Datblygu arweinwyr y dyfodol ym myd addysgu trwy arlwy dysgu proffesiynol cryf a chynllunio olyniaeth effeithiol

Arfer effeithiol

Rhondda Cynon Taf County Borough Council


Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r awdurdod lleol yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol staff yr awdurdod lleol ac ysgolion yn dda. Mae wedi ymrwymo i ‘dyfu ei arweinwyr ei hun’ i gefnogi cynllunio olyniaeth a gwella. Er mwyn ymateb i heriau o ran recriwtio penaethiaid ysgol ac uwch arweinwyr o ansawdd uchel, mae’r awdurdod lleol wedi sefydlu Rhaglen Darpar Arweinwyr hynod effeithiol. Modelwyd hyn ar raglen bresennol i uwch arweinwyr ar gyfer staff y cyngor, a oedd wedi’i llywio gan ymchwil ac a oedd yn canolbwyntio’n glir ar arweinyddiaeth ymarferol. Mae’r rhaglen hon wedi helpu i sbarduno datblygiad personol a phroffesiynol a datblygu arweinwyr y dyfodol ar gyfer ysgolion yn RhCT.

Mae’r awdurdod lleol hefyd yn gwneud defnydd cryf o raglenni prentisiaeth a graddedigion i ddatblygu gweithlu tra medrus. Er enghraifft, mae’r Cynllun Graddedigion yn cynnig lleoliad gwaith penodedig am ddwy flynedd a chyfleoedd strwythuredig i ddatblygu medrau rheoli mewn sefydliad dynamig ac amrywiol, ynghyd â Chymhwyster Rheoli Prosiectau Lefel 4.

 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae diwylliant cryf yn y Cyngor o fuddsoddi yn natblygiad proffesiynol ei staff. Mae cynllunio ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â chyflawni blaenoriaethau’r Cyngor, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol a’r Cynllun Strategol Addysg.

Mae’r ALl yn cefnogi datblygiad darparwyr arweinwyr ysgolion yn dda. Maent yn sicrhau y caiff ystod eang o gyfleoedd eu cynnig i arweinwyr canol ac uwch arweinwyr ddatblygu a gwella eu medrau arweinyddiaeth. Mae Rhaglen Darpar Arweinwyr yr awdurdod lleol yn gryfder penodol. Caiff y rhaglenni hyn eu cynllunio a’u gwerthuso’n effeithiol i fodloni disgwyliadau ac anghenion darpar arweinwyr, a chânt eu hesblygu a’u haddasu i sicrhau eu bod yn parhau’n addas i’r diben.

Mae Rhaglen Darpar Arweinwyr RhCT yn unigryw o ran ei dyluniad a’r modd y caiff ei chyflwyno. Caiff y rhaglen ei chynllunio er mwyn ymateb i anghenion penodol y garfan yn ogystal a blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.  Bu’n arbennig o lwyddiannus o ran hyrwyddo twf personol a phroffesiynol y cyfranogwyr. Bu’n gymorth effeithiol, nid yn unig i arweinwyr newydd benodedig, ond hefyd o ran cynllunio olyniaeth uwch arweinwyr ym mhob ysgol yn RhCT dros y degawd diwethaf.

Mae diwylliant cryf o nodi a chefnogi potensial mewn cyflogeion ac mae’r awdurdod lleol yn buddsoddi’n gryf mewn datblygu ei weithlu. Er enghraifft, gall staff yr awdurdod lleol sy’n dyheu am swyddi rheoli fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dysgu strwythuredig, gan gynnwys ystod eang o raglenni arweinyddiaeth.

Er 2005, mae llawer o staff addysg wedi cymryd rhan mewn ystod o brosiectau trawsgyfarwyddiaeth, gan gynnwys datblygu medrau annog a mentora a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil.

Mae’r ystod eang hon o strategaethau wedi cefnogi cynllunio olyniaeth yn yr awdurdod lleol yn dda. Mae llawer o gyn brentisiaid, graddedigion a hyfforddeion yn mynd ymlaen i gael swyddi parhaol gan gynnwys rolau arweiniol yn y Cyngor.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae arweinyddiaeth ar draws y gyfarwyddiaeth yn gryf ac yn effeithiol. Mae’r ystod eang o hyfforddiant wedi cefnogi arweinwyr ar bob lefel i ddatblygu ystod o fedrau. Maent yn arwain trwy esiampl yn dda ac wedi sicrhau gwelliannau effeithiol ar draws y gyfarwyddiaeth. Er enghraifft, mae’r tîm gwella ysgolion wedi cryfhau’r ffordd y mae’n herio ac yn cefnogi’r consortiwm rhanbarthol i wella cymorth i’w hysgolion.

Mae Rhaglen Darpar Arweinwyr ysgolion yr awdurdod lleol yn uchel ei pharch ymhlith arweinwyr ysgolion ac wedi cefnogi twf a datblygiad y cyfranogwyr hyn yn dda. Mae’r holl staff a gymerodd ran yn y rhaglen ddiweddar wedi cael swyddi arweinyddiaeth.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn