Datblygu diwylliant sy’n cefnogi lles staff - Estyn

Datblygu diwylliant sy’n cefnogi lles staff

Arfer effeithiol

Western Learning Federation Woodlands High School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Woodlands yn rhan o Ffederasiwn Dysgu’r Gorllewin ac yn gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Riverbank ac Ysgol Tŷ Gwyn. Mae’r ysgol yn darparu addysg ddydd ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 19 mlwydd oed. Mae mwyafrif y disgyblion o oedran ysgol statudol a thua 40% ohonynt mewn addysg ôl-orfodol. Mae anghenion dysgu amrywiol y disgyblion yn amrywiol, ac mae gan bob disgybl ddatganiad anghenion addysgol arbennig. Mae gan ryw 44% o ddisgyblion anawsterau dysgu difrifol, mae gan 20% arall anghenion corfforol a meddygol ac anawsterau lleferydd, ac mae gan 20% arall anawsterau cyfathrebu ac iaith. Mae ychydig o ddisgyblion yn awtistig neu mae ganddynt anhawster dysgu cyffredinol. Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion namau synhwyraidd ac anawsterau dysgu dwys a lluosog.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Uwchradd Woodlands yn ysgol arbennig sydd wedi’i lleoli yn Nhrelái, Caerdydd, sy’n un o’r 10% uchaf o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Mae hanner disgyblion yr ysgol yn byw yn yr ardal leol a 56% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim. Oherwydd y ffactorau hyn, mae llawer o ddisgyblion yn dioddef o effaith tlodi.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

  • Mae’r ysgol yn ymgysylltu’n llawn â’r ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol (WSAEMW), sy’n gofyn i ysgolion ddatblygu proses barhaus o fyfyrio a gwella.

  • Datblygwyd ethos o ganmol lle defnyddir “cyfarchion” (“shout outs”) gan staff i ddiolch i’w gilydd a llongyfarch ei gilydd yn gyhoeddus am eu gwaith a’u cymorth ar ddiwedd cyfarfodydd y bore, a thrwy negeseuon e-bost ar gyfer pob aelod o staff.

  • Caiff cynllun angylion gwarcheidiol ei reoli gan staff yr ysgol. Caiff staff eu pennu’n ddienw i fod yn angel gwarcheidiol ar gyfer cydweithiwr. Ar ôl ei bennu, mae’r angel gwarcheidiol yn rhoi negeseuon o gymorth ac anogaeth ac yn gwobrwyo’i gydweithiwr trwy roi anrhegion bach iddo trwy gydol y flwyddyn ysgol.

  • Mae gwasanaeth seicoleg addysg yr awdurdod lleol yn cynorthwyo staff trwy sesiynau goruchwylio grŵp ac unigol. Cynigir goruchwyliaeth i staff ac arweinwyr. Mae seicolegydd addysg yr ysgol yn trefnu sesiynau unigol a chyfrinachol ar gyfer yr aelodau staff hynny sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef trawma trwy eu rôl yn yr ysgol. Mae hyn yn aml yn cynnwys arweinwyr diogelu ac ymarferwyr therapiwtig. Mae’r sesiynau hyn yn darparu gofod diogel lle gall staff fyfyrio a phrosesu eu meddyliau, eu hemosiynau a’u teimladau mewn gofod cyfrinachol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth?

  • Defnyddiodd yr ysgol WAAEMW fel rhan o’i hunanwerthusiad ysgol. Helpodd hyn i nodi fod angen iddi ganolbwyntio ar y canlynol: dulliau cyfathrebu, tryloywder ei gwaith, ymgysylltu a chysylltu â rhieni a’r gymuned leol fel rhan o’i thaith adfer o COVID. O ganlyniad, sefydlodd yr ysgol gynllun datblygu â ffocws cymunedol. Canolbwyntiodd hyn ar y canlynol: cyfathrebu’n well â rhieni trwy blatfform asesu digidol; datblygu fforwm rhieni sydd bellach wedi datblygu i fod yn gymdeithas rhieni a ffrindiau; gwella’r arlwy profiad gwaith ar gyfer disgyblion ar ôl COVID-19; a meithrin cysylltiadau â grwpiau cymunedol lleol.
  • Yn yr arolygon diweddaraf ar les staff, mae’r rhan fwyaf o staff yn cytuno bod yr ysgol yn lle cadarnhaol i weithio. Mae’r ethos o ganmoliaeth ymhlith staff yn cefnogi hyn ac mae pob un o’r staff yn dweud eu bod yn gwybod at bwy i droi os oes angen cymorth arnynt.
  • Yn aml, mae angylion gwarcheidiol yn gadael negeseuon ar adegau anodd i’w cydweithwyr. Effaith hyn yw sicrhau bod staff yn teimlo gwerthfawrogiad o’r rhai o’u cwmpas pan fyddant yn aml yn teimlo’u bod yn cael eu herio fwyaf.
  • Dywedodd cant y cant o staff fod eu sesiynau goruchwylio wedi bod o fudd i’w hiechyd a’u lles, a oedd, yn ei dro, yn gwella’u gwydnwch a’u gallu i weithio gyda phlant sydd angen cymorth cymhleth a dwys. Dywedodd cant y cant o staff y byddent yn argymell goruchwylio i gydweithiwr.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • · Mae’r ysgol wedi rhannu ei dulliau o ddefnyddio’r WSAEMW fel offeryn hunanwerthuso mewn digwyddiadau ysgolion iach a gynhelir gan Gyngor Caerdydd ar gyfer pob ysgol yn yr awdurdod.

  • Mae postiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn amlygu llwyddiant y gymdeithas rhieni a ffrindiau a’r cyfleoedd i’r holl rieni ymuno â’r fforwm rhieni.

  • Rhennir gwybodaeth ar draws y ffederasiwn a gyda’r corff llywodraethol.

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn