Datblygu diwylliant ac ethos Cymru a’r Gymraeg ar draws yr ysgol - Estyn

Datblygu diwylliant ac ethos Cymru a’r Gymraeg ar draws yr ysgol

Arfer effeithiol

Penclawdd Primary School


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r daith o ran datblygu diwylliant ac ethos Cymru a’r Gymraeg ar draws yr ysgol wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y weledigaeth ar gyfer Ysgol Gynradd Penclawdd. Dros y blynyddoedd diwethaf ac fel rhan o’i thaith at 2022 a’r cwricwlwm newydd, mae’r holl randdeiliaid wedi cyfrannu at ddatblygu’r weledigaeth ac mae hyn wedi sicrhau bod yr holl randdeiliaid wedi buddsoddi’n gyfartal mewn bodloni’r nodau ac maent yn rhagweithiol ynghylch y daith. Cafodd COVID effaith enfawr ar siarad Cymraeg yn yr ysgol gan fod bron bob un o’r disgyblion yn dod o deuluoedd sy’n siarad Saesneg yn bennaf. Wrth ddychwelyd i’r ysgol, sylwyd ar y dirywiad sylweddol ym medrau Cymraeg disgyblion ac anelodd yr ysgol at wella hyn ac, yn y pen draw, gwneud y medrau hyd yn oed yn well nag yr oeddent cyn COVID. Ei nod oedd tanio angerdd disgyblion a’r gymuned, ac roedd yr ysgol o’r farn y byddai’n cyflawni hyn trwy ganolbwyntio ar ddatblygu ethos a diwylliant Cymru a’r Gymraeg, yn hytrach na dim ond ar yr iaith.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gweledigaeth yr ysgol yn datgan bod llais y disgybl yn ‘briodol o lafar a balch’ ac mae ei Chriw Cymraeg, ochr yn ochr ag arweinwyr y Gymraeg, wedi chwarae rhan enfawr yn adeiladu’r momentwm a sicrhau bod cymuned gyfan yr ysgol yn cymryd rhan. Yn dilyn ymgyrch recriwtio, pan ofynnwyd i ddisgyblion rannu pam roedd hi’n bwysig dysgu Cymraeg yn eu barn nhw, sefydlwyd y ‘Criw Cymraeg’. Mae’r Criw’n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau ymagwedd gyson at nodau’r ysgol a, bob wythnos, mae’r Criw yn arwain gwasanaeth Cymraeg, yn arwain gemau yn iard yr ysgol, yn adeiladu cysylltiadau ag ysgolion clwstwr a’r gymuned ac yn adeiladu proffil y Gymraeg o gwmpas yr ysgol a’r gymuned. 

Mae Cymraeg yr ysgol wedi cael ei gyrru gan gymuned gyfan yr ysgol a gwelir y Gymraeg yn cael ei defnyddio ac mae wedi’i gwreiddio o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6. Mae’r ysgol yn ymdrechu i sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i bob gwers, i sicrhau bod disgyblion yn amsugno iaith mewn ffordd y gallant ei defnyddio’n naturiol. Mae’n fwy na dim ond Cymraeg achlysurol. Mae’r Slot Ddrilio yn digwydd yn ddyddiol ym mhob dosbarth ac mae disgyblion yn defnyddio’r amser hwn i ymarfer patrymau’r iaith a datblygu’u hyder wrth siarad Cymraeg. Yn ystod y cyfnod hwn, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys sgyrsiau, darllen, drilio patrymau iaith a gemau. Mae sesiynau darllen dyddiol dan arweiniad yn ffocws hefyd a bydd plant yn treulio amser yn darllen ‘Llyfr Yr Wythnos’ gyda’u ffrindiau a thrafod y testun. Mae’r ymgyrch hon ynghylch y Gymraeg a’r ymagwedd gyson ar draws yr ysgol wedi bod yn ganolog i ddefnydd disgyblion o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm, o fewn y gymuned ac ym mhob agwedd ar fywyd ysgol.   

Crëwyd cwricwlwm yr ysgol i sicrhau bod hanes cyfoethog Penclawdd yn cael ei addysgu a’i ddathlu ochr yn ochr â dysgu am Gymru a’r byd. Er enghraifft, mae hanes y cocos lleol a sut mae wedi newid, datblygu a sut mae’n parhau i fod yn rhan enfawr o ddiwylliant a threftadaeth y pentref, i’w weld mewn sawl rhan o gwricwlwm yr ysgol. Wrth holi rhieni, mae hanes Penclawdd yn faes o arwyddocâd i’r gymuned ac mae rhoi ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i’r plant wedi bod wrth wraidd ethos Cymreig yr ysgol. Mae ymweliadau gan yr ysgol yn lleol ac â mannau yng Nghymru hefyd yn chwarae rhan enfawr wrth ennyn diddordeb disgyblion yn y dysgu a chânt eu defnyddio’n aml i ‘fachu’r’ disgyblion yn gynnar yn eu dysgu. Er enghraifft, sicrhaodd ymweliad diweddar â Big Pit fod y dysgwyr wedi’u cyffroi a’u hysbrydoli ynghylch eu pwnc ‘Pyllau a Cheffylau’ a sicrhaodd fod disgyblion wedi’u cymell i ddysgu ac yn frwd i fod y gorau y gallent fod yn eu holl ddysgu. Mae ymweliadau lleol â Selwyn’s Seafood a Gower Brewery wedi tanio brwdfrydedd dysgwyr hefyd. Mae sicrhau nad dim ond y pedair wal yw’r ystafell ddosbarth, ond y pentref a Chymru, wedi sicrhau bod plant yn deall ac yn cofleidio Cymru amrywiol yn ddiwylliannol ac yn ethnig a’u bod yn gwybod mai Cymru ‘yw’r man lle’r ydym yn teimlo’n bod ni’n perthyn, lle mae’r bobl a’r dirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd, a lle mae’r golygfeydd a’r synau yn galonogol o adnabyddadwy’ – ‘cynefin’ yr ysgol.

Mae dysgu proffesiynol hefyd wedi bod yn ffactor allweddol wrth fodloni nodau’r ysgol. Mae disgyblion yn gwybod bod staff ar y daith ddysgu hon hefyd ac mae’r agwedd bod ‘pawb ynddi gyda’n gilydd’ wedi bod yn allweddol i ysbrydoli disgyblion i fod y gorau y gallant fod ac i ddal ati. Mae ethos ‘Meddylfryd Twf’ yn sicrhau bod disgyblion yn deall ei fod yn iawn gwneud camgymeriadau a pha mor bwysig yw’r camgymeriadau wrth helpu pawb i ddysgu. 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r effaith wedi bod yn sylweddol a gellir ei theimlo ar draws yr ysgol. Mae’r ymagwedd gyson wedi sicrhau bod y ddarpariaeth wedi gwella ac mae monitro wedi dangos bod y Gymraeg yn nodwedd allweddol ym mron pob dosbarth ac ardal o gwmpas yr ysgol. Mae ymwelwyr yn gwneud sylw am lefel y Gymraeg sy’n cael ei defnyddio mewn sgyrsiau ac mae disgyblion yn mynd ati i geisio cyfleoedd i ddangos eu medrau o ddydd i ddydd. Mae safonau llefaredd a darllen Cymraeg wedi gwella’n sylweddol ar ôl COVID ac, wrth i’r ysgol edrych tua’r dyfodol, bydd yn sicrhau ei bod mewn sefyllfa gadarn i wella ysgrifennu Cymraeg ymhellach ar draws yr ysgol. Mae rhieni wedi dweud bod hyn wedi’u hysbrydoli nhw i ddysgu Cymraeg er mwyn cynnal angerdd yr iaith gartref ac yn yr ysgol. Mae hyn wedi sicrhau bod yr effaith wedi lledaenu ymhell i gymuned yr ysgol ac mae wedi sicrhau bod bron bob un o’r disgybl yn angerddol ac wedi’u symbylu i esblygu’n ddinasyddion Cymru’r dyfodol. Mae’r gwelliant i’r cwricwlwm yn dangos, mewn holiadur diweddar i ddisgyblion, fod y rhan fwyaf o’r disgyblion o’r farn eu bod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru (a’r byd) ac mae wedi sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni ei gweledigaeth, sef ‘ysgol heb iaith, ysgol heb lais’

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Clwstwr – staff a disgyblion. Y cyfryngau cymdeithasol’.

Dyma fideo o’r disgyblion yn perfformio – https://penclawdd-primary-school.primarysite.media/media/nurseryreception-calon-lan