Datblygu cwricwlwm awyr agored yn barod ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru sy’n datblygu gwybodaeth a medrau disgyblion, ynghyd â chefnogi eu lles

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Llangefni


Information about the schooGwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Llangefni yn ysgol uwchradd ddwyieithog i ddisgyblion 11 i 18 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Ynys Môn. Lleolir yr ysgol yn nhref Llangefni yng nghanol Ynys Môn ac mae’n ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf. 

Mae 719 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 91 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Mae 78.5% yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw rhyw 18.9%, ar gyfartaledd. Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol parhaol a dau bennaeth cynorthwyol dros dro.
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

A hithau’n ysgol arloesi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, mae’r ysgol wedi cymryd rhan yn y paratoadau ar gyfer cyflwyno fframwaith newydd y cwricwlwm ers y dechrau. Mae’r ysgol wedi bod yn dylunio, gweithredu a mireinio model ei chwricwlwm Blwyddyn 7 dros gyfnod estynedig i sicrhau ei fod yn bodloni anghenion disgyblion, yn mynd i’r afael â gofynion y fframwaith, ac yn sicrhau bod y pedwar diben yn cael eu gwireddu.  

Rhan arwyddocaol o’r paratoadau hyn fu datblygu cwricwlwm awyr agored Blwyddyn 7. Mae’r ysgol yn ffodus ei bod yn sefyll ar ryw 20 erw o dir, gan gynnwys darn o dir segur a fu unwaith yn gae pêl-droed tuag un erw. Yn dilyn cyfnodau clo, ynghyd â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, nododd arweinwyr fod angen rhoi cyfle i’r disgyblion ddilyn cwricwlwm lleol lle y mae astudio yn yr awyr agored yn rhan annatod o’r ddarpariaeth i ddisgyblion Blwyddyn 7.  

O dan faes dysgu a phrofiad iechyd a lles, mae’r ysgol wedi creu model o gwricwlwm sy’n cynnwys gwersi addysg gorfforol, addysg awyr agored, iechyd, lles a garddio. Y cyfleoedd hyn sydd wedi arwain at ystod fwyfwy eang o brofiadau cwricwlaidd sydd wedi ehangu gorwelion disgyblion trwy gwricwlwm sy’n gosod eu hanghenion yn ganolog i’w dysgu.  
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Trwy weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a warden yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Leol, mae’r ardd wedi datblygu’n adnodd pwysig i’r ysgol. Mae trefn yr ardd yn seiliedig ar ddyluniad gan grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 o’r flwyddyn academaidd gynt, a gymerodd ran mewn cystadleuaeth i greu dyluniad yr ardd gymunedol. Yna, dewiswyd y dyluniad buddugol gan brif ddisgyblion yr ysgol ac mae’r ardd bellach yn ymsefydlu ar sail y dyluniad hwnnw. Mae’r ardd yn cynnwys dros erw o dir ac mae wedi’i threfnu mewn ardaloedd penodol: ardal dyfu, ardal gardd synhwyraidd, ardal dôl, ardal bywyd gwyllt a micro fforest, lle mae’r disgyblion wedi plannu dros 500 o goed. Mae’r holl waith a wnaed hyd yn hyn wedi’i gwblhau gan y disgyblion eu hunain ac mae’n gwbl hygyrch i bawb, gan gynnwys ardal â gwelyau uchel sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae’r cwricwlwm wedi’i fapio’n ofalus i sicrhau bod disgyblion yn cynyddu’u gwybodaeth ac yn datblygu medrau perthnasol tra byddant yn cymryd rhan yn eu gwers arddio wythnosol. Mae’r gwersi’n cyflwyno disgyblion i arddio ac yn caniatáu cyfle i ddatblygu medrau ymarferol. Mae disgyblion sy’n meddu eisoes ar rywfaint o wybodaeth a phrofiad o arddio o’r ysgol gynradd neu gartref yn cael rolau blaenllaw yn y gwaith i’w gwblhau. Mae hyn wedi bod yn arbennig o effeithiol i’r disgyblion hynny sy’n ei chael hi’n anodd yn yr ystafell ddosbarth ond sy’n cael cyfle i ddisgleirio yn y gwersi awyr agored. Mae’r gwersi’n dechrau gyda chyflwyniad i’r offer gwahanol a ddefnyddir i arddio a thechnegau sylfaenol ar gyfer plannu a gofalu am blanhigion. Yna, mae’r myfyrwyr yn symud ymlaen i blannu, gofalu am eu cnydau eu hunain, a’u cynaeafu. Cânt eu hannog i gydweithio fel tîm ac i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau.  

Mae’r gwersi garddio’n ffordd fuddiol i’r disgyblion ddysgu am hanfodion garddio a garddwriaeth. Trwy weithgareddau a hyfforddiant ymarferol, mae’r disgyblion yn dysgu amrywiaeth o fedrau, o adnabod a gofalu am blanhigion i brofi’r pridd a chompostio. Mewn gwers arddio nodweddiadol, mae disgyblion yn dechrau trwy ddysgu am y gwahanol blanhigion a’u hanghenion, fel gofynion am heulwen a phridd. Ar ôl dysgu am yr hanfodion, mae disgyblion wedyn yn symud ymlaen i bynciau mwy datblygedig, fel tocio, plannu a chynaeafu. Yn ogystal â dysgu’r agweddau technegol ar arddio, mae disgyblion hefyd yn ennill gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae planhigion yn rhyngweithio â’u hamgylchedd. Maent yn dysgu sut i adnabod pryfed buddiol, ynghyd â sut i ddelio â phlâu. Hefyd, mae disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd cadwraeth dŵr a sut i greu gerddi cynaliadwy. 

Rhan o’r cytundeb ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yw bod yr ardd yn anelu at fod yn garbon niwtral, sy’n golygu bod y disgyblion wedi bod yn dysgu am effaith y newid yn yr hinsawdd a sut i fyw’n gynaliadwy a ‘lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu’, lle y bo’n bosibl. Mae’r esgidiau glaw y mae’r disgyblion yn eu gwisgo yn ystod pob gwers yn rhai ail-law ac fe’u rhoddwyd gan rieni/gwarcheidwaid a phobl o’r gymuned leol. Yn unol â’r nod o fod yn garbon niwtral, crëwyd llwybr yr ardd gan ddefnyddio graean yn lle tarmac ac mae’r pridd a symudwyd wedi’i ailddefnyddio at ddiben plannu. Mae disgyblion wedi creu gwelyau plannu o deiars ac mae blychau adar a blychau bwydo adar a wnaed gartref wedi’u gosod o gwmpas yr ardd, y mae’r disgyblion yn gofalu amdanynt. 

Mae gwersi garddio’n digwydd boed law neu hindda gan fod cynlluniau dysgu ar waith ar gyfer diwrnodau ‘tywydd gwlyb’ hefyd. Mae disgyblion yn cael cyfle i ddatblygu’u medrau trawsgwricwlaidd yn ystod gwersi dan do sy’n canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, pan fyddant yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys ymchwil i gnydau, datblygu geirfa, llythrennedd ariannol a phlannu dan do. Mae disgyblion wedi plannu blodau i fynd â nhw gartref i’w teulu a rhoddodd yr ysgol goeden i bob teulu Blwyddyn 7 ei phlannu yn eu gardd eu hunain, gan greu cysylltiadau teuluol cadarn gan fod y disgyblion yn awyddus i rannu’r hyn y buont yn ei wneud yn yr ysgol.

Gan fod yr ardd yn adnodd sy’n esblygu drwy’r amser yn yr ysgol, mae cynllunio at y dyfodol yn cynnwys integreiddio a gwreiddio garddio ymhellach yng nghwricwlwm yr ysgol. Mae arweinwyr yn awyddus i grwpiau blwyddyn eraill gael y cyfleoedd a gafodd disgyblion Blwyddyn 7. Bydd ardal yr ardd synhwyraidd yn cefnogi lles ac iechyd meddwl disgyblion, ynghyd â chynnig cyfleoedd cwricwlaidd pwrpasol i’r disgyblion hynny a fyddai’n elwa’n enfawr o dreulio amser yn yr awyr agored, ym myd natur. Er mwyn hwyluso hyn, mae’r cynlluniau’n cynnwys creu mwy o welyau uchel a thyfu amrywiaeth ehangach o blanhigion a llysiau, ynghyd â chyflwyno rhaglenni addysgol fel cylchdroi cnydau, tyfu mewn twneli polythen a chompostio. Bydd yr ardd yn lle i ddisgyblion ddysgu am dwf planhigion a phwysigrwydd amaeth gynaliadwy. Bydd yr ardd yn cael ei defnyddio hefyd i addysgu’r disgyblion am faeth a gwyddor bwyd.  
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ardd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth a safonau disgyblion yn yr ysgol. Mae’r ardd wedi darparu man dysgu creadigol i ddisgyblion archwilio a darganfod cysyniadau, syniadau a gwybodaeth newydd. Hefyd, mae wedi galluogi disgyblion i ddatblygu’u medrau cyfathrebu a chydweithredu wrth iddynt gydweithio yn yr ardd. Yn ogystal, mae’r ardd wedi rhoi lle i ddisgyblion fod y tu allan a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar les meddyliol a chorfforol y disgyblion.  At hynny, mae’r ardd wedi galluogi disgyblion i gysylltu â natur, sy’n gallu gwella canolbwyntio, perfformiad academaidd ac iechyd corfforol cyffredinol disgyblion, fel y mae ymchwil yn ei ddangos. 

Mae’r disgyblion yn ymddiddori’n fawr yn y gwersi garddio. Maent wedi’u cymell i ddysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel plannu hadau a llysiau, chwynnu a dyfrhau. Maent wedi datblygu ymdeimlad o falchder a llwyddiant trwy wylio’u planhigion yn tyfu a ffynnu, ynghyd â gweld yr ardd yn dod at ei gilydd. Mae gwersi garddio hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddysgu am yr amgylchedd, natur a phwysigrwydd cynaliadwyedd. Mae’r gwersi garddio wedi helpu disgyblion i ddatblygu’u medrau datrys problemau a gweithio mewn tîm, ynghyd â’u hamynedd, eu gwydnwch a’u hunanddisgyblaeth. Trwy weithio i greu’r ardd, mae’r disgyblion wedi dysgu cydweithredu a gwerthfawrogant bwysigrwydd cydweithio i gyflawni nod cyffredin. 
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru sydd wedi hyrwyddo’r gwaith a wnaed gan y disgyblion yn ystod diwrnodau agored a digwyddiadau lleol. Bydd yr ysgol yn cynnal diwrnod agored i’r gymuned, gan wahodd y gymuned leol yno. Y bwriad yw ymgysylltu â’r gymuned a’u hannog i weithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yng ngardd yr ysgol ar benwythnosau. Hefyd, mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda’i hysgolion cynradd partner i gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddod i’r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ardd. Ar hyn o bryd, mae disgyblion Blwyddyn 6 ag ADY wedi bod yn dod i wersi garddio Blwyddyn 7 i ymgyfarwyddo â’r ysgol, gan roi cyfle iddynt oresgyn unrhyw ofnau trwy dreulio amser gyda staff a disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni yng ngofod diogel gardd gymunedol yr ysgol. 
 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn