Datblygu disgyblion egwyddorol, gwybodus - Estyn

Datblygu disgyblion egwyddorol, gwybodus

Arfer effeithiol

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ysgol bob oed yng Nghastell Nedd Port Talbot sydd wedi ei lleoli ar ddwy safle – Ystalyfera yn ngogledd y sir sydd yn gampws 3-19 a Bro Dur ym Mhort Talbot sydd yn gampws 11-16. Ar hyn o bryd, mae ynddi 1,519 o ddisgyblion gyda 160 o oedran cynradd a 1,359 o oedran uwchradd. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal eang gan ddarparu addysg cyfrwng Gymraeg ar gyfer disgyblion awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot ac o dde Powys. Mae tua 15% o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim ac mae 24% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae’r ysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill ar hyn o bryd i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â diwygio addysg yng Nghymru, fel Ysgol Braenaru.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae arwyddair yr ysgol, Dysgu Gorau Dysgu Byw, yn cwmpasu gweledigaeth yr ysgol o sicrhau cwricwlwm eang a chynhwysfawr sy’n ysbrydoli a chynnwys disgyblion o bob cefndir a gallu er mwyn rhoi’r cyfle i bawb ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol a gwybodus. Mae cwricwlwm cyfoethogi’r ysgol yn digwydd ar sawl lefel gyda phwyslais ar hyblygrwydd a pharodrwydd i addasu yn ôl anghenion disgyblion, cyd destun yr ysgol, anghenion lleol a digwyddiadau byd eang.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae cyfnodau penodedig lle mae’r amserlen ffurfiol yn cael ei dymchwel ar gyfer cyfnodau penodol gyda’r nod o ddatblygu’r disgyblion yn llawn fel unigolion egwyddorol a gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymry a’r byd. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar eu hunaniaeth a’u rôl o fewn y gymuned a’u hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd o fewn eu bro. Rhai o’r cyfleoedd mae disgyblion yn elwa ohonynt yn ystod yr wŷl haf yw edrych ar Gewri Cymru fel thema trwy gerdded mynydd Cribarth, edrych ar arwyr y presennol ac ymateb i’r profiadau hyn trwy lenyddiaeth. Maent yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned i wella’u hamgylchedd leol trwy brosiect Fy Nyffryn Gwyrdd ac yn ystod yr alldeithiau Her Haf, mae disgyblion yn cysylltu, mwynhau a gofalu am eu hamgylchfyd gan edrych ar ardaloedd Cenffig a Margam. Maent hefyd yn edrych ar chwedloniaeth yr ardal ac ymchwilio i Windrush a’r effaith mae traddodiadau o Jamaica yn ei gael ar yr ardal.

Mae disgyblion yn arwain ar gynlluniau cwricwlaidd a diwrnodau ffocws ar hyd y flwyddyn ac yn ôl materion byd eang. Trwy Senedd yr ysgol, mae disgyblion yn codi ymwybyddiaeth o’u dyheadau er mwyn trafod materion cyfoes. Un enghraifft o hyn oedd Dydd Gwener Gwyrdd a gynlluniwyd gan y disgyblion gyda chyfres o weithgareddau cwricwlaidd i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd byd eang a lleol. Yn ystod y cyfnod clo, cododd Pwyllgor y Dreigiau eu pryder ynglŷn â heriau’r pandemig ar eu defnydd o’r iaith Gymraeg. Mewn ymateb, cyd-gynlluniwyd Diwrnod y Ddraig oedd yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion yn rhithiol i fynychu gweithgareddau cerddoriaeth, celf, diwylliant a iaith oedd yn hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod. Yn flynyddol, mae’r ysgol yn ymgymryd ag ymgyrch i godi arian at elusen Brainstrust yn sgil cysylltiad agos yr elusen â chymuned yr ysgol. Mae’r gefnogaeth a’r ymrwymiad yma yn gallu bod yn ymarferol yn ogystal ag ariannol gyda disgyblion yn gwneud gwaith gwirfoddol yn y gymuned trwy gydweithio â chartrefi henoed, arwain yn y gwasanaethau coffa a chwblhau murlun cymunedol er mwyn harddu pentref Ystalyfera.

Rhoddir ffocws ar ehangu gorwelion a datblygu cysylltiadau gyda chymunedau tramor wrth gynllunio pob taith preswyl er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth disgyblion o’u hunaniaeth fel dinasyddion Cymru a’r byd. Yn Vancouver, ffurfiwyd cysylltiad agos gyda’r gymuned Gymreig trwy gynnal cyngherddau tra’n ehangu gorwelion disgyblion. Yn flynyddol, mae taith goffa’r Ryfel Byd Cyntaf i Compiens yn rhoi’r pwyslais ar gysylltu’r celfyddydau a chwaraeon ac yn gwneud hyn fel rhan integredig o’r coffau yn yr ardal.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Effaith hyn yw bod gan y disgyblion y grym i gymryd perchnogaeth o’u dysgu, i wneud cyfraniadau pwrpasol i’w hamgylcheddau dysgu, ac i fynd i’r afael â materion sy’n codi yn y byd o’u cwmpas. Ar draws yr ysgol, mae rhan fwyaf y disgyblion yn rhyngweithio’n hapus a naturiol gyda’i gilydd yn ystod gwersi ac amseroedd egwyl a chinio. Maent yn cyfathrebu’n gwrtais a hyderus gydag oedolion ac yn hynod groesawgar tuag at ymwelwyr. Mae’r disgyblion yn falch o fod yn rhan o gymuned deuluol Gymreig Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur gan ddangos dycnwch a dyfalbarhad er mwyn cyflawni eu gwaith yn llwyddiannus. Dyma ymateb rhai o’r disgyblion:

‘……mae’r Ysgol yn sicrhau bod cyfleoedd i bawb i ddilyn eu diddordebau a datblygu sgiliau bywyd mewn ffyrdd cyffrous’.

‘…….dwi’n deall yn well sut y gallaf ddefnyddio fy nghryfderau personol er mwyn gwella bywydau eraill trwy’r gwaith gwnes i ar gyfer prosiect elusenol ‘Diwrnod Eifion’ a hefyd ges i lawer o hwyl’.

‘….roeddwn yn gadeirydd y Senedd yn ystod y cyfnod clo ac roedd arwain ar ddiwrnodau ffocws wedi rhoi cyfle i fi ddatblygu sgiliau gweithio gydag eraill ac yn bendant fy sgiliau arwain’