Datblygu cwricwlwm hyblyg

Arfer effeithiol

Cwmtawe Community School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn ysgol 11-16 yng Nghastell-nedd Port Talbot, sy’n gwasanaethu rhan isaf Cwm Tawe.  Daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o Bontardawe a’r ardal gyfagos, ac mae tua 50% yn dewis mynychu’r ysgol o’r tu allan i’r dalgylch arferol.  Mae 1,232 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae gan yr ysgol ddwy uned addysgu arbenigol ar y safle, sef un i ddysgwyr dyslecsig a’r llall yn arbenigo mewn anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

Mae 17.4% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae 40% o ddisgyblion ar gofrestr anghenion addysgol arbennig yr ysgol, ac mae gan tua 4% ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Daw tua 5% o ddisgyblion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a daw ychydig iawn o ddisgyblion o gartrefi lle nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.  Mae tua 14% o ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae’r tîm arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth, a benodwyd yn 2014, dau ddirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol a rheolwr busnes.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu gorchmynion cynyddol ar amser y cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 4 gyda chyflwyno’r TGAU mathemateg rhifedd a Bagloriaeth Cymru.  Mae’r holl ddisgyblion yn astudio TGAU craidd mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg, mathemateg, mathemateg rhifedd, gwyddoniaeth ddwbl, Cymraeg, astudiaethau crefyddol a thystysgrif yr her sgiliau.  Er bod y pynciau craidd hyn yn hanfodol ac yn galluogi disgyblion i fanteisio ar naw cymhwyster TGAU, maent wedi arwain at leihau strwythur opsiynau’r ysgol o bump i dri dewis.  Roedd staff yn poeni am gyfyngu ar opsiynau disgyblion a’r posibilrwydd o ymyleiddio rhai pynciau, felly fe wnaethant fynegi’r dymuniad i weithio’n greadigol i ddarparu cwricwlwm ehangach. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Bob mis Ionawr, mae’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth sy’n gyfrifol am y cwricwlwm yn cyfarfod â rhieni/gofalwyr a disgyblion i esbonio’r broses opsiynau.  Mae disgyblion yn llenwi pôl gwelltyn yn dangos y pynciau y mae ganddynt ddiddordeb mewn eu hastudio.  Yna, caiff y data hwn ei ddefnyddio i lunio strwythur yr opsiynau a chreu’r hyblygrwydd i ddisgyblion newid eu dewisiadau’n ddiweddarach.  Caiff strwythur opsiynau â dwy haen ei lunio ar gyfer galluoedd gwahanol, sy’n galluogi pob dysgwr i fanteisio ar ystod eang o gyrsiau priodol.

Yn y cyfnod yn arwain at y pôl gwelltyn, mae ymgynghorydd gyrfaoedd yr ysgol yn cynnal gweithdai gyrfaoedd i helpu disgyblion i wneud dewisiadau gwybodus.  Ychwanegwyd gwers fugeiliol ychwanegol at gwricwlwm Blwyddyn 9 i hwyluso hyn a blaenoriaethu’r byd gwaith.  Mae tîm staff yn cyfarfod â disgyblion i roi cymorth ac arweiniad â’u dewisiadau.  Mae staff yn defnyddio data’r tri adolygiad perfformiad diwethaf i sicrhau bod disgyblion yn dewis cyrsiau priodol yn ôl eu cryfderau a’u llwybrau gyrfa posibl. 

Ar ôl cydnabod cyfyngiadau tri opsiwn, mae staff wedi arwain arloesi’r cwricwlwm yn llawn trwy alluogi dysgwyr i ddewis dau bwnc o un llinell opsiynau.  Gall disgyblion astudio peirianneg ym Mlwyddyn 10 ac yna dewis dylunio cynnyrch ym Mlwyddyn 11; maent yn astudio celf a dylunio ym Mlwyddyn 10 cyn dewis cyfathrebu graffig, celfyddyd gain neu ffotograffiaeth ym Mlwyddyn 11.  Gall ieithyddion dawnus astudio dwy iaith dramor fodern o fewn un opsiwn.  Mae staff yn rhoi o’u hamser o’u gwirfodd y tu allan i oriau’r ysgol i gynorthwyo disgyblion sy’n astudio’r cymwysterau ychwanegol hyn.

Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos â’r coleg lleol i gynnig rhaglenni sydd wedi’u teilwra yn ôl anghenion disgyblion, ac yn darparu cymwysterau mewn gwallt a harddwch, mathemateg ychwanegol a cherbydau modur.  Mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn manteisio ar gyrsiau adeiladu mewn ysgol arbenigol gyfagos.  Ym Mlwyddyn 9, mae’r rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio yn gweithio â phrosiect cymunedol lleol i ennill cymhwyster level 2 mewn Addysg Gysylltiedig â Gwaith. 

Ar ôl i’r opsiynau gael eu dewis, caiff amserlen newydd ei llunio’n barod i Flwyddyn 9 bontio i Flwyddyn 10 ar ôl hanner tymor mis Mai.  Mae’r amser ychwanegol hwn yn galluogi disgyblion i gael blas ar eu hopsiynau a gwneud unrhyw newidiadau cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn dwyn perchenogaeth ac yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn creu’r strwythur opsiynau trwy’r broses pôl gwelltyn.  Cânt eu hannog i ymchwilio i gyrsiau priodol yn gynnar yn y broses, ystyried llwybrau gyrfa posibl a manteisio’n llawn ar arbenigedd ymgynghorydd gyrfaoedd yr ysgol.  Maent yn ymgysylltu â’u dysgu ac yn manteisio ar ystod o gyrsiau sy’n briodol i’w hanghenion a’u diddordebau.  Mae strwythur arloesol y cwricwlwm yn sicrhau bod yr ysgol yn mynd yn groes i dueddiadau cenedlaethol – mae’r nifer sy’n dewis ieithoedd tramor modern yn gryf ac mae gwyddoniaeth driphlyg yn ffynnu o hyd.  Oherwydd galw’r pôl gwelltyn eleni, mae gwyddoniaeth driphlyg yn cael ei chynnig ar draws y tri opsiwn.  Gall pob un o’r dysgwyr, gan gynnwys rhai mwy abl a thalentog, y rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, fanteisio ar gwricwlwm creadigol a hyblyg sydd wedi’i deilwra i fodloni eu hanghenion unigol.  Mae pob un o’r ffactorau hyn yn cyfrannu at ddeilliannau perfformiad cryf iawn yng nghyfnod allweddol 4 i ddisgyblion o bob gallu.     

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei chwricwlwm arloesol â’r awdurdod lleol a’r consortiwm rhanbarthol. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn