweithgareddau hyn ddatblygiad proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff, er enghraifft trwy edrych ar farcio effeithiol o ysgolion eraill.  Llwyddodd arweinwyr i yrru hyn yn ei flaen trwy osod targed rheoli perfformiad ar gyfer pob un o’r staff i wella ansawdd y marcio a’r adborth ar gyfer disgyblion.  Yn 2016, nododd arolygwyr fod ‘trefniadau ar gyfer marcio ac adborth i ddisgyblion yn effeithiol ac yn helpu disgyblion i ddeall beth maent wedi’i wneud yn dda a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella ymhellach’.  Roedd y rhain yn weithgareddau datblygu tîm pwysig a oedd yn cynorthwyo’r staff i ddeall eu rôl ar y cyd i gyflymu cynnydd disgyblion a phwysigrwydd helpu ei gilydd. 

Mae staff wedi datblygu’r ethos tîm hwn yn llwyddiannus i rannu cynllunio.  Maent yn cynllunio profiadau dysgu disgyblion ar y cyd gan ddefnyddio platfform dysgu digidol  HWB.  Mae hyn yn effeithiol o ran galluogi pob un o’r staff i weld cynllunio’i gilydd, er enghraifft i weld sut mae cydweithwyr yn darparu ar gyfer anghenion disgyblion o wahanol alluoedd.

Mae arweinwyr yn dechrau gwneud defnydd effeithiol o arsylwadau gwersi erbyn hyn i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella mewn addysgu.  Mae’r arsylwadau hyn yn defnyddio nodweddion arfer effeithiol a amlinellir yn y siarter addysgu.  Maent yn cynnwys arfarniadau addas o effaith yr addysgu ar gynnydd disgyblion.  Fodd bynnag, yn y cyfnod hwn yn ystod taith yr ysgol, mae’r pennaeth yn tueddu i gynnal yr arsylwadau hyn gyda chymorth ymgynghorwyr her.  Ni chaiff athrawon eraill yn yr ysgol eu cynnwys mewn arsylwadau gwersi ffurfiol eto.  Nid yw’r ysgol wedi cyrraedd cyfnod gosod targedau unigol pwrpasol eto ar gyfer athrawon ar sail dadansoddiad manwl o’u cryfderau a’u meysydd i’w datblygu.  Ar hyn o bryd, mae arsylwadau gwersi yn tueddu i droi o gwmpas y broses rheoli perfformiad ac nid ydynt yn ymddangos fel strategaeth barhaus i hyrwyddo twf proffesiynol.

Caiff athrawon gyfleoedd datblygiad proffesiynol ychwanegol defnyddiol i wella agweddau ar eu gwaith.  Er enghraifft, mae hyfforddiant i ddefnyddio dulliau penodol o ddatblygu medrau siarad ac ysgrifennu disgyblion yn effeithiol.  O’i gyfuno â mentrau gwella eraill fel datblygiadau i farcio ac adborth, caiff yr hyfforddiant hwn effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion.  Mae hyfforddiant i wella dealltwriaeth o addysgeg y cyfnod sylfaen a’r gallu i’w rhoi ar waith, wedi cael effaith gadarnhaol ar y cyfan.  Erbyn hyn, mae’r ysgol yn sicrhau bod cydbwysedd addas o gyfleoedd i ddisgyblion ddysgu trwy chwarae a phrofiadau yn ogystal ag ystod dda o weithgareddau wedi’u harwain gan oedolion.  O’i chyfuno, mae’r ddarpariaeth hon yn galluogi disgyblion i gaffael, datblygu a chymhwyso eu medrau’n briodol. 

Mae arweinwyr yr ysgol yn datblygu gwelliannau diweddar i greu momentwm ar gyfer newidiadau addysgegol ehangach.  Mae hyn yn cefnogi’r agenda genedlaethol ar gyfer diwygio’r cwricwlwm yn briodol.  Er enghraifft, mae arweinwyr yn trefnu gweithgareddau dysgu proffesiynol sydd wedi’u hanelu at ddatblygu disgyblion i fod yn ddysgwyr gwydn, ac yn annog staff i fanteisio’n fwy ar adnoddau digidol i gefnogi dysgu disgyblion.  Mae’r ysgol yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gydweithio’n effeithiol, er enghraifft i gynllunio profiadau dysgu dilys a go iawn, fel digwyddiadau   ‘Masnach Deg’.

Deilliannau

  • Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd cryf ers ei harolygiad diweddaraf o ran gwella ansawdd yr addysgu ac o ran rhoi addysgeg y cyfnod sylfaen ar waith
  • Mae’r ysgol wedi datblygu cyd-ddealltwriaeth o beth sy’n gwneud addysgu da
  • Mae staff yn cydweithio’n llwyddiannus ac yn gwneud defnydd da o gyfleoedd dysgu proffesiynol i wella eu harfer
  • Mae ansawdd yr addysgu yn sicrhau bod llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn 
  • Mae’r ysgol yn defnyddio a datblygu ystod addas o ddulliau i adolygu ansawdd yr addysgu’n gyson
  • Mae arweinwyr yn dangos y gallu i wella addysgu ar lefel ysgol gyfan

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Datblygu gallu’r ysgol ymhellach i nodi cryfderau a gwendidau mewn addysgu yn annibynnol
  • Parhau i ddefnyddio tystiolaeth uniongyrchol i nodi agweddau ar addysgu sydd angen eu gwella ar lefel ysgol gyfan
  • Defnyddio’r dadansoddiad o dystiolaeth o ansawdd yr addysgu i osod targedau gwella unigol ar gyfer athrawon sy’n adlewyrchu eu hanghenion unigol fel dysgwyr proffesiynol
  • Datblygu trefniadau i athrawon fyfyrio ar y cynnydd y maent wedi’i wneud yn erbyn nodau gwella