Datblygu darpariaeth effeithiol ar gyfer dysgu ieithoedd  - Estyn

Datblygu darpariaeth effeithiol ar gyfer dysgu ieithoedd 

Arfer effeithiol

Langstone Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Langstone wedi’i lleoli yn awdurdod lleol Casnewydd. Mae’n darparu addysg i 352 o ddisgyblion mewn ardal gefnog, gyda dim ond 3% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae staff a llywodraethwyr yn yr ysgol yn rhoi lles wrth wraidd ei gwaith, gan flaenoriaethu datblygu perthnasoedd gwaith sicr gyda disgyblion. Mae arweinwyr a staff yn creu amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol lle mae disgyblion yn ffynnu. Gweledigaeth yr ysgol yw bod yn sefydliad dysgu hynod effeithiol, sy’n canolbwyntio ar y plentyn, lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u herio i gyflawni eu dyheadau. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Gynradd Langstone wedi’i lleoli yn nwyrain Casnewydd. Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref a dim ond 2.4% sy’n siarad Saesneg fel ail iaith. Nod yr ysgol yw datblygu plant amlieithog sy’n dathlu ac yn ymfalchïo yn eu diwylliant a’u treftadaeth eu hunain, gan ddeall pwysigrwydd defnyddio’u medrau iaith mewn byd amrywiol, sy’n esblygu’n barhaus. Mae arweinwyr a staff yn cydnabod pwysigrwydd datblygu disgyblion fel dysgwyr iaith gydol oes. Mae hyn yn ganolog i’w gwaith ar ddatblygu disgyblion fel amlieithwyr, sy’n deall y berthynas rhwng ieithoedd. Mae disgyblion hefyd yn dechrau defnyddio medrau trawsieithu i gael at wybodaeth mewn un iaith ac ymateb mewn iaith wahanol. Mae ffocws parhaus a chyson ar greu ymagwedd ysgol gyfan at hyrwyddo medrau iaith, gan gynnwys Cymraeg, Ffrangeg a BSL.

Mae tîm Llythrennedd, iaith a chyfathrebu’r ysgol yn cynnwys tri aelod o staff addysgu amser llawn sy’n cymryd cyfrifoldeb am arwain a chefnogi datblygu ieithoedd, gan gynnwys darparu dysgu proffesiynol pwrpasol, monitro a gwerthuso addysgeg ac arfer, ac arwain grŵp Disgyblion Arloeswyr ‘Arwyr Iaith’, gyda chefnogaeth y Pennaeth a’r Dirprwy Bennaeth. Mae staff wedi elwa o gwrs Sabothol y Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gan wella’u gwybodaeth, eu medrau a’u hyder i helpu addysgu a dysgu yn Gymraeg ar draws yr ysgol.

Dyfarnwyd Gwobr Arian Cymraeg Campus i’r ysgol ym Medi 2022.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae cwricwlwm REAL (Rich, Experiential, Authentic Learning Experiences) Ysgol Gynradd Langstone a’i phrofiadau dysgu seiliedig ar brosiect yn ategu ei hymagwedd organig at addysgu a dysgu ieithoedd. Mae ymagwedd ‘ychydig, yn aml’ yr ysgol yn ennyn diddordeb disgyblion yn llwyddiannus. Mae athrawon yn cydnabod y cyfleoedd dilys sydd ar gael i drochi disgyblion mewn ieithoedd a’u galluogi i lunio cysylltiadau wrth ddysgu ieithoedd. Mae strategaethau’n cynnwys annog disgyblion i gymryd rhan mewn cofrestru mewn amrywiaeth o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg; defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i ategu iaith achlysurol sylfaenol h.y. cyfarchion yn y gwasanaeth, dweud ‘diolch’; dysgu caneuon yn Gymraeg neu gydag elfennau o BSL; ac ychwanegu Ffrangeg at adnoddau a ddefnyddir yn ystod gwersi. Caiff disgyblion eu hannog i awgrymu ychwanegiadau at y repertoire ac mae’r strategaethau hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu hamlygu’n barhaus i ieithoedd heblaw am Saesneg.

Dechreuodd taith amlieithog yr ysgol yn 2018, pan ddefnyddiodd staff ymchwil ac ymholi i archwilio ieithoedd rhyngwladol. I ddechrau, fe wnaeth hyn gynnwys diwrnod Darganfod a Gwneud, gyda staff yn treialu gwersi iaith mewn ychydig ddosbarthiadau. Gwerthusiad cynnar yr ysgol oedd bod disgyblion yn mwynhau dysgu iaith, ond bod angen dull cyson, ysgol gyfan, ar yr ysgol o wreiddio sgiliau ieithyddol. Cynhaliodd staff archwiliad i bennu lefelau hyder, graddau gwybodaeth am y pwnc a’r dysgu proffesiynol yr oedd ei angen i wella’r agwedd hon ar waith yr ysgol. Ar ôl nodi meysydd cryfder, a phrofiadau iaith disgyblion, penderfynodd staff barhau â’u taith, gan ddatblygu Ffrangeg yn y lle cyntaf.

Fe wnaeth cyfarfodydd rheolaidd staff Llythrennedd, iaith a chyfathrebu a chyfleoedd hyfforddi staff gynorthwyo’r ysgol i ganolbwyntio ar gyflawni addysgu a dysgu o ansawdd uchel mewn Saesneg gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgegol llwyddiannus ac adnoddau defnyddiol. Yn fwy diweddar, mae’r ysgol wedi canolbwyntio ei datblygiad proffesiynol ar addysgeg y Gymraeg, dan arweiniad athro profiadol a medrus. Mae athrawon wedi elwa o gymorth â chynllunio, dulliau addysgu, adnoddau difyr, gemau a gweithgareddau. O ganlyniad, mae gan ddisgyblion frwdfrydedd o’r newydd tuag at ddysgu Cymraeg. Cânt eu cyffroi gan gyfleoedd i ddysgu ieithoedd ac i ddatblygu fel cyfathrebwyr amlieithog.

Mae staff yn cefnogi dulliau’r ysgol yn frwd. Mae’r tîm Llythrennedd, iaith a chyfathrebu yn annog amlieithrwydd mewn cyfarfodydd staff ac yn rhannu adnoddau o lyfrgell ‘Routes into Languages’, gan gynnal ffocws clir ar gynnydd mewn llafaredd, darllen ac ysgrifennu Saesneg.

Ym Medi 2022, ymunodd disgybl meithrin ag amhariad ar y clyw â’r ysgol. Roedd hyn yn gyfle i ddatblygu medrau Iaith Arwyddion Prydain yr holl staff, gan sicrhau ymagwedd gyson at gyfathrebu’n effeithiol â holl aelodau teulu’r ysgol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae staff yn ymroi i hyrwyddo ieithoedd ac, o ganlyniad, mae disgyblion ar draws yr ysgol yn dangos diddordeb mawr mewn dysgu ieithoedd trwy gydol y diwrnod ysgol. Mae athrawon yn sicrhau bod cynllunio yn datblygu medrau’r disgyblion yn gynyddol. Mae disgyblion iau, er enghraifft, yn defnyddio geiriau, ymadroddion a chyfarchion Cymraeg a Ffrangeg syml. Mae disgyblion hŷn yn defnyddio geirfa ac ymadroddion mwyfwy soffistigedig yn eu dysgu trwy brosiectau. Mae athrawon yn cynllunio’n effeithiol i ddisgyblion ddysgu a gwella’u medrau mewn cyd-destunau dilys ac yn achlysurol, er enghraifft trwy orchmynion, cyfarwyddiadau ac adnoddau dysgu. Yn ddiweddar, yn ystod eu prosiect ‘To Infinity and Beyond’, mwynhaodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ymweliad â ‘Gorsaf Ofod Ryngwladol’ yr ysgol, lle cawsant gyfleoedd i feddwl yn gritigol, datgodio ymadroddion Ffrangeg i’r Saesneg, defnyddio codau QR i ddarganfod arwyddion BSL ac, yna, creu cyflwyniadau fideo i ddisgyblion eraill. Mae’r gweithgareddau hyn yn galluogi disgyblion i ddefnyddio’u medrau trawsieithu i ddatgodio ymadroddion ar lefelau gallu gwahanol. Mae disgyblion yn mwynhau cymhwyso’u gwybodaeth am eirfa i agweddau eraill ar eu dysgu. Er enghraifft, maent yn creu brawddegau am blanedau gwahanol yn Gymraeg, gan ddefnyddio bonion cyfarwydd i ddechrau eu brawddegau. Gydag amser, wrth i ddisgyblion sylwi ar eu geirfa a’u cystrawen eu hunain yn datblygu, mae eu hyder a’u brwdfrydedd yn tyfu.

Mae syniadau ac awgrymiadau gan ddisgyblion yn allweddol yn Langstone, ac maen nhw’n dylanwadu ar benderfyniadau yn rheolaidd. Newidiodd tîm y disgyblion arloeswyr eu henw o’r ‘Criw Cymraeg’ i’r ‘Arwyr Iaith’ i adlewyrchu natur amlieithog yr ysgol. Mae grŵp yr Arwyr Iaith yn cyfarfod â’r tîm Llythrennedd, iaith a chyfathrebu bob pythefnos ac yn cyfrannu at Gynllun Datblygu’r Ysgol. Maent yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu o gwmpas yr ysgol, yn arwain gwasanaethau ‘Siaradwch, Parlez, Speak’ i gyflwyno patrymau iaith ac arwyddion newydd, yn hyrwyddo iaith ac yn cefnogi gwasanaethau ‘Patrwm y mis’. Mae ‘Patrwm y mis’ yn darparu ymadrodd neu gwestiwn ac ateb Cymraeg â ffocws targedig, wedi’i wahaniaethu i ddisgyblion iau, er enghraifft Sut wyt ti? / Sut wyt ti’n teimlo?. Mae’r dull hwn yn aml yn cael ei gysylltu â BSL, gan annog disgyblion i ddod yn amlieithog.

Mae ffocws parhaus yr ysgol ar ddarparu datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel yn sicrhau bod staff yn gwella’u medrau. Mae hyn yn cynnwys amser am astudio hunangyfeiriedig. Mae staff yn defnyddio adnoddau ar-lein ac yn mynd i gyrsiau Cymraeg a BSL gyda’r nos i ddatblygu eu hyder a’u gwybodaeth am y pwnc. Mae ‘Paned a Sgwrs’ wythnosol yr ysgol yn rhoi cyfle i staff gyfarfod yn anffurfiol cyn yr ysgol i ymarfer eu Cymraeg. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar feithrin hyder staff wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae disgyblion yn cael at amrywiaeth o destunau Cymraeg a Ffrangeg yng Nghornel Darllen yr ystafell ddosbarth ac yn gyffredinol yn eu hadnoddau dysgu. Mae hyn yn cynnwys amlygiad i ieithoedd trwy adborth a marcio. Mae gwersi cerddoriaeth yn gyfle delfrydol i athrawon ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o eirfa gerddorol, gan gynnwys elfennau o eirfa Eidaleg (forte, piano, staccato, ac ati) a defnyddir termau fel allegro ac andante ar draws y cwricwlwm, er enghraifft wrth addysgu a dysgu gymnasteg a dawns.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi gweithio’n effeithiol i ennyn diddordeb rhieni, gan ddefnyddio strategaethau fel arwydd BSL yr wythnos, cyfarch rhieni yn Gymraeg, Ffrangeg a BSL ar ddechrau’r dydd, a digwyddiadau arddangos iaith trwy gydol y flwyddyn. Mae llywodraethwyr yn mynd i’r digwyddiadau hyn, hefyd.

Mae’r prosiectau ymchwil ac ymholi canlyniadol wedi cael eu rhannu ar draws y rhanbarth a’u cynnwys yn adnoddau iaith EAS. Mae elfennau allweddol o arfer yr ysgol wrth ddatblygu iaith wedi cael eu cynnwys yn Rhaglen Ddatblygu Uwch Arweinwyr. Fe wnaeth gweithio gydag ysgolion partner alluogi staff i rannu profiadau a datblygu eu dealltwriaeth o ddilyniant ar gyfer pob disgybl ar draws y clwstwr.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn