Datblygu Cwricwlwm Creadigol - Estyn

Datblygu Cwricwlwm Creadigol

Arfer effeithiol

Y Bont Faen Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol / darparwr

Mae Ysgol Y Bont-faen yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg sydd ag un dosbarth ym mhob grŵp blwyddyn, ac wedi’i lleoli yn nhref Y Bont-faen ym Mro Morgannwg.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae cynllunio a datblygu cwricwlwm pwrpasol yn seiliedig ar ymholi wedi bod wrth wraidd dysgu proffesiynol yn Ysgol Gynradd Y Bont Faen ers cyflwyno Cwricwlwm i Gymru. Mae creadigrwydd wedi bod yn sbardun wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol i sicrhau bod disgyblion yn profi ac yn datblygu cyfoeth o fedrau creadigol yn seiliedig ar Olwyn Arferion Creadigol y Meddwl (Spencer, Lucas a Claxton, 2012).

Er mwyn helpu disgyblion i ddatblygu i fod yn feddylwyr creadigol sydd â lefel uchel o fedrau yn y celfyddydau creadigol, mae’r ysgol wedi ymgysylltu’n llwyddiannus â Chynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru. Er y bu ffocws pob prosiect yn wahanol, mae’r bwriad i ddatblygu, gweithredu a mireinio addysgeg greadigol fel staff cyfan wedi aros yn ganolbwynt i ddysgu proffesiynol yr ysgol, ac wedi bod yn flaenoriaeth ar gyfer gwella’r ysgol.

Fel rhan o wella medrau creadigol disgyblion, canolbwyntiodd yr ysgol ar ddysgu proffesiynol wedi’i lywio gan dystiolaeth ar gyfer pob un o’r staff ar fetawybyddiaeth a hunanreoleiddio. Cynorthwyodd y dull hwn yr ysgol i ddatblygu iaith gyffredin y mae staff a disgyblion yn ei defnyddio i siarad am eu dysgu, a defnyddio offer a strategaethau cyffredin i wneud meddwl yn weladwy. Er enghraifft, mae defnyddio fframiau meddwl ar draws yr ysgol yn cynorthwyo disgyblion i fod yn ymwybodol o’u prosesau meddwl, siarad am eu dysgu a gofyn cwestiynau myfyriol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch a gafodd ei nodi yn arfer effeithiol neu arloesol

Ar ddechrau proses cynllunio’r cwricwlwm, pennodd yr ysgol y dylai creadigrwydd o bob math ategu ei ‘Chwricwlwm Ysbrydoli’ (‘Inspire Curriculum’). Ar yr adeg hon, bu’r ysgol yn archwilio cyfleoedd i adeiladu ar gyfoeth y medrau creadigol ymhlith y staff ac yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol pellach, fel ymgysylltu â chynllun Yr Ysgol Arweiniol a datblygu medrau staff mewn gwella gallu disgyblion fel dysgwyr annibynnol a hunanymwybodol. Un o gryfderau proses cynllunio’r cwricwlwm yw cynllunio ymholiadau dosbarth gan yr ysgol gyfan o dan dri thestun ymbarél gan ddefnyddio dogfennau dilyniant wedi’u creu gan y clwstwr. Y diwrnodau cynllunio hyn oedd y camau cyntaf mewn datblygu cwricwlwm sy’n sicrhau bod gwybodaeth a medrau yn datblygu’n olynol.

Trwy gynllunio ymholiadau tymhorol gan yr ysgol gyfan, mae athrawon wedi datblygu profiadau dysgu sy’n datblygu gwybodaeth disgyblion am ddiwylliant, celfyddydau a threftadaeth Cymru, a dealltwriaeth disgyblion o amrywiaeth ledled y byd.

Galluogodd y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i bob aelod o staff weithio gydag ymarferwr creadigol, datblygu eu medrau, a meithrin ymagwedd greadigol at addysgu medrau a gwybodaeth ar draws y cwricwlwm. Datblygwyd hyn ymhellach trwy sesiynau hyfforddi ysgol gyfan yn gysylltiedig â thueddiadau Cyngor Celfyddydau Cymru, ‘Olwyn Arferion Creadigol y Meddwl’. Galluogodd y sesiynau hyfforddi hyn i staff ddatblygu medrau yn ymwneud â phob prosiect hefyd, er enghraifft printio sgrin, ffeltio, celf amgylcheddol, drama, ysgrifennu caneuon a chreu ffilmiau. Er enghraifft, bu disgyblion ym Mlwyddyn 2 yn gweithio gydag arlunydd tecstilau i ddatblygu eu medrau llythrennedd a llafaredd, tra’n gwella’u lles, codi ymwybyddiaeth am fwlio ac yn archwilio neges wrthfwlio’r ysgol, hefyd. Arddangoswyd hyn mewn oriel ym Mae Caerdydd am nifer o wythnosau.

Er mwyn cynorthwyo disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol, datblygodd yr ysgol ardaloedd her ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 3 i Flwyddyn 6. Mae’r ardaloedd hyn yn galluogi disgyblion i gymhwyso’u medrau meddwl a chreadigol mewn gwahanol gyd-destunau. Er enghraifft, creu cwestiynau ‘beth os….’, dylunio a chreu cynhyrchion o wahanol ddeunyddiau ac ysgrifennu’n ddychmygus gan ddefnyddio gwahanol symbyliadau. Caiff y gweithgareddau hyn effaith fuddiol ar fedrau, gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r mentrau hyn, mae disgyblion yn cyflwyno’u hunain yn hyderus ac yn fynegiannol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac i wahanol gynulleidfaoedd. Mae disgyblion hŷn yn aml yn siarad yn huawdl gan ddefnyddio geirfa gymhleth ac iaith soffistigedig gyda lefel uchel o hyder. Mae disgyblion yn cydweithio’n effeithiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, er enghraifft trwy chwarae a choreograffu a pherfformio dawnsiau. O ganlyniad i ystod eang o brofiadau ysgogol, mae llawer o ddisgyblion yn cynhyrchu gwaith dychmygus o ansawdd uchel mewn celf, dawns ac ysgrifennu, gan gynnwys wrth ddefnyddio’r amgylchedd awyr agored. Mae datblygu llais disgybl cryf wedi galluogi disgyblion i wneud dewisiadau annibynnol, creadigol ac amrywiol yn y ffordd y maent yn cyflwyno’u dysgu. Mae disgyblion yn deall ac yn gwerthfawrogi’r broses greadigol ac yn defnyddio ystod o dechnegau i fireinio’u dysgu. Fel rhan o’r broses ymholi, mae disgyblion yn datblygu a dyfnhau eu medrau meddwl yn feirniadol, gan gymhwyso’r rhain i brofiadau dysgu bywyd go iawn dilys lle maent yn gwneud penderfyniadau defnyddiol am eu dysgu. Mae’r profiadau hyn yn cynorthwyo disgyblion i fod yn ddysgwyr gwydn sy’n cymhwyso strategaethau datrys problemau yn hyderus.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd arfer dda trwy nifer o ffyrdd. Cyflwynwyd canlyniad y prosiectau mewn digwyddiad rhannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru gan yr aelodau staff sy’n llywio’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae’r ysgol wedi cydweithio â dwy o ysgolion eraill y clwstwr i ddatblygu medrau meddwl disgyblion. Mae hyn wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr i rannu, ymestyn ac ymgorffori arfer dda o fewn ein hysgol ac ymhlith y clwstwr.