Datblygu disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol

Arfer effeithiol

Model C.I.W. School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Model yng Nghaerfyrddin.  Mae 412 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 55 o ddisgyblion sydd yn y dosbarth meithrin yn rhan-amser.  Mae tua 13% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (18%).  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 24% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig.  Mae hyn ychydig uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (21%). 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol:

Mae’r ysgol wrthi’n paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd.  Yn ogystal ag ystyried yr hyn sy’n cael ei addysgu, mae hefyd yn edrych yn fanwl ar y modd y mae athrawon yn addysgu.  Gweledigaeth yr ysgol yw datblygu disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol.  Er mwyn gwneud hyn, mae’r ysgol yn credu bod angen iddi fynd i’r afael ag addysgeg trwy ymestyn yr athroniaeth a fabwysiadir yn y cyfnod sylfaen ar draws yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch:

Yn dilyn ymweliad ag ysgol leol a rannodd ei harfer lwyddiannus, penderfynodd yr ysgol greu ‘Ditectif Dysgu’.  Yn benodol, nod yr ysgol oedd datblygu’r ymagwedd hon i’w chymhwyso yng nghyfnod allweddol 2, ac adeiladu ar rai o gryfderau allweddol yr addysgu a’r dysgu sy’n digwydd trwy athroniaeth y cyfnod sylfaen.  Bellach, gelwir yr holl ddarpariaeth estynedig yn ‘Ditectif Dysgu’, ac mae gan bob disgybl lyfr gwaith ‘Ditectif Dysgu’.  Caiff pob un o’r chwe ardal ddysgu yn yr ystafelloedd dosbarth eu hadnabod fel ‘Cyfrif a Chyfrifo; Ardal Allanol; Gorsaf Ysgrifennu; Cwtsh Creadigol; Den Darganfod a Chornel Adlewyrchu’.  Mae’r strategaeth yn sicrhau bod disgyblion yn cael cynnwys eang a chytbwys yn eu cwricwlwm, ac ymagwedd gytbwys at sut cânt eu haddysgu.  Felly, yng nghyfnod allweddol 2, penderfynodd staff addysgu’r cwricwlwm sy’n ymwneud yn fwy â chynnwys ‘pwnc’ am dri bore’r wythnos.  Am weddill yr amser, caiff disgyblion eu haddysgu mewn tasgau â ffocws, a chânt gyfle i weithio’n annibynnol ac yn ardaloedd y ddarpariaeth estynedig.  Mae arweinwyr yr ysgol wedi sicrhau bod systemau priodol i sicrhau parhad ar draws yr ysgol.

Mae Blwyddyn 6 yn cynnwys dau ddosbarth cyfochrog, a darperir ‘Ditectif Dysgu’ ar draws y grŵp blwyddyn.  Caiff disgyblion eu hannog i wneud y defnydd mwyaf o’r amgylchedd dysgu yn y ddwy ystafell ddosbarth, gan gynnwys yn y coridor, a’r tu allan.  Mae gofod ac ardal wedi cael eu hystyried yn ofalus i ddarparu ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6.  Gall pob disgybl elwa ar bob ardal yn ystod  ‘Ditectif Dysgu’ gan fod yr ystafelloedd dosbarth yn cael eu hagor.  Yn yr un modd ag yn yr holl ddosbarthiadau, mae ‘Ditectif Dysgu’ yn cynnwys dwy dasg â ffocws, dau weithgaredd annibynnol, a chwe ardal darpariaeth estynedig, yn darparu tasgau â her wahaniaethol ac amrywiaeth o gyfleoedd perthnasol ar gyfer asesu ffurfiannol.

Caiff y cynllunio ei ysgogi gan gyfraniadau a syniadau disgyblion, ac fe gânt eu hannog i gyfrannu at arddangosfa ‘Llais y Disgybl’ yn ystod eu hamser cylch wythnosol.  Wedyn, cânt gyfle i ddewis gweithgaredd ohoni yn ystod amser ‘Ditectif Dysgu’.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Effaith y Ditectif Dysgu yw bod yr addysgu mewn tasgau â ffocws ar draws y grŵp blwyddyn yn galluogi’r athrawon i gael cyswllt â phob un o’r disgyblion yn rheolaidd.  Mae hyn yn sicrhau dealltwriaeth fanylach o’u gallu, a gallu’r plentyn cyfannol, gan alluogi asesiadau cywir gan athrawon.

Dywed athrawon fod hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar agwedd disgyblion at ddysgu.  Mae’r broses wedi gwella annibyniaeth a brwdfrydedd disgyblion, a’u hagweddau at ddysgu.  Mae dawn greadigol a dysgu yn yr awyr agored wedi cryfhau hefyd, gan fod disgyblion o’r farn fod ‘Ditectif Dysgu’ yn rhoi llawer mwy o gyfleoedd iddynt fod yn ddysgwyr annibynnol.  Caiff staff gyfleoedd rheolaidd ac ystyrlon i weithio gyda gwahanol ddisgyblion o’r ddau ddosbarth.  Mae cynllunio wedi dod yn fwy pwrpasol hefyd, ac yn ystyried pob maes dysgu.  Mae’r disgyblion yn gwerthfawrogi cymryd perchnogaeth o’u dysgu eu hunain.

Mae bron pob un o’r disgyblion yn cyfranogi’n llawn ac yn mwynhau eu hamser ‘Ditectif Dysgu’.  Maent wedi datblygu angerdd at eu dysgu, ac yn benodol, mae’r gwaith wedi effeithio’n gadarnhaol ar ddysgu, lles a hunanhyder disgyblion.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn cynnal cyswllt ag ysgol arall yr ymwelodd staff â hi i weld a rhannu arfer dda.  Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn rhannu arfer lwyddiannus trwy wefan ei hysgol, ac yn croesawu unrhyw ysgol sy’n dymuno mynegi diddordeb i gysylltu er mwyn cael gwybod mwy.