Datblygu cwricwlwm cyfoethog ac addysgu effeithiol sy’n diwallu anghenion yr holl ddysgwyr ac yn hyrwyddo agweddau cryf at ddysgus and promotes strong attitudes to learning - Estyn

Datblygu cwricwlwm cyfoethog ac addysgu effeithiol sy’n diwallu anghenion yr holl ddysgwyr ac yn hyrwyddo agweddau cryf at ddysgus and promotes strong attitudes to learning

Arfer effeithiol

Ysgol Caer Drewyn


Gwybodaeth am yr ysgol

Ffedereiddiodd Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog yn 2012, ac mae’r pennaeth yn rhannu ei hamser arwain rhwng y ddwy ysgol. Mae Ysgol Caer Drewyn yn ysgol gynradd fach sirol yn nhref wledig Corwen. Mae’n darparu addysg ar gyfer 99 o ddysgwyr rhwng tair ac un ar ddeg oed, ar draws 4 dosbarth. Y cyfartaledd 3 blynedd treigl ar gyfer PYDd yw 37%, ond y ganran bresennol wirioneddol yw 49%. Mae Ysgol Carrog yn ysgol gynradd fach sirol sydd wedi’i lleoli ym mhentref gwledig Carrog. Mae’n darparu addysg ar gyfer 35 o ddysgwyr rhwng tair ac un ar ddeg oed, ar draws 2 ddosbarth. Y cyfartaledd 3 blynedd treigl ar gyfer PYDd yw 11%, ond y ganran bresennol wirioneddol yw 30%.

Pan fyddant yn dechrau yn yr ysgolion, mae medrau sylfaenol llawer o ddisgyblion islaw’r hyn sy’n ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran. Yn ystod eu cyfnod yn yr ysgolion, mae bron pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud cynnydd cryf.

Mae gan y ffederasiwn weledigaeth glir, sy’n canolbwyntio ar sicrhau amgylchedd gofalgar ac anogol lle caiff disgyblion y cyfleoedd gorau i ddysgu. Mae’r gwerthoedd cryf, sy’n cynnwys caredigrwydd, chwilfrydedd a chreadigrwydd, i’w gweld yn glir yn y ddwy ysgol, ac yn ffurfio sylfaen y perthnasoedd cryf a chefnogol sy’n bodoli ym mhob ystafell ddosbarth. Datblygu agweddau cryf at ddysgu, parch at bobl eraill a chefnogi lles disgyblion a staff sydd wrth wraidd gweledigaeth a gwerthoedd y ffederasiwn.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ôl ystyried y cyd-destun yng ngwaith yr ysgolion, penderfynon nhw nad oedd yr arddull addysgu bresennol sy’n fwy traddodiadol wedi bod yn ddigon effeithiol ac nad oedd bob amser yn diwallu anghenion disgyblion. Gyda’i gilydd, penderfynodd yr ysgolion addasu eu dulliau. Cyn y Cwricwlwm i Gymru, mabwysiadon nhw addysgeg dysgu sylfaen yn llwyddiannus ar draws dosbarthiadau cyfnod allweddol 2, a chyflwyno heriau trawsgwricwlaidd ochr yn ochr ag amgylcheddau dysgu ysgogol a phwrpasol ar gyfer yr holl ddisgyblion. Mae cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ers hynny wedi eu galluogi i fod yn fwy hyblyg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae addysgu a dysgu effeithiol ar y cyd â chwricwlwm cyfoethog, pwrpasol ac amrywiol yn sicrhau bod gan ddysgwyr ddiddordeb yn eu gwaith, ac yn gweithio’n dda yn annibynnol a gyda chyfoedion i gwblhau eu heriau. Mae hyn yn helpu meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a medrau effeithiol i ddysgu’n annibynnol. Caiff disgyblion gyfleoedd pwrpasol i ymarfer eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn dda trwy dasgau a phrofiadau dysgu cyfoethog; fel gwersi coginio a ddefnyddir yn rheolaidd i ymarfer y medrau hyn a hyrwyddo bwyta’n iach.

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer dysgu sylfaen wedi’i seilio ar ystod eang o weithgareddau dysgu a chwarae cyfoethog sy’n datblygu annibyniaeth a medrau cydweithredol disgyblion yn dda.

Mae athrawon yn cynllunio ystod eang o brofiadau dysgu dilys i ddatblygu eu medrau ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys defnydd effeithiol o’r ardaloedd awyr agored. Mae disgyblion yn cyfrannu’n dda at gynllunio testunau bob tymor trwy awgrymu beth maent eisiau ei ddysgu. O ganlyniad, mae’r profiadau dysgu annibynnol neu ‘genadaethau’ yn canolbwyntio’n dda ar alluogi disgyblion i gymhwyso’u medrau mewn cyd-destunau difyr a heriol. Yn ychwanegol, mae disgyblion yn dewis y gweithgaredd ar y lefel her y maent yn ei hystyried yn briodol iddyn nhw, sy’n datblygu eu hannibyniaeth yn llwyddiannus. Caiff disgyblion gyfle hefyd i gynllunio a chyflwyno’u gwersi eu hunain yn unol â’r testun ac ystyried y medrau y dylid eu cymhwyso.

Mae athrawon yn addasu eu haddysgu yn eithriadol o dda i ddiwallu anghenion yr holl ddysgwyr. Gwnânt ddefnydd medrus o weithgareddau byr, sydyn ac ymarferol yn bennaf, sy’n sicrhau bod disgyblion yn aros yn egnïol, yn ymgysylltu trwy gydol y sesiynau ac yn gwneud cynnydd da. Gyda’i gilydd, mae pob un o’r staff yn gosod disgwyliadau uchel, gan wneud defnydd effeithiol o grwpiau a holi i roi’r cymorth angenrheidiol i ddisgyblion i lwyddo a herio’u hunain yn effeithiol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

O ganlyniad i addasu’r arddull addysgu hon a’r cwricwlwm, mae dysgwyr wedi gwella’u hyder a’u hannibyniaeth, gan wella’u hagweddau at eu dysgu a’u hymatebion ymholgar. Mae gan bob un o’r staff ddisgwyliadau a dyheadau uchel i ddisgyblion gyflawni’r gorau y gallant fod ac mae hyn yn eu galluogi i drosglwyddo’u medrau yn llwyddiannus ar draws y cwricwlwm. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymateb yn dda iawn i wahanol heriau, sy’n eu galluogi i gydweithio â’u cyfoedion a datblygu hunanhyder.