Datblygu diwylliant effeithiol ar gyfer dysgu
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Agorodd Ysgol Uwchradd Whitmore yn 2018 ar yr un safle ag Ysgol Gyfun y Barri. Ers hynny, cyflawnwyd prosiect trawsnewid sylweddol, gyda’r ysgol yn symud o fod yn ysgol bechgyn yn unig i fod yn ysgol gyfun, gymysg. Symudodd yr ysgol i adeilad newydd yn 2021. Mae 1082 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys tua 160 yn y chweched dosbarth. Mae tuag 20% o’r holl ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Penodwyd y pennaeth yn 2019.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae athroniaeth Ysgol Uwchradd Whitmore wedi’i seilio’n gadarn ar y ‘pedwar piler’ sy’n rhoi’r sylfaen ar gyfer datblygu’r plentyn cyfan, ac sy’n llunio ‘Gwerthoedd Whitmore’: parch, cyfrifoldeb, gwydnwch a gweithio’n galed. Mae’r athroniaeth hon yn cael ei choleddu gan bron pob un o’r staff, sy’n gweithio i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gwerthfawrogiac y gwrandewir arnynt, bod y disgyblion yn cael eu trin fel unigolion a’u bod yn cael cyfleoedd addysgu da yn gyson a chyfleoedd helaeth y tu allan i wersi. Mae hyn yn eu galluogi i lwyddo yn eu dysgu ac yn meithrin eu diddordebau a’u doniau.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Yn Ysgol Uwchradd Whitmore, crëwyd ‘diwylliant ar gyfer dysgu’ ac, ynddo, mae strwythur a threfn yn galluogi disgyblion i ffynnu. Mae ffiniau a disgwyliadau clir, a gyflwynir yn gyson gan bob aelod staff, yn caniatáu i ddisgyblion deimlo’n ddiogel i gymryd risgiau mewn gwersi:
Mae staff a disgyblion yn gwerthfawrogi ‘Diwylliant Dysgu’ sefydledig ac mae wedi cael effaith arwyddocaol ar agweddau ac ymddygiad cadarnhaol y rhan fwyaf o ddisgyblion’ (Estyn 2022).
Mae’r holl ryngweithiadau o fewn yr ysgol yn troi o gwmpas y pedwar gwerth allweddol, a grëwyd ar y cyd gan y staff a’r disgyblion. Mae cryn barch ac ymddiriedaeth y naill tuag at y llall wedi datblygu rhwng staff a disgyblion, a chyflawnwyd hyn wrth i’r staff fodelu a chyfeirio’n gyson at werthoedd yr ysgol wrth ddelio ag agweddau cadarnhaol a negyddol at ddysgu. I sicrhau cysondeb, crëwyd system ymddygiad ganolog ar sail y pedwar gwerth i sicrhau bod pob enghraifft o ymddygiad cadarnhaol a negyddol yn cael ymdriniaeth gyson a theg. Caiff canlyniadau fel ataliadau sgyrsiau adferol a chyfarfodydd â rhieni eu cynnal gan yr uwch dîm arwain ym mhob achos.
Mae hyfforddiant ar ffurf hyfforddiant mewn swydd, sesiynau briffio i’r staff a chymellwedi canolbwyntio ar ddatblygu geirfa gyffredin ymhlith staff, gan sicrhau cysondeb ymhellach. Caiff agweddau rhagorol at ddysgu eu creu trwy ddatblygu diwylliant lle y mae staff a disgyblion yn arddangos y gwerthoedd craidd bob amser ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain.
Elfen allweddol o’r ‘diwylliant ar gyfer dysgu’ yw cael gwared ar ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Cyflawnwyd hyn trwy ymagwedd gyson at unrhyw ddefnydd o ffôn. Mae disgyblion a rhieni yn deall canlyniadau defnyddio’r ffôn ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n defnyddio’u ffonau yn yr ysgol o ganlyniad. Cafwyd buddion sylweddol yn sgil yr ymagwedd hon, yn academaidd ac yn fugeiliol, heb unrhyw darfu ym mron pob gwers oherwydd y defnydd o ffonau a disgyblion yn mwynhau gemau bwrdd mewn grwpiau amser cinio, yn hytrach na defnyddio’u dyfeisiau.
Mae’n bwysig nodi bod Ysgol Uwchradd Whitmore yn cydnabod na fydd system ymddygiad ar ei phen ei hun yn trawsnewid agweddau at ddysgu. Mae’r ‘dull dysgu uniongyrchol’, sy’n cael ei weithredu’n gyson gan yr holl staff, yn darparu awyrgylch cyson a digynnwrf mewn ystafelloedd dosbarth sy’n cyd-fynd yn agos â’r ‘diwylliant ar gyfer dysgu’. Caiff ymddygiadau disgwyliedig eu mapio yn erbyn pob rhan o wers, gan sicrhau eglurder i staff a disgyblion. Mae’r cysylltiad rhwng addysgu o ansawdd uchel ac ymddygiad wedi’i wreiddio yn niwylliant yr ysgol ar gyfer dysgu.
Elfen hanfodol o ddiwylliant yr ysgol ar gyfer dysgu yw’r ddealltwriaeth nad yw’r strwythur a’r drefn gyson hon yn bodloni anghenion nifer bach o ddisgyblion. Mae ethos cynhwysol a chefnogol yr ysgol yn sicrhau bod y disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn elwa’n sylweddol o’r ddarpariaeth gofal, dysgu a lles integredig yn yr ysgol, fel y canolfannau cymorth, y ‘Ganolfan Canlyniadau Llwyddiannus’ (Successful Outcomes Centre) a’r ganolfan adnoddau arbennig i ddisgyblion â chyflwr ar y sbectrwm awtistig. Mae cyfleoedd fel meistroli medrau pobi ym mecws yr ysgol, gweithio ochr yn ochr â dau gi therapi’r ysgol, Daisy a Pilot, chwarae gwyddbwyll a bod yn rhan o dimau chwaraeon cynhwysol yn rhoi cyfleoedd pellach i ddisgyblion ddatblygu’n gymdeithasol ac yn emosiynol, gan ganiatáu iddynt ddod yn ddysgwyr gwydn, annibynnol ac uchelgeisiol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu’u medrau cymdeithasol a bywyd yn gadarn drwy’r rhaglen gyfoethogi helaeth yn Ysgol Uwchradd Whitmore. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o glybiau ar ôl ysgol, gan gynnwys codi pwysau Olympaidd, gwydnwch corfforol a chlybiau Newyddiadurwyr Ifanc y BBC, ynghyd â llawer o gyfleoedd cerddoriaeth, drama a chwaraeon. Mae cyfradd uchel o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Mae’r medrau a’r hyder sy’n cael eu hennill yn y gweithgareddau hyn wedi trosi’n agweddau gwell o lawer at ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.
O ganlyniad i gyflwyno’r ‘diwylliant ar gyfer dysgu’, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol, a disgrifir yr ymddygiad ym mwyafrif y gwersi yn rhagorol. O ganlyniad i’r awyrgylch hwn, lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel i gymryd risgiau, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cyflym a chadarn.