Datblygu diwylliant o hunanwerthuso a dysgu proffesiynol parhaus yn Ysgol Gyfun Coed-duon

Arfer effeithiol

Blackwood Comprehensive School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Coed-duon yn ysgol gyfun gymysg 11-16 cyfrwng Saesneg, sydd wedi’i lleoli ar gyrion Cefn Fforest a Choed-duon. Mae gan yr ysgol chwe phrif ysgol gynradd clwstwr, ac mae 985 o ddisgyblion ar y gofrestr.  

Mae gan ryw 21% o ddisgyblion angen dysgu ychwanegol ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae tua 25% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf ac yn dod o gefndir gwyn Prydeinig. Ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. 

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2018. Ar ôl ei phenodi, cyd-luniodd cymuned yr ysgol weledigaeth ar y cyd yn seiliedig ar ddarparu amgylchedd dysgu anogol a dyheadol lle mae disgyblion a staff yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael cymorth: 

Mae Ysgol Gyfun Coed-duon yn gymuned ysgol gynhwysol lle rydym yn defnyddio grym dysgu ac addysgu i ddatblygu disgyblion hyderus, hapus, gwydn ac annibynnol. Yn ein hamgylchedd dysgu diogel, saff ac anogol, caiff pawb eu gwerthfawrogi’n gyfartal, ac mae perthnasoedd cadarnhaol yn sicrhau, trwy weithio gyda’n gilydd, ein bod yn codi dyheadau, yn cyflawni ein  potensial ac yn sicrhau ein dyfodol. 

Caiff y weledigaeth ei deall yn dda gan gymuned yr ysgol, a dyma’r sbardun allweddol ar gyfer systemau, polisïau a gweithdrefnau’r ysgol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Diwylliant o hunanwerthuso a chynllunio gwelliant 

Mae arweinwyr a staff yn Ysgol Gyfun Y Coed-duon yn credu y dylai cefnogi lles disgyblion a hyrwyddo cynhwysiant fod yn ganolog i bob agwedd ar waith yr ysgol. Maent yn credu, os nad yw disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn saff, na fydd ganddynt y gwydnwch a’r hyder i ddatblygu, dysgu a llwyddo. I hwyluso’r llwyddiant hwn, mae’r ysgol wedi sefydlu diwylliant o hunanwerthuso a chynllunio gwelliant rheolaidd a chadarn, sy’n cael ei ategu gan gyfleoedd dysgu proffesiynol cryf ar gyfer pob aelod o staff.  

Mae hunanwerthuso a chynllunio gwelliant wedi esblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers y pandemig, ond mae wedi canolbwyntio’n gyson ar wella dysgu, addysgu a lles. Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, mae’r cylch yn dechrau gydag uwch arweinwyr yn gwerthuso cynnydd cyffredinol yn erbyn blaenoriaethau’r ysgol ar gyfer gwella. Mae’r gwerthusiad hwn wedi’i seilio ar ddadansoddiad o dystiolaeth uniongyrchol a gasglwyd o ystod eang o weithgareddau hunanwerthuso a gynhaliwyd trwy gydol y flwyddyn gan uwch arweinwyr ac arweinwyr canol. Mae’r gweithgareddau hunanwerthuso hyn yn cynnwys: arsylwadau gwersi, adolygiadau llyfrau ysgol gyfan a phwnc, gweithgareddau llais y dysgwr ysgol gyfan, pwnc a grŵp blwyddyn, teithiau dysgu arweinwyr pwnc, dadansoddi data cynnydd disgyblion ysgol gyfan, pwnc a grŵp blwyddyn, a dadansoddi data presenoldeb, ymddygiad a lles. Mae’r ystod eang hon o ddulliau yn galluogi ystod eang o staff a disgyblion i chwarae rôl bwysig mewn hunanwerthuso ysgol gyfan. 

Ar ôl hyn, mae uwch arweinwyr yn gweithio gyda’i gilydd i nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella am y flwyddyn academaidd ddilynol, gan gynnwys eu gweithgareddau cysylltiedig, meini prawf llwyddiant a staff cyfrifol. Caiff y cynllun datblygu ysgol newydd ei rannu gyda phob aelod o staff yn y digwyddiad HMS cyntaf ym mis Medi, ynghyd â’r calendr sy’n nodi pryd bydd gweithgareddau hunanwerthuso yn cael eu cynnal gan uwch arweinwyr ac arweinwyr canol. Gall y canlynol gynrychioli cylch hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yr ysgol:  


 

Caiff y cynllun datblygu ysgol ei ategu gan gynlluniau datblygu adrannol a chynlluniau datblygu blynyddol, sy’n cael eu hysgrifennu gan arweinwyr pwnc ac arweinwyr bugeiliol. Mae’r cynlluniau datblygu hyn yn adlewyrchu’r un blaenoriaethau â’r cynllun datblygu ysgol, ond mae arweinwyr canol yn nodi camau gweithredu allweddol ar lefel pwnc neu grŵp blwyddyn sy’n cefnogi blaenoriaethau gwella’r ysgol. Oherwydd bod yr ysgol yn credu bod cael disgyblion i deimlo’n ddiogel a chyfforddus yn rhagflaenydd pwysig i ddysgu, mae cynlluniau datblygu adrannol yn cynnwys blaenoriaeth lles, yn ogystal â blaenoriaethau ar gyfer dysgu ac addysgu.  

Mae rheoli perfformiad yn drylwyr a rheoli llinell hefyd yn chwarae rôl hanfodol o ran hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yr ysgol. Mae amcanion rheoli perfformiad yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau’r ysgol ar gyfer gwella, ac mae trafodaethau rheolaidd rheolwyr llinell yn canolbwyntio ar ddysgu, addysgu, darpariaeth a hunanwerthuso. Mae datblygu arweinyddiaeth effeithiol, yn enwedig ar lefel arweinyddiaeth ganol, wedi bod yn flaenoriaeth i’r ysgol yn y gorffennol, ac mae rheoli perfformiad yn effeithiol, rheoli llinell a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel wedi bod yn sbardunau allweddol wrth wella safonau arweinyddiaeth ar bob lefel. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhan fwyaf o arweinwyr canol wedi bod yn cyflawni eu rolau yn effeithiol, ac mae arweinwyr pwnc yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella cyffredinol o fewn eu pynciau. Mae arweinwyr bugeiliol yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth uniongyrchol o weithgareddau hunanwerthuso a data presenoldeb i gynllunio gwelliannau sydd wedi’u teilwra i anghenion eu grwpiau blwyddyn. Er enghraifft, mae darpariaeth lles wedi esblygu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac wedi dod yn effeithiol iawn o ran cefnogi disgyblion bregus.   

Mae prosesau hunanwerthuso’r ysgol wedi galluogi staff i sicrhau bod disgyblion, yn gyffredinol, yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn, bod ganddynt agweddau cadarnhaol at ddysgu a’u bod yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol. Yn ychwanegol, maent wedi cael effaith sylweddol ar wella ansawdd a chysondeb yr addysgu.  

Diwylliant Dysgu Proffesiynol  

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae arweinwyr yn cynllunio dysgu proffesiynol yn strategol i yrru blaenoriaethau gwella’r ysgol ymlaen. Caiff dysgu proffesiynol ei werthuso fel rhan o broses hunanwerthuso’r ysgol, a’i addasu trwy gydol y flwyddyn academaidd, lle mae angen, i sicrhau gwelliant parhaus. Er enghraifft, mae gwella asesu wedi bod yn flaenoriaeth i’r ysgol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. O ganlyniad i ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel ar yr agwedd hon, mae llawer o athrawon bellach yn defnyddio gwybodaeth am asesiadau yn effeithiol i gynllunio gwersi a rhoi adborth buddiol i ddisgyblion. 

Cyflwynir dysgu proffesiynol cryf, wedi’i seilio ar ddefnyddio strategaethau wedi’u llywio gan dystiolaeth, trwy gyfarfodydd staff a HMS, ynghyd â briffiau addysgu, dysgu a bugeiliol byr â ffocws bob pythefnos. Mae’r dysgu proffesiynol hwn yn digwydd wyneb yn wyneb ac yn anghydamserol; mae hyn yn hwyluso dysgu proffesiynol ar gyfer pob aelod o staff, ni waeth beth yw eu ffordd o weithio. Gall athrawon ddewis ac wedyn addasu’r strategaethau a gyflwynir trwy ddysgu proffesiynol i weddu i anghenion eu pynciau a’u disgyblion. Mae staff yn gwerthfawrogi’r ymreolaeth hon, ac mae wedi cael effaith sylweddol ar wella’r cysondeb yn ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol. Yn ychwanegol, mae dysgwyr yn cytuno bod y strategaethau hyn yn eu cynorthwyo’n llwyddiannus wrth iddynt gaffael gwybodaeth a medrau.   

Mae diwylliant dysgu proffesiynol cefnogol yr ysgol wedi galluogi staff i ddatblygu’r hyder i rannu arfer dda yn rheolaidd o fewn yr ysgol, a’r tu allan. Mae cyflwyno ‘Hyrwyddwyr y Cwricwlwm i Gymru’ wedi ymestyn yr arlwy dysgu proffesiynol yn yr ysgol ymhellach, gan fod y rolau hyn yn cynnwys ymchwil weithredu a rhannu arfer orau i gefnogi blaenoriaethau’r ysgol. Mae hyn yn galluogi datblygiad a chyfleoedd staff ymhellach trwy greu ystod ehangach o rolau ysgol gyfan. 

Yn dilyn gweithgareddau hunanwerthuso a gynhelir bob tymor, mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn rhoi ‘gradd RAG’ i’w cynlluniau datblygu i werthuso cynnydd yn erbyn blaenoriaethau a nodi’r camau nesaf. Pan fydd meysydd i’w datblygu yn parhau, mae uwch arweinwyr yn darparu dysgu proffesiynol pellach, yn ôl yr angen. 

Y camau nesaf

Yn dilyn y gweithgareddau hunanwerthuso eleni (2022-2023), mae’r ysgol bellach yn treialu fformat newydd ar gyfer cynlluniau datblygu ysgol, adran a blwyddyn. Bydd y fformat hwn yn ddogfen weithio fyw, ac yn cynnwys y dolenni diweddaraf at dystiolaeth, wrth iddi gael ei chasglu. Bydd hefyd yn haws i lywodraethwyr ddod o hyd i’r ffordd er mwyn iddynt allu darparu cymorth effeithiol i’r ysgol.  

Bydd dysgu proffesiynol yn cael ei fireinio ymhellach trwy friffiau addysgu a dysgu a bugeiliol yr ysgol, hefyd. Y nod yw galluogi staff i barhau i ddatblygu eu harfer eu hunain trwy ymchwil weithredu a rhannu arfer orau ar draws adrannau a meysydd dysgu a phrofiad. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn