Datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r Gymraeg a’i diwylliant - Estyn

Datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r Gymraeg a’i diwylliant

Arfer effeithiol

Dylan Thomas Community School

Grŵp o unigolion sy'n cymryd rhan mewn ymarfer loncian dan do mewn campfa, gyda chonau oren wedi'u sefydlu ar hyd eu llwybr.

Gwybodaeth am yr ysgol  

Mae Ysgol Gymunedol Dylan Thomas (DTCS) yn ysgol 11-16 cyfrwng Saesneg a gynhelir gan awdurdod lleol Abertawe. Mae’r ysgol wedi’i lleoli yng Nghocyd yn Abertawe ac yn gwasanaethu cymunedau sy’n profi lefelau sylweddol o her economaidd-gymdeithasol. Mae 701 o ddisgyblion ar y gofrestr, sef y nifer uchaf mewn cyfnod o dair blynedd, ac yn gynnydd o 136 o ddisgyblion ers yr un dyddiad yn 2021. Mae bron i 79% o’r disgyblion yn byw yn y 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig o blith yr holl ardaloedd yng Nghymru, ac mae 66% yn byw yn y 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 51%, sydd gryn dipyn uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 21.2%.  

Mae tua 10% o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY). Mae gan ryw 36% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd gryn dipyn yn uwch na chyfartaledd yr awdurdod lleol, sef 19.5%. Mae oedran darllen llawer (hyd at 75%) o blant sy’n dechrau yn yr ysgol islaw eu hoedran cronolegol. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n clywed neu’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd neu yn y gymuned. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Sbardunodd Cwricwlwm i Gymru yr ysgol i werthuso sut maent yn datblygu ymdeimlad disgyblion o ‘gynefin’ ar draws y cwricwlwm cyfan. O ganlyniad i’r gwerthusiad hwn, sefydlwyd gweithgor gyda’r nos i ymestyn y dimensiwn Cymreig ar draws pob maes dysgu a phrofiad (MDPh). Gwnaed gwaith sylweddol ar draws pob MDPh i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu cyfleoedd dilys i ddisgyblion ryngweithio â’r Gymraeg, ei hanes a’i diwylliant.  

Yn 2021, teimlai’r ysgol y dylent fod yn gwneud mwy i ddatblygu cariad am y Gymraeg, a’r defnydd a wneir ohoni, yn ogystal â hyrwyddo ac ymestyn hunaniaeth Gymreig disgyblion a’r ffordd y maent yn eu hystyried eu hunain yn ‘Gymry’. O’r herwydd, nodwyd bod gwersi Addysg Gorfforol yn gyfrwng ar gyfer cefnogi ymdrech yr ysgol i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion. Datblygwyd rhaglen arloesol i gyflwyno gwersi Addysg Gorfforol dwyieithog gan y Pennaeth Cynorthwyol a’r arweinydd MDPh ar gyfer Iechyd a Chwaraeon a staff o’r bartneriaeth AGA leol. Treialwyd hyn i ddechrau ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 7 fel peilot, ac mae wedi’i gysylltu â rhaglen dargedig o ddysgu proffesiynol ar gyfer staff. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ar gychwyn y prosiect Addysg Gorfforol dwyieithog, derbyniodd y tîm MDPh Iechyd a Chwaraeon gymorth teilwredig gan staff yn y bartneriaeth AGA leol i ddatblygu eu medrau Cymraeg. Roedd staff yn yr adran Addysg Gorfforol yn addysgu gwersi Addysg Gorfforol yn ddwyieithog yn ddieithriad. Trefnwyd hefyd fod aelod o’r tîm addysgu Cymraeg yn ‘addysgu timau’ ac yn cynorthwyo cydweithwyr yn y gwersi hyn, gan oresgyn unrhyw heriau pe baent yn codi. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, gwerthuswyd y cynllun peilot, a chytunwyd y byddai’n cael ei gyflwyno ymhellach, fel bod Cyfnod Allweddol 3 i gyd yn derbyn eu gwersi Addysg Gorfforol yn ddwyieithog erbyn hyn. 

I ychwanegu at y prosiect hwn a’i gefnogi, darparwyd dysgu proffesiynol yn y Gymraeg ar gyfer pob un o’r staff, a chymorth gan uwch gydweithwyr i wella’u hyder a’u defnydd o’r Gymraeg ar draws yr ysgol. Mae hyn yn helpu arweinwyr i yrru’r Gymraeg ymlaen ar draws yr ysgol.  

Mae gwaith y Cyngor Ysgol yn gryfder yn yr ysgol, a manteisiwyd ar hyn i wella datblygiad y dimensiwn Cymreig ymhellach. Yn ogystal â’r grwpiau llywio LHDTC+, Eco a Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol presennol sydd eisoes ar waith, cyflwynwyd grŵp llywio Dimensiwn Cymreig hefyd i alluogi disgyblion i gael effaith fwy arwyddocaol ar y modd y mae’r ysgol yn datblygu’r Gymraeg a ‘chynefin’ ar draws y cwricwlwm ac yng nghymuned ehangach yr ysgol. Mae’r disgyblion a gymerodd ran yng ngrŵp llywio’r Dimensiwn Cymreig wedi: 

  • Sefydlu clwb Cymraeg allgyrsiol sy’n cael ei drefnu a’i gynnal gan ddisgyblion Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 bob pythefnos  
  • Cyflwyno gwasanaethau ysgol gyfan i hyrwyddo’r Gymraeg a digwyddiadau Cymreig allweddol 
  • Cynllunio a chynnal gweithgareddau i nodi dathliadau digwyddiadau ysgol gyfan fel Dydd Shwmae, Dydd Santes Dwynwen a Dydd Gŵyl Dewi  

Ar ôl gwerthuso’r Gymraeg a ‘chynefin’ ar draws y cwricwlwm gan y ‘Gweithgor Dimensiwn Cymreig’, gwnaed cryn dipyn o waith i sicrhau bod y dysgu’n canolbwyntio ar themâu lleol a chenedlaethol sy’n ennyn diddordeb disgyblion, ac yn datblygu eu medrau ar draws y cwricwlwm.  

Mae’r cyfleoedd dysgu hyn wedi gwella’r ffordd y caiff y Gymraeg ei dirnad gan bob aelod o’r gymuned ddysgu ac wedi arwain at gyfleoedd pwrpasol i ddatblygu’r ymdeimlad o ‘gynefin’. Cynhelir nifer o weithgareddau ysgol gyfan cydlynus yn rheolaidd. Er enghraifft, sefydlwyd ‘Dydd Mercher Cymraeg’ wythnosol ar draws yr ysgol, lle mae tiwtoriaid dosbarth yn arwain gweithgaredd Cymraeg neu ddiwylliannol sy’n cael ei gynllunio i atgyfnerthu’r iaith a astudir gan ddisgyblion mewn gwersi Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth Gymraeg. Mae hyn hefyd yn gyfle i diwtoriaid dosbarth hyrwyddo ‘Brawddeg yr Wythnos’.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae faint o Gymraeg a ddefnyddir ar draws yr ysgol, nid yn unig mewn gwersi Addysg Gorfforol, wedi cynyddu’n sylweddol. Mae’n arfer gyffredin fod staff a disgyblion yn defnyddio’r Gymraeg ar draws yr ysgol fel rhan o gyfathrebu bob dydd. Ym mhob gwers, mae disgyblion yn gyfarwydd â derbyn ac ymateb i gyfarwyddiadau yn Gymraeg. 

Mae ymrwymiad yr ysgol i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion a’u hymdeimlad o ‘gynefin’ ar draws yr ysgol wedi cael effaith uniongyrchol ar sut mae disgyblion yn cyflawni yn y Gymraeg fel pwnc. Mae agweddau disgyblion at ddysgu wedi gwella, ac o ganlyniad, mae nifer y disgyblion sy’n cael gradd A*-C mewn Cymraeg ail iaith TGAU wedi mwy na dyblu ers i’r ysgol ymgymryd â’r gwaith hwn i ddechrau yn 2019. Yn ychwanegol, mae cyfran y disgyblion sy’n cyflawni gradd A*-A mewn Cymraeg ail iaith wedi gwella hefyd. Mae hyn o ganlyniad i’r disgwyliadau uchel sydd gan bob un o’r staff ynglŷn â’r Gymraeg ar draws yr ysgol, sydd wedi gwella statws y pwnc yn rhyfeddol y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth.