Datblygu cwricwlwm sy’n gwella medrau disgyblion a’u brwdfrydedd tuag at ddysgu - Estyn

Datblygu cwricwlwm sy’n gwella medrau disgyblion a’u brwdfrydedd tuag at ddysgu

Arfer effeithiol

Ysgol Beca


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Beca yn ysgol gynradd wledig cyfrwng Cymraeg ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Rhennir yr ysgol mewn i 3 dosbarth oed a gallu cymysg.  Addysgir y cyfnod sylfaen mewn un dosbarth ac addysgir cyfnod allweddol 2 fel un adran ond gyda 2 athro cymwysedig mewn ardal dysgu cynllun agored.  Tua 3% o’r disgyblion sydd yn derbyn prydiau ysgol am ddim ac mae’r Ysgol wedi adnabod tua 17% o’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae mwyafrif o’r disgyblion sydd yn mynychu’r ysgol yn dod o gartrefi lle mai Cymraeg yw iaith yr aelwyd.  Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng yr addysgu a dysgu.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers Ionawr 2009. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Trwy ei systemau monitro a sicrhau ansawdd, roedd yr arweinwyr wedi amlygu bod darparu cwricwlwm llawn a sicrhau ymrwymiad pob disgybl i’r dysgu yn anodd gan ystyried cyfyngder amser ac adnoddau dynol yr ysgol.  Yn dilyn cyhoeddiad o’r ddogfen Dyfodol Llwyddiannus ar gyfer sefydlu cwricwlwm newydd i Gymru, penderfynodd y staff addysgu bod angen addasu’r ddarpariaeth oedd ar gael ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2.  Mae darpariaeth y cyfnod sylfaen wedi ei wreiddio, a phenderfynodd yr arweinwyr fod angen sicrhau bod y gwaith effeithiol yma’n parhau trwy’r ysgol.  Mae adeilad Ysgol Beca wedi ei adeiladu ar strwythur cynllun agored ac o ganlyniad, yn benthyg ei hun yn dda at addysgu thematig mewn grwpiau bychain yn hytrach na dysgu torfol o fewn dosbarth cyfan.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ar ôl ystyried sefyllfa’r ysgol, aeth y staff ati i uno cyfnod allweddol 2 yn un dosbarth, sydd bellach cael ei addysgu gan ddau athro cymwysedig ac aelod o staff cynorthwyol.  Rhoddwyd y gorau i wersi traddodiadol a sefydlwyd cyfnodau dysgu thematig yn y prynhawn.  Cynlluniwyd rhaglen lle mae’r disgyblion yn derbyn pedair her i’w gwneud ar gyfnodau dewis rhydd, a dwy dasg annibynnol sydd wedi ei osod gan yr athro i’w gwblhau ar gyfnod penodedig a sesiynau ffocws.  Prif nod y sesiynau ffocws yw darparu cyfleodd i feithrin medrau rhif a llythrennedd trwy feysydd gwyddoniaeth a TGCH.  Mae’r gweithgareddau annibynnol a’r heriau yn seiliedig ar thema’r dosbarth, gan adolygu medrau rhif, llythrennedd neu TGCh sydd wedi eu cyflwyno i’r disgyblion yn ystod y gwersi mwy strwythuredig.  Bellach, mae’r dosbarth yn un ardal llawn bwrlwm dysgu, sy’n datblygu ystod eang iawn o fedrau o fewn amrediad y cwricwlwm.

Mae’r ysgol yn adnabod themâu penodol ar gyfer pob tymor.  Mae’r disgyblion yn rhan o gynllunio cynnwys y thema ac mae’r athrawon yn ystyried y cynnwys a’r amrediad sydd wedi cael ei addysgu yn ystod y tymor yn ofalus.  O ganlyniad, mae’r staff yn adnabod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth a chynllunio’n fwriadus i sicrhau bod y disgyblion yn derbyn cwricwlwm cyflawn.  Mae’r staff yn cynllunio er mwyn sicrhau bod cyfnodau lle mae rhan o’r addysgu yn yr awyr agored gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael i’r ysgol.  Mae cynlluniau penodol ar gyfer mathemateg ac iaith, ond mae’r cyfnodau thematig yn agored i drywydd y dysgwyr a’r staff, cyhyd eu bod yn adolygu sgiliau sydd wedi eu cyflwyno iddynt yn y gwersi iaith a mathemateg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r ddarpariaeth hyn, mae ymrwymiad y disgyblion i’w dysgu wedi datblygu i lefelau uchel iawn.  Maent yn awyddus i gwblhau tasgau i lefelau rhagorol ac yn cymryd balchder a pherchnogaeth o’u gwaith gan eu bod yn rhan o’i gynllunio.  Mae’r disgyblion yn mwynhau’n fawr y cyfle i gael yr elfen o ddewis yn eu haddysg.  Maent yn mwynhau’r heriau ac yn cael ymdeimlad o lwyddiant gan eu bod yn adolygu sgiliau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt mewn cyd-destun amrywiol.

Barn y dysgwyr am y strwythur newydd a’r cwricwlwm arloesol a ddarperir, yw ei fod yn llwyddiannus iawn.  Maent yn mwynhau’n fawr y ffaith eu bod yn cael dewis ac yn gweld budd o gael sesiynau ffocws, gan deimlo fod yr athrawon yn medru eu herio a’u cefnogi yn effeithiol iawn.

Mae’r safonau a welir yn llyfrau’r disgyblion wedi gwella’n sylweddol ar hyd yr amrediad galluoedd sydd yn y dosbarth.  Mae canlyniadau’r profion safonol yn dangos bod eu sgiliau rhif a llythrennedd wedi datblygu’n llwyddiannus iawn o dan y ddarpariaeth newydd.  Er nad oed disgyblaeth yn broblem yn yr ysgol, mae lefel o frwdfrydedd a pharch tuag at ddysgu hefyd wedi gwella.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harferion gyda’r llywodraethwyr a rhieni trwy gylchlythyron a chyfarfodydd penodol.  Bydd yr ysgol yn mynd ati nesaf i gofrestru’r arfer dda yma ar wefan ERW trwy lwyfan Dolen.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn