Datblygu dinasyddion Cymreig cyflawn a pharchus - Estyn

Datblygu dinasyddion Cymreig cyflawn a pharchus

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ysgol ddynodedig Gymraeg i ddisgyblion 11-18 oed ac mae ynddi 1,132 o ddisgyblion. Lleolir yr ysgol yn Ystum Taf ac mae’n gwasanaethu canolbarth dinas Caerdydd o’r gogledd i’r de. Mae 17.9% o’r disgyblion yn byw mewn ardaloedd sydd ymhlith yr 20% mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac mae 10.1% o ddisgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim. Mae tua 36% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ond mae pob disgybl yn astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf. Canran fechan iawn o ddisgyblion sy’n hanu o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
Derbynia’r ysgol ddisgyblion o’r ystod llawn o allu. Mae 20% o ddisgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol gydag ychydig dros 1% o ddisgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae canolfan adnoddau i ddisgyblion ag anghenion dysgu dwys o bob rhan o’r awdurdod addysg lleol wedi ei lleoli yn yr ysgol ac mae ynddi 12 o ddisgyblion.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Ers rhai blynyddoedd, mae’r ysgol wedi creu Datganiad syml 3 gair : ‘Cymreictod, Cwrteisi, Parch’  ac adlewyrchir prif ddyheadau’r ysgol yn y datganiad hwn ac yn arwyddair yr ysgol : ‘Coron Gwlad ei Mamiaith’. Y nod yn syml ydy creu cymuned ysgol croesawgar, cynhaliol a chyfeillgar a dinasyddion cyflawn, parchus a Chymreig. Mae’r nodau hyn yn treiddio drwy holl galendr a gweithgareddau’r ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

  • Mae sustem fugeilio gref gan yr ysgol sy’n rhoi pwyslais ar adnabod yr unigolyn o ran cefndir, anghenion academaidd a lles. Hyrwyddir ymdeimlad cryf o falchder ac uchelgais academaidd yn y disgyblion.
  • Ystyrir a gwerthfawrogir amrywiaeth cefndiroedd  y disgyblion, mae’r cwricwlwm a’r gweithgareddau ehangach yn cefnogi cydraddoldeb drwy roi cyfle i bob unigolyn ddatblygu yn academaidd a chymdeithasol.
  • Cynigir darpariaeth arbennig er mwyn hyrwyddo gwerthoedd dinasyddiaeth dda a moesoldeb e.e. sesiynau boreol sy’n cynnwys rhaglen eang o weithgareddau ysbrydol neu foesol diddorol. Hyrwyddir gwerthoedd fel gonestrwydd, tegwch a pharch yn gyson e.e.trwy wersi Addysg Grefyddol caiff y disgyblion gyfleoedd i fyfyrio ar eu bywydau a’u credoau eu hunain a phobl eraill, eu hamgylchedd a’r cyflwr dynol, ac ystyried cwestiynau sylfaenol bywyd. Rhoddir  pwyslais mawr ar fod yn gymuned  a chyfranna’r disgyblion yn hael at weithgareddau cymunedol ac at elusennau.
  • Un o nodweddion eithriadol yr ysgol yw cyfranogiad a llwyddiant canran uchel o ddisgyblion ym meysydd chwaraeon, cerddoriaeth a drama yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Caiff y disgyblion gyfleoedd i gyfarfod a chymdeithasu gyda chyfoedion ac oedolion sydd yn rhoi profiadau cyfoethog iddynt. Anogir pob disgybl i gymryd rhan yn ein holl weithgareddau allgyrsiol e.e. celf, TGCh, gwyddoniaeth, dadlau, Sgwad Sgwennu, Clwb Cristnogol, ymweliadau ayyb.
  • Mae rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol yr ysgol yn llawn gweithgareddau cyfoes a defnyddiol sydd yn helpu paratoi disgyblion at bob agwedd o fywyd e.e. addysg rhyw a pherthynas, byw’n ddiogel a sut i fod yn ddinesydd da. Mae’r ysgol yn parhau i addysgu’r pwnc 1 wers bob pythefnos i bawb yn CA3 ac i bawb yn CA4 nad ydynt yn astudio Gwyddoniaeth Triphlyg a gwelir o holiaduron bod y disgyblion yn elwa o’r trefniant hwn.
  • O ran y Cyngor Ysgol, mae 6 pwyllgor gwahanol (gyda hyd at 80 disgybl ymhob un) wedi’u sefydlu  – LLais y Disgybl (pwyllgor i gael barn y disgyblion ar bob agwedd o fywyd yr ysgol), BYG (Byw yn y Gymraeg), Amgylchfyd, CyfarTaf (pwyllgor i hybu cydraddoldeb ymhob maes)  Iechyd a Bwyd a Chwaraeon,  sy’n galluogi i ganran uchel iawn o ddisgyblion gael llais ym mhenderfyniadau’r ysgol.
  • Mae sustem lysol gryf yn yr ysgol sydd yn cynnig amryw weithgareddau i’r holl ddisgyblion. Cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos a  gwyliau ysgol gyfan bob tymor e.e. Eisteddfod ysgol, Gŵyl Chwaraeon. Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad mawr lle estynnir y cyfnod cofrestru i 40 munud am hanner tymor er mwyn i’r  disgyblion gydweithio gyda’i gilydd; cyfranna hyn yn helaeth at y syniad o berthyn ac ethos gynhaliol, gymdeithasol yr ysgol.
  • Cynigir amgylchedd gweithio symbylus ac awyrgylch ysgogol e.e. mae’r dosbarthiadau, y coridorau a’r mannau cyhoeddus wedi’u haddurno gyda gwaith y disgyblion, posteri ac arddangosfeydd ac mae gan yr ysgol ystod eang o adnoddau dysgu cyfoes o ansawdd uchel.
  • Mae’r ddarpariaeth o ran cymorth i’r disgybl yn eang e.e. ceir cynllun Buddy rhwng y disgyblion iau ac hŷn, ELSA, Talkabout, mudiad Seren sy’n cael ei redeg gan y 6ed ac sy’n gyfle i drafod unrhyw broblemau gan ddisgyblion iau, Cwnselydd, Nyrs, Swyddog Heddlu, gweithiwr allweddol, Mentor Ieuenctid Allanol ayyb. Yn ogystal, cydweithir yn effeithiol gydag ystod eang o asiantaethau allanol er mwyn cefnogi lles, iechyd a datblygiad cymdeithasol disgyblion.
  • Rydym wedi blaenoriaethu i ddisgyblion ddatblygu iechyd meddwl cadarnhaol. Trafodir y pwnc mewn gwasanaethau, gwersi ABCh, Munud i Feddwl, Llais y Disgybl a chynhelir sesiynau ymlacio a sesiynau meddylgarwch yn wythnosol sydd wedi cael effaith gadarnaol ar les disgyblion ar draws yr ysgol.
  • Mae trefniadau effeithiol ar gyfer adnabod, cefnogi a monitro anghenion dysgu ychwanegol disgyblion sy’n cynnwys ystod helaeth o strategaethau a threfniadau effeithiol.
  • Mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a sicrheir bod y disgyblion yn integreiddio’n llwyddiannus i fywyd yr ysgol brif lif gan elwa’n llawn o’r cyfleoedd eang trawsgwricwlaidd sydd ar gael. Mae hyn yn cyfoethogi profiadau dysgu holl ddisgyblion yr ysgol.
  • Mae cynlluniau Trosglwyddo cryf rhwng yr ysgol a’r ysgolion cynradd; cynhelir hyd at 10 digwyddiad yn flynyddol ac felly, mae’r disgyblion cynradd yn dod i arfer â safonau ac ethos yr ysgol cyn eu bod yn ddisgyblion yma.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae holiaduron disgyblion a rhieni yn dangos bodlonrwydd gyda’r ysgol – yn yr holiaduron diweddaraf, roedd bron pob un disgybl wedi nodi eu bod yn mwynhau bod yn ddisgyblion yn yr ysgol ac roedd y rhan fwyaf o’r rhieni yn dweud bod y disgyblion yn hoffi’r ysgol.
  • Nodwedd amlwg o’r ysgol yw ymddygiad gwaraidd bron pob disgybl yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol a dangosir lefel uchel iawn o barch tuag at eu cyd-ddisgyblion, staff yr ysgol ac ymwelwyr.
  • Teimla’r rhan fwyaf o’r disgyblion bod y staff yn eu parchu a bod yr ysgol yn eu helpu i ddeall a pharchu pobl o gefndiroedd eraill.
  • Mae’r holl gyfleoedd allgyrsiol yn cynyddu hunanwerth a sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol y disgyblion gan eu helpu i fod yn ddinasyddion da.
  • Mae’r holl gyfleoedd LLais y Disgybl yn cynyddu hunanwerth, hunanbarch a sgiliau cyfathrebu y disgyblion ac yn sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ffocws amlwg.
  • Mae’r amrywiol agweddau o gymorth sydd ar gael yn cyfrannu’n helaeth at iechyd meddwl y disgyblion.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Yn lleol, sirol a chenedlaethol, mae enw da yr ysgol yn destun canmoliaeth mewn nifer o feysydd allgyrsiol a rhennir ein harferion da yn gyson trwy gylchlythyron, a thrwy gyfryngau cymdeithasol megis Twitter. Rhennir arfer dda rhwng ysgolion mewn fforymau megis CYDAG ac yn lleol trwy BroPlasTaf.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn